Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

CBCDC ymhlith conservatoires gorau Ewrop…

Rydym mor falch bod y Coleg wedi cael ei alw’n enghraifft ddisglair o arfer gorau ar draws conservatoires Ewropeaidd gan adolygiad ansawdd MusiQue.

CBCDC yw’r sefydliad cyntaf yn y DU i dderbyn lefel safon aur o sicrwydd ansawdd ar draws meysydd Cerddoriaeth, Drama a Dan 18 gan MusiQue, sefydliad annibynnol sy’n gyfrifol am werthuso safonau rhyngwladol mewn addysg uwch – ac fe wnaethom lwyddo’n orchestol!

Allow Twitter content?

Lorem ipsum doler sit amet Twitter seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Y 5 peth y mae angen i chi eu gwybod am ansawdd CBCDC

  • Yn adolygiad ansawdd rhyngwladol MusiQuE, cafodd CBCDC y marciau uchaf.
  • CBCDC yw’r sefydliad cyntaf yn y DU i gyflawni’r lefel hon o sicrwydd ansawdd ar draws meysydd Cerddoriaeth, Drama a rhai Dan 18 oed.
  • Gwnaeth dull CBCDC o ran profiad myfyrwyr unigol, cydweithredu amlddisgyblaethol ac uchelgais cyffredinol argraff arbennig ar yr adolygwyr.
  • Ar ôl edrych yn fanwl ar bob agwedd ar y Coleg, daeth yr adolygiad i’r casgliad bod CBCDC yn enghraifft wych o arfer gorau ar draws conservatoires Ewropeaidd.
  • Byddwn yn gwisgo’r bathodyn anrhydedd hwn gyda balchder, fel adlewyrchiad o’r bobl eithriadol a’r gymuned unigryw sydd gennym yn CBCDC.

Gwnaeth dull y Coleg o ran profiad myfyrwyr unigol, cydweithredu ar draws adrannau ac uchelgais cyffredinol argraff arbennig ar yr adolygwyr, sef tîm proffesiynol o wahanol Gonservatoires ar draws Ewrop.

‘Mae ymrwymiad y Coleg i gydweithio – partneriaethau (rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol) a sicrhau’r profiad amlddisgyblaethol gorau o fewn y cwricwlwm – yn arbennig o drawiadol.’
Adolygiad MusiQue

‘Rydym yn gosod y safonau uchaf oll i’n hunain,’ meddai Prifathro CBCDC, Helena Gaunt, ‘ac ysgogir yr hyfforddiant a ddarperir gan ddisgwyliadau rhagoriaeth ym mhob ystyr. 

Mae’r adolygiad cynhwysfawr hwn ar draws pob elfen o’n gwaith yn dangos bod y Coleg a phawb sy’n rhan ohono yn mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau yn ddyddiol.'

‘Byddwn yn gwisgo’r bathodyn anrhydedd hwn gyda balchder, fel adlewyrchiad o’r bobl eithriadol a’r gymuned unigryw sy’n rhan o CBCDC.

Ac oherwydd ein bod bob amser yn ymdrechu i fod hyd yn oed yn well, rydym eisoes yn croesawu unrhyw awgrymiadau sydd wedi’u rhannu drwy’r adolygiad hwn.

Byddwn yn parhau i wrando a dysgu wrth i ni adeiladu tuag at yfory cryfach. Diolch i bawb sy’n gwneud y Coleg yn gymuned ydyw.’
Helena GauntPrifathro CBCDC

'Mae tîm yr adolygiad o’r farn bod ymrwymiad y Coleg i brofiad myfyrwyr unigol, ei ymrwymiad i wasanaethu grwpiau a dangynrychiolir ac i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn gasgliad hynod werthfawr o nodau.

Roedd yr ymrwymiad hwn yn amlwg i’r tîm yn ei holl ... ymwneud â’r Coleg.’ Adolygiad MusiQue.

Storïau eraill