Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Gwobr Syr Ian Stoutzker 2023

Llongyfarchiadau i Edward Kim, nid yn unig am ennill Gwobr Syr Ian Stoutzker eleni, ond hefyd am ennill calon ei wir gariad.

Roedd Edward mor hapus gyda’r canlyniad nes iddo fanteisio ar y cyfle i ofyn i’w gariad, Weiying Sim, ei briodi. Llongyfarchiadau i bawb!

Dyfernir gwobr Stoutzker gwerth £10,000 yn flynyddol i offerynnwr neu ganwr mwyaf rhagorol y Coleg ac roedd gwobr 2023 yn canolbwyntio ar y cantorion eithriadol sy’n astudio yn y Coleg.

Yn y rownd derfynol fe wnaeth Edward gystadlu ochr yn ochr â’i gyd-fyfyrwyr Hedy Chan, Joanna Cooke a Rael Rent, sydd i gyd yn eu blwyddyn olaf ar y cwrs MA Perfformio Opera yn Ysgol Opera David Seligman y Coleg.

Gyda’r hyfforddwr llais a’r myfyriwr graddedig Nicola Rose yn cyfeilio iddynt, cyflwynodd pob canwr ddatganiad 30 munud o gerddoriaeth o’u dewis i’r gynulleidfa, a oedd yn cynnwys panel o feirniaid uchel eu parch, Leah Marian Jones, Neal Davies a Rebecca Evans CBE.

‘Rydw i wedi mwynhau’r broses o baratoi ar gyfer gwobr Stoutzker yn fawr iawn. Roedd pob rownd yn golygu gwahanol heriau a phethau i’w hystyried, ond rydw i wedi dysgu cymaint amdanaf fy hun fel perfformiwr dros y misoedd diwethaf.
Hoffwn ddiolch i fy holl athrawon, hyfforddwyr a chyfeilyddion am fy helpu ar y daith hon. Bydd ennill y wobr yn hwyluso’r newid o fod yn fyfyriwr i fod yn gerddor llawrydd yn ariannol ac yn broffesiynol.

Roeddwn yn paratoi i ofyn i fy nghariad fy mhriodi a’r eiliad y cyhoeddwyd y canlyniad roeddwn yn siŵr mai dyma foment bwysicaf fy mywyd. Rydw i mor hapus i rannu’r foment arbennig hon gyda’r panel, y gynulleidfa a chydweithwyr.

Diolch o waelod calon.’
Edward KimEdward Kim

Dyma’r foment y gofynnodd Edward i Weiying ei briodi. Mae hi wedi bod yn flwyddyn ryfeddol i’r ddau ohonynt, gydag Edward yn dod yn ysgolor canmlwyddiant Syr Geraint Evans cyntaf y Coleg, a Weiying yn ennill Gwobr Opera Janet Price.

Mae gwobrau fel Gwobr Syr Ian Stoutzker yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ariannu eu haddysg ac yn aml yn caniatáu iddynt barhau i astudio gyda ni yn y Coleg ar gyfer graddau ôl-radd.

Perfformiodd y myfyrwyr yn Neuadd Dora Stoutzker a roddwyd yn hael gan Syr Ian er cof am ei fam.

Mae enillwyr blaenorol Gwobr Syr Ian Stoutzker yn cynnwys y soprano Elena Zamudio, y tenor Rhodri Jones a’r ffliwtydd Isabelle Harris.

Storïau eraill