#CBCDCcreadigol: Haf o ysbrydoliaeth
Mae'n rhaid i ni ddechrau drwy longyfarch ein holl raddedigion newydd a fu’n dathlu dod yn gynfyfyrwyr diweddaraf y Coleg ar ddiwedd y tymor diwethaf.
Croeso i gymuned CBCDC
A chroeso mawr i’n Cymrodyr newydd a ymunodd â Chymuned CBCDC.
ac i’n Cadeirydd ac aelodau bwrdd newydd.
Hen Lyfrgell, gweledigaeth newydd
Mae’r gŵr busnes nodedig o Gymro-Americanwr, Syr Howard Stringer wedi rhoi rhodd hynod hael o £2 filiwn i’r Coleg, i’n helpu i adfer a thrawsnewid canol dinas Caerdydd.
‘Rydym yn ddiolchgar dros ben i Syr Howard a’r Fonesig Stringer am y rhodd hael a diffuant hon.
Bydd ehangu’r Coleg i’r adeilad hwn yng nghanol y ddinas - yn union gyferbyn â Neuadd Dewi Sant - yn rhoi estyniad pwysig i’n gallu addysgu a’n rhaglenni talent.
Yr un mor bwysig, mae hefyd yn rhoi cyfle prin i ni gynnig mannau perfformio a gweithdai hyblyg a chreu canolfan ddiwylliannol, artistig ac addysgol hygyrch iawn i’r cyhoedd.’Helena GauntPrifathro
Yng nghwmni Barbie
Gan fod yr haf hwn wedi cynnwys cryn dipyn o binc, gadewch i ni ddechrau gydag Emily Bates a raddiodd mewn Cynllunio ar gyfer Perfformio.
Roedd Emily, a wnaeth hefyd gyrraedd rownd derfynol Gwobr Linbury, yn Gynllunydd Set Iau/Drafftsmon ar y ffilm Barbie hynod lwyddiannus.
Hi wnaeth y darluniau ar gyfer y pum set fechan wahanol yn y ffilm, un ar gyfer Weird Barbie, un ar gyfer Circus Suburbs, traeth bychan ar gyfer adeiladau’r traeth, anialwch bychan - ynghyd â Corvette pinc bach! — a Tref Brysur fechan.
Edrychwch ar y clip youtube i weld y delweddau bychan.
Allow Youtube content?
Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.
BBC Canwr y Byd Caerdydd - rownd derfynol Cymru
Mae bob amser yn brofiad arbennig iawn i groesawu BBC Canwr y Byd Caerdydd i’r Coleg. Ond yr oedd eleni yn fwy arbennig fyth. Nid yn unig bod y gystadleuaeth yn dathlu ei deugeinfed pen-blwydd, ond Jessica Robinson, un o raddedigion CBCDC, oedd y canwr gyntaf o Gymru mewn ugain o flynyddoedd i gyrraedd y rownd derfynol.
Ennill y cyfan
Roedd dau ddathliad i’r myfyriwr opera Edward Kim, a enillodd nid yn unig Wobr Syr Ian Stoutzker eleni, ond hefyd galon ei gariad.
Roedd mor falch o ennill gwobr fawreddog y Coleg nes iddo fanteisio ar y cyfle i ofyn i’w gariad Weiying Sim ei briodi.
Mae hi wedi bod yn flwyddyn ryfeddol i’r ddau ohonynt, gydag Edward yn ysgolor canmlwyddiant Syr Geraint Evans cyntaf y Coleg, a Weiying yn ennill Gwobr Opera Janet Price.
Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw.
Ysgoloriaeth nodedig - gwobr Ymddiriedolaeth Julian Bream
Y myfyriwr gitâr Luke Bartlett ac Oliver Manning, a raddiodd yn ddiweddar, yw myfyrwyr CBCDC cyntaf i ennill ysgoloriaethau Ymddiriedolaeth Julian Bream.
Ar ôl clyweliad gerbron neb llai na’r gitarydd o fri John Williams yn y Royal Academy of Music yn Llundain, mae’r ddau wedi derbyn ffioedd dysgu llawn am y flwyddyn i ddod.
Diolch Paula Gardiner
Yn yr adran Jazz, ac ar draws y Coleg, gwnaethom ffarwelio a dweud diolch yn fawr iawn, i’r Pennaeth Jazz, Paula Gardiner gydag AmserJazzTime i ddathlu.
Mae Paula wedi bod yn y Coleg ers bron i 23 mlynedd - ac rydym yn edrych ymlaen at ei chroesawu yn ôl fel gwestai AmserJazzTime yn fuan!
Rydym hefyd yn estyn croeso cynnes iawn i’w holynydd Andrew Bain - dyma ein datganiad i’r wasg yn ei groesawu i’r Coleg.
Haf o gerddoriaeth a diwylliant Cymreig
Yn ôl yr arfer, bu’r Coleg yn dathlu cerddoriaeth a diwylliant mewn gwyliau ledled Cymru dros yr haf.
