Croeso, Cyfarwyddwr Perfformio (Drama) newydd, Jonathan Munby
Mae CBCDC yn symud i gyfnod datblygu newydd a chyffrous a fydd yn adeiladu ar y pethau anhygoel a gyflawnwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae Dave yn gadael tu ôl iddo etifeddiaeth anhygoel o greu theatr ysbrydoledig ac uchelgeisiol gyda ein myfyrwyr gwych, yn creu’r wyl arloesol o ysgrifennu NEWYDD, ac yn annog genhedlaeth o bobl creadigol – nid actorion yn unig, ond ysgrifennwyr a chyfarwyddwyr – dros ei 26 mlynedd yn y Coleg.
Mae pawb yn gweiddi am Dave. O actorion blwyddyn gyntaf i graddedigion hirdymor:
'Rwy’ newydd orffen galwad Zoom gyda Dave Bond, yn fy helpu i gastio fy 3edd ffilm fer. Mae fy ngyrfa actio yn ddyledus iddo a nawr fy un gyfarwyddo hefyd,' meddai’r actor, cyfarwyddwr arobryn a Chyfaill CBCDC Alexander Vlahos.Alexander Vlahos
Darllwnwch fwy o negeseuon gan fyfyrwyr, graddedigion, cydweithwyr a ffrindiau diwydiant yn eiliadau twitter ffarwel Dave.
Diolch yn fawr, Dave. Fe welwn ni chi yn ôl yn y Coleg cyn bo hir i ymlacio a mwynhau gwylio’r Cwmni Richard Burton o dan dy olynydd, cyfarwyddwr theatr Jonathan.
Croeso Jonathan
Mae Jonathan, sy’n adnabyddus am ansawdd ac amrywiaeth ei gastiau a’i dimau creadigol yn ogystal ag am fod yn artist cydweithredol a chynhwysol, wedi gweithio gyda thestunau clasurol a rhai mwy amrywiol mewn theatrau ar draws y byd.
Ei gynhyrchiad mwyaf diweddar oedd cyfarwyddo Syr Ian McKellen yn King Lear yng Ngwyl Chichester/Theatr Duke of York y West End, a enwebwyd ar gyfer gwobr Adfywiad Gorau yng Ngwobrau Olivier 2019.
Ochr yn ochr gyda’i gynhyrchiadau gwobrwyedig, sy’n cynnwys theatr gerddorol a chyfarwyddo opera, mae Jonathan wedi gweithio gyda actorion o bob cam o’u hyfforddiant.
Rydym hefyd yn croesawu Chinonyerem Odimba, y dramodydd, ysgrifennwr ar gyfer y sgrin a bardd gwobrwyedig o Fryste, fel Ysgrifennwr Preswyl cyntaf y Coleg. Mae Chino, sydd wedi cael ei henwi’n ‘ysgrifennwr i wylio’ gan y Guardian, wedi ysgrifennu ar gyfer y teledu a’r radio yn ogystal â theatr, ac mae wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer nifer o wobrau, ac yn 2018 enillodd Wobr Ysgrifennu Dramâu Channel 4.
Ar hyn o bryd mae hefyd dan gomisiwn gyda’r Royal Exchange yn Manceinion a Paines Plough ac yn gweithio ar gyfnod cyswllt gyda’r National Theatre
'Mae’r byd yn newid ac yn yr un modd y diwydiant,' meddai Jonathan. 'Teimlaf ei bod yn amser i gymryd golwg radical a blaengar ar sut mae hyfforddiant clasurol yn ymateb i’r unfed ganrif ar hugain. Mae angen i ni fod yn ddewr yn ein dewisiadau a gofyn rhai cwestiynau sylfaenol: Sut un yw’r actor clasurol modern? Pa destunau ddylai fod yn barod ar eu cyfer? A pha alwadau newydd sydd arno ef neu hi gan y proffesiwn hwn sy’n esblygu’n gyson?'Jonathan Munby
'Byddaf yn ceisio agor y drws led y pen a chroesawu doniau o gefndiroedd mor amrywiol â phosibl. I rhoi hyfforddiant o’r radd flaenaf i bob myfyriwr sydd yn drylwyr, perthnasol a chyfrifol.
I archwilio gweithiau newydd, anadlu bywyd newydd i’r clasuron a rhoi’r sylw y mae’n ei haeddu i actio ar gyfer y sgrin. Rydw i eisiau adeiladu ar etifeddiaeth ragorol Dave Bond a sicrhau bod ein Coleg yn edrych yn y drych ac yn cofleidio cymhlethdod ein cymdeithas.'
Bydd rôl Chino yn cynnwys comisiwn fel rhan o dymor NEWYDD blynyddol y Coleg, cefnogi actorion gyda’u prosiectau ysgrifenedig unigol, ac atynnu myfyrwyr o fewn darlleniadau datblygu o’i waith presennol mewn cynydd.
'Rydw i wrth fy modd i gymryd y rôl hwn fel Ysgrifennwr Preswyl yn CBCDC,' meddai Chino. 'Yn bennaf rwyf yn gyffrous i ddod i adnabod, ysgrifennu, a gwylio llwyth o fyfyrwyr yn datblygu eu harfer wrth iddynt ddychmygu eu dyfodol yn y diwylliant theatr.
I fi, fel ysgrifennwr ar gyfer y sgrin, mae hwn yn gyfle hyfryd i weithio’n cydweithredol ac mewn ffordd ystyrlon a chreadigol. Dwi’n edrych ymlaen at weld beth allen ni ei greu ohoni.'Chino Odimba
Pan glywodd Syr Ian bod Jonathan yn ymuno a’r Coleg, dywedodd:
'Mae penodiad Jonathan Munby yn gyffrous, nid yn unig i ei fyfyrwyr yng Ngholeg Brenhinol Cymru ond i ddyfodol ei gynulleidfaoedd theatr.
Yn ogystal â ysbrydoli actorion nofis i fabwysiadu ei ddull perfformio, dwi’n gobeithio y bydd yn bosib iddo barhau i gyfarwyddo rhywle arall. Mae’r theatr yn difyrru ar nifer o lefelau, yn emosiynol ac yn ddeallusol, gwyliwch cynhyrchiadau gwobrwyedig Munby.
Wrth i ni ail-ddychmygu beth sy’n bosib yn theatrau’r DU ar ôl y pandemig, mae’r llawenydd ysgogol ac unigryw sy’n dod o berfformiadau fyw yn fwy bwysig nag erioed o’r blaen.
Yn y cyd-destun yma, mae Coleg Brehinol Cymru yn ddoeth i benodi ymarferydd sefydledig yng nghalon ei addysg ar gyfer pobl ifanc. Mae hwn yn newyddion dda a phositif yng nghanol negyddiaeth y byd.'Sir Ian McKellen
Rydyn yn edrych ymlaen at weithio gyda Jonathan a Chino a dangos nhw o gwmpas ein Coleg hardd a’n lleoliadau perfformio mor gynted ag y mae’n saff!