Gwobr Opera Janet Price 2022
Mae’r wobr, sy’n agored i fyfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf yn astudio ar y cwrs MA Opera, yn cefnogi hyfforddiant uwch cantorion opera ifanc.
Mae Janet Price, sylfaenydd y wobr, yn credu’n gryf yn y traddodiad bel canto fel elfen sylfaenol yng nghelfyddyd hyfforddiant operatig.
Mae pob perfformiad yn adlewyrchu hyn gan fod yn rhaid i raglen y cystadleuwyr gynnwys aria Eidalaidd yn y traddodiad bel canto, aria Mozart, a Lied Almaenig neu Gân Gelf Ffrengig.
Canmolodd Janet yr holl gantorion, a’r elfen unigol oedd gan bob un ohonynt yn eu perfformiadau, ond wrth sôn am Erin meddai:
‘Mae gan Erin Spence hefyd bresenoldeb awdurdodol a llonyddwch personol sy’n denu’r gwrandäwr at ei chanu.
Cyflwynodd dri pherfformiad hynod ymroddedig a rhoddodd i ni sain lleisiol godidog a mewnwelediad gwirioneddol i gerddoriaeth a barddoniaeth y caneuon. Mae hi’n enillydd teilwng iawn o’m Gwobr Opera 2022 a dymunaf y gorau iddi ar gyfer y dyfodol.’Janet PriceSylfaenydd gwobr
Perfformiodd y chwe chystadleuydd eu rhaglen 15 munud i gynulleidfa fyw a phanel o feirniaid uchel eu parch. Llongyfarchiadau i Erin, ac i’w chyd-berfformwyr, Joanna Cooke, Arina Mkrtchian, Edward Kim, Hedy Chan Hoi-yi, a Rael Rent.
Paratoi ar gyfer perfformiad gwobrwyedig
Soniodd Erin wrthym am ei phrofiadau yn paratoi ar gyfer y wobr a’i chyflwyniad i ganu bel canto:
‘Dydw i erioed wedi canu bel canto o’r blaen, felly roedd hyn yn newydd iawn i mi. Yn digwydd bod, roedd gen i’r gerddoriaeth ar gyfer yr aria Bellini, a phan wnes i wrando arni roeddwn i wrth fy modd. Roedd mor anodd ond rwy’n falch iawn fy mod wedi penderfynu herio fy hun a mynd amdani!
'Mae ennill y wobr wedi rhoi hwb enfawr i’m hyder. Mae’n dangos bod llawer o ganu yn ymwneud â bod yn benderfynol.
Mae gen i lawer o hunan-amheuaeth ond roedd fy athrawon, ffrindiau a hyfforddwr i gyd yn dweud y dylwn gredu yn fy hun oherwydd eu bod yn gwybod y gallwn ei wneud.'Erin SpenceEnillydd Janet Price Opera Prize
'Yn ariannol mae hyn yn golygu y gallaf ddod yn ôl yma flwyddyn nesaf. Mae astudio yn costio llawer o arian ac mae mor gystadleuol pan ddaw hi i’r adeg hon o’r flwyddyn, ond mae hyn wedi codi pwysau enfawr oddi ar fy ysgwyddau.
Mae’r Coleg yn lle mor gynnes a chreadigol ac rwy’n teimlo’n hapus ac wedi setlo yma. Roeddwn i’n nerfus iawn i symud lawr yma ar ôl byw yn Glasgow am y chwe blynedd diwethaf, ond mae pawb mor hyfryd, ac mae fy mrawd yn astudio ar y cwrs BMus Corn Ffrengig yma hefyd, felly Caerdydd yw fy nghartref nawr.’
Y panel beirniadu
Yn ogystal â Janet Price ei hun, roedd y beirniaid yn cynnwys Cyfarwyddwr Artistig Ysgol Opera David Seligman John Fisher, Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth Artistig WNO Kate Baylis, a Chyfarwyddwr Cerddoriaeth CBCDC Tim Rhys-Evans. Y cyfeilydd oedd Alex Jenkins.
Mae astudiaethau Erin hefyd yn cael eu cefnogi’n hael gan Ymddiriedolaeth Leverhulme, Gwobr Eileen Price McWilliam, Ysgoloriaeth Jenkin-Phillips, Ymddiriedolaeth Ysgoloriaeth Caird ac Ymddiriedolaeth Addysgol Aspinwall.