Yn yr Eisteddfod Genedlaethol – sy’n ddathliad blynyddol o’r Gymraeg a diwylliant Cymraeg – cyflwynodd Elen Wyn, un o fyfyrwyr ôl-raddedig yr adran Leisiol, arddangosfa ar David Harries, y cyfansoddwr o Gymru, gyda pherfformiadau gan Cerys Rees, un o raddedigion yr adran Delyn, a gan Zoe Smith, Pennaeth y Rhaglenni Cerdd Ôl-radd.
Ymunodd Cerys hefyd â Cai Charles, myfyriwr Gitâr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mewn datganiad o gerddoriaeth unawdol o Gymru, gyda Cerys yn perfformio set o dri darn a ysgrifennwyd ar ei chyfer gan fyfyriwr graddedig, Tomos Owen Jones, sy’n Gyfansoddwr a Pherfformiwr.
Mae Tomos ar fin cychwyn yn Ysgol Opera David Seligman y Coleg.
Llongyfarchiadau i Cai, gitarydd sy'n fyfyriwr ôl-raddedig yn yr adran glasurol, a enillodd y gystadleuaeth Unawd Llinynnol ar gyfer cystadleuwyr 19 oed a hŷn.
Cafodd hefyd ei ddewis i gystadlu am wobr fawreddog y Rhuban Glas, fel un o'r pedwar offerynnwr gorau o blith yr holl gategorïau.
Cafodd Cerys a Tomos haf prysur, wrth iddyn nhw fynd ymlaen i Wŷl Gerdd Abergwaun, gan ymuno ag Aulus Duo (sy’n cynnwys rhai o fyfyrwyr ôl-raddedig y llynedd, gydag Ellie Knott ar y ffliwt a Georgina Dadson, sy’n gweithio’n rheolaidd i Live Music Now, ar y gitâr).
Ochr yn ochr â hynny rhoddwyd teyrnged i David Harries a David Vaughan Thomas, dau gyfansoddwr o bwys o Gymru – lle daeth graddedigion, Tabitha Selley ar y soddgrwth ac Alice Apreda Howells ar y fiolin, i ymuno â Zoe Smith a Tomos Owen Jones.
Perfformiad Pypedau yn Tafwyl
Bu Jodie Yates, Alexandra Kay a Dafydd Morgan, graddedigion Dylunio ar gyfer Perfformiad, wrthi’n creu a chyflwyno perfformiad promenâd pypedau ar gyfer Tafwyl eleni.
'Roedd arddull perfformiad stryd y myfyrwyr wir wedi ychwanegu at yr awyrgylch gŵyl, ac fe wnaethon nhw ymgysylltu â channoedd o blant ac oedolion dros y penwythnos.
Mae Tafwyl yn edrych ymlaen at ddatblygu a pharhau â’r berthynas hon gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, drwy gynnig cyfleoedd creadigol a thechnegol i fyfyrwyr.’Menter CaerdyddTrefnydd yr ŵyl
Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Mae Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn dod â rhai o’r actorion, dawnswyr, cantorion a cherddorion ifanc mwyaf disglair at ei gilydd.
Roedd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru eleni yn cynnwys nifer o fyfyrwyr lleisiol presennol, blaenorol a newydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn ogystal â myfyrwyr o ddisgyblaethau offerynnol.
Mae Tîm Creadigol y côr yn cynnwys staff o'n hadran leisiol a'n Cyfarwyddwr Cerdd, Tim Rhys-Evans, sy’n arwain y Côr ers 2018. Bu’r côr yn perfformio gweithiau gan raddedigion Cyfansoddi diweddar, sef Oliver Trigg a Derri Lewis.
Rheolaeth yn y Celfyddydau
Er nad yw myfyrwyr Rheolaeth yn y Celfyddydau yn gorffen eu hastudiaethau tan yr hydref, yn ôl yr arfer mae llawer ohonynt eisoes wedi cael gwaith, ac yn ôl yr arfer maent yn cynrychioli llawer o wahanol feysydd yn y celfyddydau:
Mae Joanna Phillips yn Gynorthwyydd Dysgu a Chyfranogiad yn y Philharmonia, yn helpu i redeg prosiectau allgymorth ledled y wlad ac yn gweithio gyda phlant ysgol, gweithwyr proffesiynol ifanc, oedolion a phobl â dementia mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ac aelodau’r gerddorfa.
Annabel Atkins yw Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a Chyfathrebu Rambert, a Gregor Spence yw Swyddog Dyngarwch yn nhîm Datblygu Garsington Opera, un o wyliau mwyaf blaenllaw Ewrop. Un o’i rolau yw gweithio ar brosiect cyfalaf gwerth £14.5 miliwn i adeiladu Garsington Studios, yn ogystal â gofalu am aelodaeth ac Ymddiriedolaeth a Sefydliadau.
Llongyfarchiadau mawr i’n holl fyfyrwyr Rheolaeth yn y Celfyddydau.
Cynllunio ledled y byd - Prague Quadrennial
Yn ogystal â’r arddangosfa Balance flynyddol yng Nghaerdydd a Llundain, aeth rhai myfyrwyr Cynllunio ar gyfer Perfformio hefyd i ddathliad senograffeg Prague Quadrennial mawreddog.
