Dau Enwebiad BAFTA i Raddedigion Actio
Gyda’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi ym mis Mai, mae Callum wedi’i enwebu am wobr actor cynorthwyol gorau, ac Anjana Vasan ar gyfer perfformiad benywaidd gorau mewn rhaglen gomedi.
Cafodd y ddau glywed eu bod wedi’u henwebu am wobr BAFTA lai na 24 awr ar ôl ennill gwobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol.
Enillodd Callum wobr yr Actor Gwrywaidd Gorau am ei berfformiad yn It’s a Sin ac enillodd Anjana wobr Perfformiad Comedi gan Fenyw am ei rhan yn We are Lady Parts, y ddau ohonynt yn gynhyrchiadau Channel 4.
Mae’r rhain yn ychwanegu at y gwobrau a’r enwebiadau cynyddol sydd eisoes gan y ddau actor, gan gynnwys Gwobr Ffilm Annibynnol Gotham lle cafodd Anjana ei henwebu am berfformiad rhagorol mewn cyfres newydd ar gyfer We Are Lady Parts a gwobr BAFTA Cymru, lle enillodd Callum wobr yr Actor Gorau am ei berfformiad yn It’s a Sin.
‘Rydw i mor ddiolchgar i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru am bopeth a ddysgodd fy athrawon a’m hyfforddwyr i mi yn ystod fy nghyfnod yno.'
‘Rwy’n teimlo bod popeth a gyflwynais i rôl Colin, a phopeth rwy’n parhau i gyfrannu i bob rôl y byddaf yn ei chwarae, wedi’u gwreiddio yn yr holl wersi amhrisiadwy a ddysgais tra roeddwn yno.’Callum Scott Howells
Ble ydych chi wedi gweld y ddau?
Efallai bod eu hwynebau’n gyfarwydd, ond dyma’r ychydig o wybodaeth am y cymeriadau y maent wedi’u henwebu am eu chwarae:
LA!
Mae Callum i’w weld yn y rhaglen deledu ryfeddol It’s a Sin fel cymeriad Colin Morris-Jones, bachgen hyfryd a diwyd o Gymru sy’n symud i Lundain i weithio. Mae’r ddrama gan Gymrawd CBCDC, Russell T Davies, yn dilyn hanes pum ffrind a sut mae eu bywydau’n cael eu profi wrth iddynt dyfu i fyny mewn cyfnod pan fo AIDS yn dod i’r amlwg. Fodd bynnag, maent yn benderfynol o fyw a charu’n fwy brwd nag erioed.
Os nad ydych wedi gweld y gyfres, neidiwch heibio’r rhan nesaf – dyma’r sbwylwyr –
gan fod Callum hefyd wedi’i enwebu am wobr BAFTA ar gyfer #MustSeeMoment gan Virgin Media yn yr olygfa dorcalonnus pan fydd Colin yn clywed am ei dynged.
Hyfforddiant yn y swydd
Gan fyw dau fywyd, cafodd Callum ei gastio ac yna ffilmiodd y gyfres tra’n ceisio cwblhau ei flwyddyn olaf yn y Coleg.
‘Rwy’n hynod falch o ddweud fy mod wedi graddio o CBCDC ac ni allwn argymell CBCDC ddigon fel lle i hyfforddi fel actor/artist.’
‘Mae’n fan lle cewch eich dathlu am fod yn chi’ch hun yn gyntaf ac yn bennaf, ac yna cewch adeiladu, dysgu a thyfu ar hynny fel eich sylfaen. Cefais y tair blynedd orau erioed.’Callum Scott Howells
Lady Parts aLady Assassin…
Yn y gomedi gerddorol anarchaidd ac amharchus We are Lady Parts, mae Anjana yn chwarae rhan Amina Hussein, myfyrwraig PhD ac athrawes gitâr rhan-amser sy’n ysu am ddod o hyd i ŵr ond sy’n ymuno â band pync o fenywod Mwslimaidd – o’r enw Lady Parts, fel eu prif gitarydd ac efallai’n sicrhau eu gig iawn cyntaf.
‘Rwy’n meddwl bod astudio drama wedi fy helpu i glirio fy mhen a bod yn agored’ meddai mewn cyfweliad gyda ScreenDaily. ‘Dechreuais fy ngyrfa gan deimlo fy mod eisiau gwneud llawer o waith theatr glasurol, ond yn ddiweddar rydw i wedi gweld y gall ffilm a theledu fod yr un mor gyffrous. Caf fy nenu gan ffyrdd newydd o adrodd storïau.’Anjana Vasan
Gellir gweld Anjana hefyd yn nhymor olaf Killing Eve, a ysgrifennwyd gan Phoebe Waller-Bridge a Laura Neal, yn chwarae rhan Pam, llofrudd dan hyfforddiant
Ers cwblhau ei MA mewn actio yn 2012, mae Anjana wedi perfformio ar lwyfan ac ar sgrin mewn amrywiaeth o gynyrchiadau; gan weithio gyda’r National Theatre yn digwyddiadau byw Behind the Beautiful Forevers a Dara, Globe Theatre Shakespeare: King Lear fel Cordelia, y gyfres boblogaidd Black Mirror ar gyfer Netflix ac efallai eich bod wedi ei gweld fel Gohebydd y Frenhines yn y ffilm Spider-Man: Far from Home.
Mewn adolygiad o A Doll’s House, mae’r Guardian yn sôn am bortread Anjana o Niru a’i sgiliau actio:
‘Dros y blynyddoedd diwethaf, mae hi wedi dangos ei gallu amryddawn. Mae hi wedi bod yn ffynci fel Hermia yn A Midsummer Night’s Dream gan Emma Rice, yn dyner fel cantores blues yn Summer and Smoke, yn gyfareddol fel merch Galileo. Mae’n fagnetig pan fydd yn symud – yn pwysleisio ei hysgafnder drwy sefyll ar flaenau’i thraed – o’r pryfoclyd i’r cysgodlon. Yn wir, mae ei thraed – sy’n cicio allan yn chwareus neu’n ddiystyriol – yn gwneud cymaint o waith â wynebau llawer o actorion.’The Guardian
Beth sydd nesaf i’r ddau?
Gyda chymaint o ddiddordeb a chefnogaeth i’w rolau presennol, pwy a ŵyr ble fydd y ddau yma nesaf yn eu gyrfaoedd.
Disgwylir i Anjana ddychwelyd fel Amina ar gyfer ail dymor We Are Lady Parts, a bydd Callum yn canolbwyntio ar y ffilm Homeless Word Cup gan Netflix a Film E4 gyda Bill Nighy a byddai ei dilynwyr ar Twitter wrth eu bodd pe bai’n cael ei gastio fel y Doctor Who nesaf!