Gwobr Opera Janet Price 2023
Perfformiodd yr wyth cystadleuydd eu rhaglen 15 munud i gynulleidfa fyw a phanel o feirniaid uchel eu parch.
Mae Janet Price, sylfaenydd y wobr, yn credu’n gryf yn y traddodiad bel canto fel elfen sylfaenol o hyfforddiant operatig. Er mwyn adlewyrchu hyn, mae gofyn i bob perfformiwr gyflwyno rhaglen sy’n cynnwys aria Eidalaidd yn y traddodiad bel canto, aria gan Mozart, Lied Almaeneg neu Gân Gelf Ffrengig.
'Roedd yn hyfryd clywed pob un o wyth myfyriwr Opera blwyddyn gyntaf CBCDC a chefais fy mhlesio’n fawr gan eu dewis o raglenni.
Nid yn unig eu bod yn amrywiol iawn, roeddent hefyd yn cynnwys llawer o eitemau nas clywyd mewn cystadlaethau blaenorol. Felly rwy’n eu llongyfarch am fynd i’r drafferth i ddod o hyd i rywbeth gwahanol, a thrwy hynny ehangu eu repertoires eu hunain gan hefyd gynnig rhywbeth newydd i’r gynulleidfa ei fwynhau.
Roedd Weiying Sim yn enillydd teilwng - mae ganddi lais hyfryd, teimlad braf am linell, ac roedd ei thair eitem yn dangos llawer o botensial ar gyfer datblygiad yn y dyfodol. Dymunaf ail flwyddyn Astudiaethau Opera bleserus, ffrwythlon a llwyddiannus i’r holl fyfyrwyr yn CBCDC.'Janet Price
Mae’r wobr flynyddol, a sefydlwyd yn 2017, yn agored i fyfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf sy’n astudio ar y cwrs MA Perfformio Opera yn Ysgol Opera David Seligman y Coleg.
'Canodd Janet Price ar recordiad operatig cyntaf Opera Rara, Ugo Conte di Parigi gan Donizetti, ac rydym yn falch iawn o fod yn cydweithio â Janet a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar y wobr uchel ei bri hon.
Rydym yn edrych ymlaen at glywed Weiying Sim yn canu mewn cyngerdd salon Opera Rara y tymor nesaf.'Henry LittlePrif Weithredwr Opera Rara
Dywedodd Weiying wrthym faint oedd ennill y wobr yn ei olygu iddi.
'Rwy’n teimlo’n hynod wylaidd ac yn ddiolchgar fy mod wedi ennill Gwobr Opera Janet Price 2023.
Mae ennill y wobr hon yn rhoi’r cyfle i mi barhau â’m dyhead gydol oes yn y gelfyddyd hon sydd mor arbennig i mi, ac mae’r daith hon yn amhosibl heb gefnogaeth y soprano uchel ei pharch Janet Price, Opera Rara a CBCDC. Diolch yn fawr iawn'
Llongyfarchiadau i Weiying Sim, a’r perfformwyr eraill, Matthew Bawden, Kira Charleton, Abigail Fraser, Chloe Hare-Jones, Isobel Hughes, Rhiannon Morgan ac Andre Soares.
Yn cyd-feirniadu â Janet Price eleni roedd Henry Little, Prif Weithredwr Opera Rara, Lyndon Jones, BBC Canwr y Byd Caerdydd a Mary King, Pennaeth Astudiaethau Llais yn CBCDC.
Y cyfeilydd oedd Cyfarwyddwr Cerdd dros dro CBCDC ar gyfer Ysgol Opera David Seligman, James Southall.