Clod i’r bardd: Rownd derfynol Gwobr Shakespeare newydd CBCDC
Cyhoeddwyd mai James Mace oedd enillydd Gwobr Shakespeare gyntaf gwerth £5000 y Coleg, gyda’i berfformiad o Hamlet a Soned 143, My love is as a fever, longing still.
'Rwy’n falch iawn o fod wedi ennill gwobr Shakespeare gyntaf y Coleg.
Mae ei ddramâu a’i destun cymhleth a dwys yn gofyn llawer gennych fel actor. Mae hyfforddi mewn testunau clasurol mor bwysig, ac mae’r profiad hwn wedi bod mor fuddiol; Rydw i wedi dysgu sut i hyfforddi fy nychymyg drwy ymrwymo i wirionedd ac amgylchiadau ei gymeriadau.'James MaceMyfyriwr Actio
Yr unigolion eraill a gyrhaeddodd y rownd derfynol oedd Nathan Kirby, Alyson Handley, Mya Pennicott a Saskia West.
Canmolodd Ian McKellen bob un ohonynt, gan ddweud eu bod yn glod i’r dosbarth cyfan o actorion ail flwyddyn, y bu’n gweithio gyda nhw cyn y Nadolig, ac i’r Coleg. Canmolodd hefyd eu hyder, eu rhwyddineb ac eglurder eu lleferydd.
Roedd y beirniaid eraill yn cynnwys un o raddedigion CBCDC a Chymrawd Rakie Ayola, Sean Mathias, Cyfarwyddwr Perfformio Drama’r Coleg, Jonathan Munby, a’r Pennaeth Llais, Alice White.
'Ar hyn o bryd, mae hyfforddiant Shakespeare mewn perygl o fyn dyn angof a dod yn llai o flaenoriaeth. Mae ein gwobr yn dangos ein hymrwymiad i astudio testunau clasurol a phwysigrwydd grym iaith.
Mae gweithio ar ddramâu Shakespeare yn rhoi dyfnder crefft sydd hefyd yn drosglwyddadwy i unrhyw gyfrwng.
Mae’r gwahanol elfennau o hyfforddiant yn cefnogi ei gilydd, gan eu herio a’u cyfoethogi fel actorion. Os gallwch siarad gwaith Shakespeare, gallwch fynd i’r afael ag unrhyw destun.'Jonathan MunbyCyfarwyddwr Perfformio Drama CBCDC
Soniodd Rakie Ayola am ei phrofiad o astudio Shakespeare yn CBCDC: ‘Cyrhaeddais y Coleg yn 18 oed gyda chasineb dwfn tuag at Shakespeare a phopeth yn ymwneud â Shakespeare.
Yn gymaint felly, pan gefais fy nghastio yn fy ail flwyddyn fel Lady Macbeth fe lithrais i lawr y wal yn ddramatig iawn yn fy nagrau. Roeddwn i eisiau chwarae rhan Tylwythen Deg yn ‘The Dream’. Gwnes fy ngorau, ond yn ofer, i gael fy ail-gastio.'
'Fodd bynnag, yn ystod y prosiect ail flwyddyn hwnnw yr agorodd byd o bosibilrwydd ieithyddol i mi. Byd o eiriau, delweddaeth a rhythm. Byd nad oedd o gwbl yn debyg i fy myd fy hun ond eto wedi’i lenwi â theimladau ac emosiynau yr oeddwn yn eu hadnabod ac yn eu deall.
Byd a ganiataodd i mi wir fwynhau cyhyredd iaith. Mwynhau sut roedd yn teimlo yn fy ngheg, sut roedd yn ymarfer fy ngên a fy nhafod, sut y gallai esgyn a hedfan wrth ddod allan o’m ceg.
Byd lle mae huodledd yn hollbwysig ac mae gan bobl eiriau ac ymadroddion ar gael iddynt yn barod i’w defnyddio heb oedi na myfyrio.'Rakie Ayola
Mae’r Coleg yn hynod falch o waith ei raddedigion ym maes Shakespeare. Dyma rai o’r uchafbwyntiau diweddar:
Mae Isobel Thom, a aeth yn syth o raddio mewn actio yr haf diwethaf i’w perfformiad eponymaidd clodwiw yn I, Joan yn The Globe, a chyhoeddwyd yn ddiweddar mai hi fydd Helena yng nghynhyrchiad A Midsummer Night’s Dream newydd The Globe.
Ar hyn o bryd mae Katy Stephens yn arwain cynhyrchiad menywod yn unig o Titus Andronicus yn Sam Wanamaker Playhouse. Mae hi hefyd yn Artist Cyswllt yn y Royal Shakespeare Company.
Yn yr RSC, mae Thalissa Teixeira ar hyn o bryd i’w gweld fel Brutus yn Julius Caesar, a Heledd Gwynn oedd Ariel yng nghynhyrchiad diweddar yr RSC o The Tempest. Arthur Hughes oedd yr eponymaidd Richard III llynedd.