Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cyfarwyddwyr Opera MA yn Cyfarwyddo Operau Un Act

Yn amrywio o wythnos ffasiwn Llundain i gêm o wyddbwyll, dangosodd gynyrchiadau opera gan gadw pellter cymdeithasol eleni greadigrwydd ein cyfarwyddwyr opera MA, fel yr adrodda Rosie Olver, myfyriwr Llinynnau:

Cwrs cyfarwyddo opera CBCDC yw’r unig un o’i fath yn y DU a llwyddodd myfyrwyr eleni, Fleur Snow a Madeleine Brooks, er gwaethaf yr holl rwystrau, i gyfarwyddo addasiadau creadigol o ddwy opera Baróc un act.

Venus ac Adonis

Penderfynodd Madeleine, a gyfarwyddodd Venus ac Adonis, leoli’r gwaith un act yn wythnos ffasiwn Llundain, gan weithio gyda’r cynllunydd Emma Boomer i ddod â’i chysyniad hynod wreiddiol yn fyw. Bu Madeleine yn sôn wrthym am yr ysbrydoliaeth ar gyfer ei syniadau:

‘Pan oeddem yn cynllunio’r prosiect i ddechrau sylweddolais sut y mae’r opera’n siarad am hagrwch a harddwch. Felly roeddem yn teimlo y byddai’r byd ffasiwn yn sefyllfa dda iawn.

Defnyddiom Anna Wintour neu Miranda Priestly fel ysbrydoliaeth ar gyfer Venus a datblygodd popeth o hynny.’
Madeleine BrooksMyfyriwr CBCDC
‘Yn wreiddiol gwnaethom gynllunio cynhyrchiad gan gadw pellter cymdeithasol, ond pan gyflwynwyd y cyfyngiadau newydd o chwe metr rhwng cantorion roedd angen newid cryn dipyn ar y syniadau.

Defnyddiom y neuadd gyfan, gyda’r corws yn seddi’r gynulleidfa.’
Madeleine BrooksMyfyriwr CBCDC

Dido ac Aeneas

Daeth Fleur hefyd o hyd i ffyrdd arloesol i gyflwyno ei chynhyrchiad o Dido ac Aeneas gan Purcell tra’n addasu i gyfyngiadau newydd:

‘Yn y diwedd aethom gyda’r cysyniad o wyddbwyll, lle mae’r duwiau’n chwarae gwyddbwyll a’r cymeriadau yw’r darnau. Gweithiodd y cysyniad hwn yn dda iawn oherwydd bod y syniad o ddau dîm, da a drwg, yn amlwg iawn yn yr opera hon. Hefyd, roedd cadw pellter cymdeithasol yn golygu bod angen i ni gael cynllun gofalus ar gyfer y symudiadau.’

Canfod atebion creadigol i’r cyfyngiadau newydd

Mae Fleur yn disgrifio’r canlyniadau syndod o gadarnhaol o weithio yn unol â’r cyfyngiadau pellter cymdeithasol newydd:

‘Oherwydd bod cael y cyfle i wneud hyn yn beth mor brin ar hyn o bryd, mae’r egni yn yr ystafell wedi bod yn rhyfeddol. Fe fu teimlad newydd o ddiben a balchder yn y gwaith rydym yn ei wneud, a drwy’r cyfnod i gyd mae wedi bod yn ystafell mor gadarnhaol i weithio ynddi.’

‘Mae bod yn ôl mewn rihyrsals, a gallu taflu syniadau a chreu’r byd hwn gyda’n gilydd, wedi adfywio fy egni. Gyda’r cyfyngiadau pellter cymdeithasol yn ein hatal rhag bod yn gorfforol agos roedd yn brofiad gwahanol iawn ar y dechrau.

Fodd bynnag, fe wnaeth pawb ohonom ddod dros hynny’n gyflym ac mae wedi bod yn gyfnod gwych.’
Marienella PhillipsMyfyriwr CBCDC

MA Cyfarwyddo Opera yn CBCDC

CBCDC yw’r unig sefydliad yn y DU i gynnig cwrs MA Cyfarwyddo Opera. Mae rôl y cyfarwyddwr yn un hynod greadigol a chydweithredol, felly mae’r cwrs yn cynnig y cyfle i’r myfyrwyr weithio ar draws adrannau, fel yr eglura Madeleine:

‘Mae’r cwrs wedi’i deilwra’n llwyr. Yn ein tymor cyntaf cawsom gyfle i fynychu dosbarthiadau o bob adran o’r Coleg megis theatr gerddorol, actio a chynllunio, yn ogystal â gweithio gyda chantorion a cherddorion.

Ni oedd yr unig bobl i weld pob agwedd ar y Coleg. Mae hynny’n rhyfeddol.
Pan benderfynais gyntaf fy mod eisiau cyfarwyddo operâu, gofynnais i lawer o bobl am gyngor a dywedodd pawb wrthyf nad oes llwybr, bod yn rhaid i chi ddod o hyd i ffordd. Ond pan welais i’r cwrs hwn roedd fel petai’n ddelfrydol. Roedd yn cynnig y llwybr hwnnw.’
Madeleine BrooksMyfyriwr CBCDC

Yn ogystal â gweithio ar brosiectau o fewn y Coleg, mae’r cwrs, sy’n rhan o Ysgol Opera David Seligman, yn caniatáu i fyfyrwyr weithio’n agos gydag Opera Cenedlaethol Cymru a threulio cyfnod yn y diwydiant gyda chwmni opera yn y DU.

Storïau eraill