Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Y bariton Edward Kim yw ysgolhaig canmlwyddiant cyntaf Syr Geraint Evans

Llongyfarchiadau i Edward Kim, sef ysgolor Syr Geraint Evans cyntaf un CBCDC.

Cyhoeddwyd y wobr yr wythnos ddiwethaf mewn digwyddiad arbennig i ddathlu canmlwyddiant geni’r canwr Opera o fri o Gymru, Syr Geraint Evans, a oedd yn Llywydd y Coleg pan fu farw ym 1992

Ysgolor cyntaf Canmlwyddiant Syr Geraint Evans yw’r bariton o Dde Corea, Edward Kim, a ymunodd ag Ysgol Opera David Seligman yn 2021 ac a berfformiodd yn y digwyddiad, ynghyd â chyd-fyfyrwyr CBCDC.I ysbrydoli cantorion y dyfodol dyfernir yr ysgoloriaeth newydd hon i un myfyriwr yn Ysgol Opera David Seligman y Coleg bob blwyddyn, am y deng mlynedd nesaf yn enw Syr Geraint.

‘Mae’n fraint fawr i mi fod y cyntaf i dderbyn ysgoloriaeth Syr Geraint Evans. Mae’r gefnogaeth hon yn bwysig iawn gan ei bod yn rhoi’r cyfle i mi fireinio fy sgiliau a derbyn yr hyfforddiant sydd ei angen arnaf fel canwr opera ifanc. Roedd Syr Geraint Evans yn ysbrydoliaeth rhyfeddol i bob canwr, yn enwedig i ni leisiau dynion.'

'Roedd ganddo lais a phresenoldeb llwyfan bendigedig ac, yn bwysicaf oll, roedd yn adnabod ei offeryn yn dda.

Rwy’n gobeithio bod yn debyg a defnyddio’r gefnogaeth a’r ymddiriedaeth a ddangoswyd ynof i fod yn well canwr ac i ledaenu cariad at y ffurf gelfyddydol ryfeddol hon a elwir yn Opera.’
Edward KimYsgolor Syr Geraint Evans cyntaf un CBCDC
Edward gyda’i gyd-faritonwyr
‘Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau yn ein helpu i ddod yn fath gwahanol o gonservatoire, un sy’n fwy croesawgar, perthnasol, amrywiol a hygyrch.

Bydd dyfarniadau fel Ysgoloriaeth Syr Geraint Evans yn ein helpu i feithrin talent artistig, annog amrywiaeth a rhoi cyfleoedd i’r rheini sy’n eithriadol ddawnus, beth bynnag fo’u hamgylchiadau ariannol.

Rydym mor ddiolchgar i deulu Syr Geraint am ganiatáu i ni barhau â’r gwaith pwysig hwn yn ei enw.’
Athro Helena GauntPrifathro CBCDC

Diolch i sioe frecwast Radio 3 am ddathlu gyda ni:

Allow Twitter content?

Lorem ipsum doler sit amet Twitter seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Roedd Not A Bad Voice, dan arwieniad Nicola Heywood-Thomas, yn dathlu bywyd Syr Geraint ar ffurf ffilm, canu a hanesion gan y rheini a oedd yn ei adnabod a’r rhai hynny y mae’n parhau i’w hysbrydoli, gan gynnwys meibion Syr Geraint Huw ac Alun, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth CBCDC, Tim Rhys-Evans, Pennaeth Astudiaethau Lleisiol CBCDC, Mary King. y Bariton o’r Alban Donald Maxwell a myfyrwyr y Coleg.

Mae’r Gronfa wedi cael cymorth sylweddol gan Sefydliad Mosawi ac Ymddiriedolaeth Linbury.

Storïau eraill