'Roedd yn brofiad gwych o ran dysgu a datblygu fy ngyrfa ar gyfer y dyfodol, a sylweddoli y byddwn wrth fy modd yn gweithio ar ddigwyddiadau byw yn y dyfodol, rhywbeth nad oeddwn wedi’i ystyried cyn fy nhaith.
Mae cyfleoedd fel hyn yn rhai gwerthfawr iawn oherwydd rydym yn cael ein haddysgu i arbenigo wrth i ni ddatblygu ein hyfforddiant.
Gall rhoi cynnig ar agweddau newydd o theatr neu ddigwyddiadau gyflwyno llwybr gyrfa newydd i chi, llwybr na fyddech wedi dychmygu y byddech yn ei garu.'Johanna Bunyan
Gwirfoddoli Rheoli Llwyfan
Yn ddiweddar, gwirfoddolodd Grace Taylor, myfyriwr Rheoli Llwyfan, gyda Gŵyl Gymunedau Cymdeithas Cyflawniadau Menywod Lleiafrifoedd Ethnig Cymru.
Gan weithio gyda’r Athro Meena Upadhyaya Athro Emerita, Is-adran Canser a
Geneteg ym Mhrifysgol Caerdydd, sylfaenydd a chadeirydd y gwobrau, Grace oedd
yn rheoli’r llwyfan, yn cysylltu â’r peirianwyr a hefyd yn gweithio gyda Rahim
El Habachi, Swyddog Cyswllt Creadigol gyda National Theatre Wales.
Allow Youtube content?
Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.
'Roedd yn brofiad gwych gallu defnyddio fy sgiliau a’m hangerdd dros y celfyddydau a rheoli llwyfan i gynorthwyo Meena a’i thîm i arddangos talent ein dinas yn ogystal â dysgu am ddiwylliannau gwahanol.
Roedd y digwyddiad cyfan yn teimlo’n gysylltiedig iawn ac rwy’n gobeithio gallu bod yn rhan o rywbeth fel hyn eto.'Grace TaylorMyfyriwr rheoli llwyfan
O’r Coleg i’r perfformiad llwyfan proffesiynol cyntaf
Mae dau o’n graddedigion actio wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobrau Stage Debut 2023: Isobel Thom am ei rôl flaenllaw yn ‘I, Joan’ yn theatr Globe Shakespeare, yn syth ar ôl graddio y llynedd. A Rhian Blundell, am ei rôl yn ‘Let the Right One In’ yn theatr Royal Exchange, Manceinion.
Bydd yn dipyn o aduniad o safbwynt Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gan y bydd Callum Scott Howells, un o fyfyrwyr graddedig 2020 sy’n adnabyddus am ei berfformiadau yn ‘It’s a Sin’ a ‘Cabaret’, yn cyflwyno gwobr yng ngwobrau Stage Debut ddydd Sul 1 Hydref.
Actores arall sydd wedi mynd yn syth i'w hymddangosiad cyntaf ar lwyfan yw’r actores MA Tanya Katyal, a raddiodd ym mis Gorffennaf ac a gafodd brif ran yn syth yn y Royal Shakespeare Company.
Mae hi’n chwarae’r brif ran, Rani Das, yng nghynhyrchiad newydd 'The Empress' ac wedi cael canmoliaeth fawr.
Mewn cast sydd i gyd yn eithriadol, ac yn cynnwys un o’n graddedigion Anish Roy, sydd hefyd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn yr RSC, disgrifiodd adolygiad The Guardian ei pherfformiad fel ‘cyfuniad union o fregusrwydd a herfeiddiad.’
Theatr Gerddorol
Y ffordd orau o gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein holl newyddion ym maes Theatr Gerdd yw dilyn straeon @royalwelshmt ar Instagram.
Dyma rywfaint o’r newyddion diweddar: bydd Dominique Skinner, myfyriwr graddedig, yn ymddangos yn 'Ainadamar' yn Opera Cenedlaethol Cymru y tymor hwn, ar ôl teithio yn yr un cynhyrchiad gyda’r Scottish Opera yn y gorffennol.
Bydd Eric Hallengren yn perfformio ei brif ran gyntaf fel Nick Bottom, un o ddau frawd yn 'Something Rotten', sioe gomedi newydd yn arddull y Dadenni, yn y Ffindir ym mis Medi.
Ac mae Tim Roberts yn ymddangos yn 'Jesus Christ Superstar', yn y cynhyrchiad gwreiddiol gan Tim Sheader sydd ar daith o amgylch y DU.
Gallem ddweud mwy a mwy... ond dilynwch @royalwelshmt i gael rhagor o wybodaeth.
Rhown y gorau iddi am y tro, ond cofiwch ein dilyn ar ein holl sianeli
cyfryngau cymdeithasol i gael yr holl newyddion diweddaraf.
Peidiwch ag anghofio y gallwch gael y newyddion diweddaraf am #CBCDCCreadigol ar yr holl blatfformau cyfryngau cymdeithasol. A chadwch lygad am ein TikTok Dydd Iau newydd: