Enillydd Gwobr Syr Ian Stoutzker 2022
Dyfernir y wobr o £10,000 yn flynyddol i’r offerynnwr neu’r canwr mwyaf neilltuol yn y Coleg a thro’r offerynwyr eithriadol sy’n astudio yn y Coleg oedd hi eleni.
Bu Isabelle yn cystadlu ochr yn ochr â’i chyd-fyfyrwyr yn y rownd derfynol, y chwaraewr soddgrwth Tabitha Selley, y pianydd Sayoko Wada, a’r sacsoffonydd Megan Glover, gyda phob un ohonynt yn cyflwyno datganiad 30 munud hyd o gerddoriaeth o’u dewis i gynulleidfa gefnogol o deulu, ffrindiau, ac aelodau’r cyhoedd yn rownd derfynol Gwobr Syr Ian Stoutzker gyntaf i fod ar agor i’r cyhoedd ers 2020.
Roeddent yn perfformio yn neuadd gyngerdd Dora Stoutzker a roddwyd yn hael gan Syr Ian er cof am ei fam.
Allow Instagram content?
Lorem ipsum doler sit amet Instagram seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.
Cadeiriwyd y panel o feirniaid uchel eu parch eleni gan yr arweinydd a’r feiolinydd Alex Laing, a oedd yng nghwmni’r arbenigwr piano Penelope Roskell, yr arbenigwraig soddgrwth Jo Cole, yr arbenigwraig sacsoffon Amy Dickson, a’r arbenigwraig ffliwt Claire Wickes.
'Mae hi wir yn werth cydnabod safon y gerddoriaeth sy’n amlwg yn dod allan o’r Coleg, a thystiolaeth glir o’r addysgu rhagorol sydd yma hefyd.
Mae’n wych ei glywed. Pleser pur oedd clywed cyngerdd gan bedwar cerddor proffesiynol cyflawn.'Alex Laing
'Hoffwn hefyd ddweud ei bod yn brofiad anhygoel clywed y cyngerdd rhyfeddol hwn yn Neuadd Dora Stoutzker.
Mae’r sain yno yn anghredadwy, gyda’r sain tawelaf un yn teithio’n syth o amgylch yr ystafell gyfan ac yn ein hamgáu, roedd yn brofiad aruthrol ac yn achlysur llawn llawenydd’Alex Laing
Diolch i’n beirniaid, ac i’n cyfeilyddion anhygoel.
Mae gwobrau fel Gwobr Syr Ian Stoutzker yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ariannu eu haddysg ac yn aml yn caniatáu iddynt barhau i astudio gyda ni yn y Coleg ar gyfer graddau ôl-radd.
Mae enillwyr blaenorol Gwobr Syr Ian Stoutzker yn cynnwys y soprano Elena Zamudio, a’r tenor Rhodri Jones.