Syr Ian McKellen yn cyhoeddi enw gwobr Shakespeare David Rowe-Beddoe Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Darllen mwy
Anfonodd Tianyi Lu, a raddiodd mewn Arwain, y neges hon i’r Coleg pan glywodd ei bod wedi ennill y Wobr Gyntaf yn Nawfed Cystadleuaeth Arweinwyr Rhyngwladol Syr Georg Solti o fri.
‘Nid oes yr un dyn na menyw (!) yn ynys – rydym yn gynnyrch holl arweiniad, cefnogaeth ac anogaeth eneidiau di-ri sydd wedi dyrchafu, ysbrydoli a chyffwrdd â’n bywydau.
Rwy’n hynod ddiolchgar i staff a myfyrwyr CBCDC sydd wedi bod yn ddylanwad hollbwysig yn fy natblygiad dros y blynyddoedd, yn arbennig fy athro, David Jones.
Mae hon wedi bod yn flwyddyn mor heriol i gymaint o bobl ledled y byd, ac i minnau hefyd, ond rwy’n gwbl argyhoeddedig bod gan bob rhwystr a her y grym i’n trawsnewid a’n cryfhau er gwell.
Rydw i eisiau anfon fy nghariad a’m hanogaeth i’r holl fyfyrwyr sydd wedi gorfod, ac sy’n dal yn, wynebu heriau a chaledi sy’n ymddangos yn anoresgynnol.’Tianyi LuArwain Graddedig
Astudiodd Tianyi ar gwrs arwain cerddorfaol CBCDC a graddiodd gyda rhagoriaeth yn 2015.
Gan arwain y ffordd i fenywod ym maes arwain, llynedd daeth Tianyi yn Arweinydd Preswyl Benywaidd cyntaf WNO a’r mis diwethaf hi oedd y fenyw gyntaf i dderbyn y Wobr Gyntaf yng Nghystadleuaeth Arwain Ryngwladol Guido Cantelli yn yr Eidal.
Yn y gystadleuaeth enillodd hefyd Dyfarniad Ieuenctid a Gwobr y Gerddorfa, a ddewiswyd gan aelodau Cerddorfa Teatro Regio.
'Dechreuodd Tianyi ar antur dewr, yn teithio ar draws y byd o Seland Newydd er mwyn astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Mae ei dawn gerddorol gynhenid wedi’i fframio gan wyleidd-dra naturiol a pharch ac o’r dechrau denodd hyn staff a myfyrwyr CBCDC fel magned cerddorol, gan greu prosiectau creadigol unigol yn gyflym.
Mae’n bleser gweld cyfuniad hyfryd o ddoniau Tianyi yn cael eu cydnabod ar y llwyfan byd-eang, a pharhau ein gwaith gyda hi fel cydweithiwr gwerthfawr.’Kevin PricePennaeth Perfformio Cerddoriaeth
Gallwch ddilyn stori Tianyi ar ei gwefan: www.tianyi-lu.com