MA Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau
Dyfarniad:
MA Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau
Corff dyfarnu:
Prifysgol De Cymru
Lleoliad astudio:
Caerdydd (CBCDC, Stiwdios Llanisien a’r Hen Lyfrgell)
Dyddiad dechrau:
21 Medi 2025
Hyd:
24 mis llawn amser
Cod y cwrs:
400F – UCAS Conservatoires
Cyflwyniad
Gyda hyfforddiant gan arbenigwyr yn y diwydiant a phedwar lleoliad gwaith, mae’r cwrs hwn yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio ym myd cynhyrchu ffilmiau, digwyddiadau byw, theatr a theledu.
Trosolwg o’r cwrs
Mae’r cwrs hyfforddiant galwedigaethol arbenigol hwn yn rhoi’r ystod lawn o sgiliau angenrheidiol i chi weithio yn rheoli llwyfan ym maes y theatr, digwyddiadau byw, rheoli cynyrchiadau, cyfarwyddo technegol neu rolau yn y diwydiannau teledu a ffilm.
Mae wedi’i anelu at raddedigion unrhyw ddisgyblaeth sydd â phrofiad ymarferol blaenorol, neu’r rheini sydd wedi gweithio yn y diwydiannau adloniant neu ddigwyddiadau, sy’n dymuno cael hyfforddiant pellach neu wella eu cyfleoedd cyflogaeth.
O’r cychwyn cyntaf, byddwch yn cael cyfres o hyd at bedwar lleoliad chwe wythnos yn gweithio ar gynyrchiadau a digwyddiadau yn ein canolfan gelfyddydau brysur, sy’n adlewyrchu arferion ac amodau’r diwydiant adloniant.
Neu gallwch ddewis cael hyd at ddau o’r lleoliadau hyn gyda chwmnïau proffesiynol. Bydd gennych y rhyddid i ffurfio eich profiad gwaith i gyd-fynd â’ch diddordebau a’ch uchelgais o ran gyrfa.
Yn ogystal â’r hyfforddiant ymarferol, byddwch yn cael dosbarthiadau sy’n canolbwyntio ar y sgiliau technegol a threfnu sy’n hanfodol ar gyfer eich rôl cynhyrchu. Mae’r rhain yn cynnwys meysydd fel iechyd a diogelwch, cynllunio gyda chymorth cyfrifiadur (CAD), deddfwriaeth cyflogaeth, rolau swyddi, creu cyllidebau ac amserlennu.
Mae’r holl elfennau hyn, ar y cyd â dosbarthiadau meistr a seminarau gan arbenigwyr adnabyddus, yn rhoi profiad dysgu cynhwysfawr i chi a fydd yn eich sefydlu ar gyfer gyrfa mewn diwydiant cyffrous.
Pam astudio’r cwrs hwn?
- Drwy gydol eich hyfforddiant a’ch lleoliadau gwaith yma yn y Coleg, cewch eich arwain gan dîm o staff a goruchwylwyr cynhyrchu sy’n ymarferwyr cyfredol, ac sydd wedi’u hen sefydlu yn y diwydiant. Byddant yn cynnig cyfleoedd mentora i chi yn ogystal ag addysg o'r radd flaenaf.
- Mae’r lleoliadau gwaith yn dechrau yn gynnar yn ystod eich cwrs, sy’n golygu eich bod yn cael profiad ymarferol gwerthfawr. Yn eich lleoliadau gwaith yma yn y Coleg, byddwch yn ysgwyddo rolau cynhyrchu mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys rhai mewnol fel dramâu, theatr gerdd a chynyrchiadau teithio, opera, cyngherddau cerddorfaol, arddangosiadau a digwyddiadau yn yr awyr agored.
- Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â pherfformwyr, cynllunwyr, cyfarwyddwyr, cleientiaid a staff canolfannau mewn amgylchedd sy’n adlewyrchu arferion ac amodau'r diwydiant adloniant, er mwyn eich paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
- Mae gennym gysylltiadau agos iawn â’r diwydiant, sy’n caniatáu i ni gynnig cyfleoedd i’n myfyrwyr ar leoliad - nid yn unig mewn theatr, ond ar draws y diwydiant, gan gynnwys digwyddiadau, ffilm a theledu.
- Mae'r partneriaethau hyn â’r diwydiant a’ch gwaith yn cydweithio â goruchwylwyr cynhyrchu proffesiynol ac arbenigwyr mewn digwyddiadau hefyd yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio i chi. Felly byddwch yn gallu dechrau datblygu eich rhestr o gysylltiadau, sy’n hanfodol ar gyfer gyrfa yn y sector adloniant.
- Cewch wersi iechyd a diogelwch, cynllunio gyda chymorth cyfrifiadur (CAD), rolau swyddi, cyllidebau, amserlennu a sgiliau technegol hanfodol. Mae dosbarthiadau datrys problemau, theori rheoli, logisteg, gweithio mewn tîm a chynllunio gyrfa yn rhan o’ch astudiaethau hefyd.
- Cewch gyfle i fynd i ddosbarthiadau meistr a seminarau a gyflwynir gan arbenigwyr blaenllaw. Maent yn cynnig cyfle i chi rwydweithio, cael cipolwg gwerthfawr ar y proffesiwn a deall y diwydiant yn well.
- Byddwch yn gweithio’n agos gyda myfyrwyr ar eich cwrs, yn ogystal â myfyrwyr cyrsiau BA ac MA Cynllunio ar gyfer Perfformio, BA ac MA Actio a BA ac MA Theatr Gerdd. Ar wahân i gael cipolwg ar ddisgyblaethau creadigol eraill, byddwch hefyd yn cael y cyfle i greu partneriaethau creadigol a all bara am oes.
- Mae ein graddedigion yn boblogaidd iawn yn y diwydiant. Maent wedi mynd ymlaen i wahanol rolau – fel rheolwyr cynhyrchu, cyfarwyddwyr technegol, rheolwr llwyfan cwmni, rheolwr llwyfan, is-reolwr llwyfan, rheolwr llwyfan cynorthwyol, cynorthwyydd technegol a chynhyrchydd – mewn sefydliadau fel y National Theatre yn Llundain, National Theatre Wales, Theatr Sherman Caerdydd, Canolfan Mileniwm Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, Royal Shakespeare Company a theatr y Glôb Shakespeare.
- Maent hefyd wedi bod yn ymwneud â nifer o sioeau yn y West End, fel Harry Potter and the Cursed Child a Wicked, a nifer o deithiau rhyngwladol ac yn y DU fel War Horse a Red Shoes gan Matthew Bourne. Mae enghreifftiau pellach yn cynnwys teithiau o amgylch y byd gyda Phantom of the Opera, Beyonce a’r Spice Girls.
- Gallwch ddewis sut i ymdrin â chydran olaf eich cwrs - gall gynnwys naill ai ysgrifennu traethawd hir neu greu portffolio ymarfer proffesiynol (PPP), gyda chymorth a mentora gan eich tiwtoriaid.
Gwybodaeth arall am y cwrs
Gwybod mwy am yr adran
Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf
Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau
Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy