Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Rheolaeth yn y Celfyddydau: Cynhyrchu Opera Yn Ystod Y Cyfnod Clo

Mae’r cwrs MA Rheolaeth yn y Celfyddydau yn unigryw oherwydd ei ffocws ar y galwedigaethol. Bydd myfyrwyr yn gadael y Coleg fel graddedigion cydnerth, parod am waith a fydd yn gallu llwyddo mewn diwydiant sy’n symud ac yn newid yn gyflym.

Mae’r blogiwr gwadd Eleanor Benson, a raddiodd yn ddiweddar, yn dangos sut y gwnaeth ddefnydd da o’i sgiliau cynhyrchu pan wnaeth, fel myfyriwr llynedd, ddyfeisio a chynhyrchu’n greadigol brosiect opera, gan ymateb i’r heriau a ddaeth yn sgil Covid …

Cynhyrchu opera yn Ystod y cyfnod clo

'Fel myfyriwr Rheolaeth yn y Celfyddydau yn CBCDC rhai elfennau oedd yn apelio ataf ynglŷn â bod yn rhan o gymuned y Coleg oedd ei ysbryd o gydweithredu ar draws adrannau a chael mynediad ar ei ystod wych o gyd fyfyrwyr creadigol dawnus.'
Eleanor Benson

Daeth hyn i’r amlwg pan gynhyrchais brosiect opera newydd cyffrous yn ystod y cyfnod clo: The Fulfilment of Ill-Conceived Designs gan Luciano Williamson a raddiodd o’r adran cyfansoddi yn CBCDC. Ysgrifennwyd yr opera gomig dywyll epig hon yn arbennig ar gyfer gŵyl cyfansoddi myfyrwyr 2020, Awyrgylch, a hwn fyddai un o ddigwyddiadau mwyaf uchelgeisiol penwythnos yr ŵyl.

Er nad oedd modd cynnal y cynhyrchiad ar y llwyfan oherwydd pandemig y coronafeirws, roeddwn yn benderfynol y byddai’r cynhyrchiad yn cael ei wireddu mewn modd amgen. Felly, diolch i gymuned greadigol egnïol ac ethos cydweithredol CBCDC, roedd modd i mi ei diwygio’n opera radio gyda darluniau, gan gydweithio â myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr ar draws yr adrannau Cerddoriaeth, Opera, Cyfansoddi, Cynllunio, Rheolaeth yn y Celfyddydau a Chyfarwyddo Opera.

Yn y cynhyrchiad diwygiedig hwn, daw darluniau trawiadol modern ynghyd gyda sgôr gerddorol liwgar a llawn bywyd.


Sut wnaethon ni hi

Er mwyn rhoi bywyd i’r sioe 40 munud hon gwnaethom recordio a meistroli cerddorfa gyda 23 o chwaraewyr o bell yn ystod y cyfnod clo, a dwyn ynghyd dîm o dros 30 o offerynwyr, cantorion, darlunwyr, cyfarwyddwyr, myfyrwyr a graddedigion diweddar yr adran cyfansoddi a rheolaeth yn y celfyddydau.

'Roedd gweithio mor agos gydag artistiaid ar draws y gwahanol ddisgyblaethau ac adrannau yn brofiad gwerth chweil a phleserus.

Mae cael y cyfle i ymgymryd â phrosiectau uchelgeisiol ac amlddisgyblaeth yn y modd hwn yn uchafbwynt gwirioneddol astudio yn CBCDC, ac yn sicr mae’n paratoi’r myfyrwyr ar gyfer gweithio yn y diwydiant wedi iddynt raddio.'
Eleanor Benson

O safbwynt cynhyrchydd, roedd hi’n gyffrous (ac yn rhoi tawelwch meddwl!) i wybod bod yna gronfa ddiddiwedd o weithwyr creadigol dawnus a fyddai bob amser yn barod i gydweithio a chymryd rhan mewn prosiectau newydd. Mae gallu rhwydweithio yn y modd hwn yn amhrisiadwy, nid dim ond ar gyfer astudiaethau rhywun yn y Coleg, ond hefyd ar gyfer prosiectau yn y dyfodol.

Wrth gynhyrchu’r opera hon yn ystod y cyfnod clo, dywedodd aelodau’r gerddorfa a’r cast eu bod yn ddiolchgar i gael y cyfle i ddod ynghyd o bell a bod yn rhan mewn prosiect creadigol newydd, ar adeg pan nad oedd y mwyafrif o gyngherddau a pherfformiadau yn digwydd.

'Mae cydweithredu gyda gweithwyr creadigol rhagorol ar draws y disgyblaethau hefyd yn sicrhau rhagoriaeth, ac rwy’n falch bod pob elfen o’r cynhyrchiad hwn wedi’u cyflawni i safon broffesiynol.'
Eleanor Benson


Opera siambr iasoer Neo-Ffawstaidd yw The Fulfilment of Ill-Conceived Designs, a stori ddirdro, drawiadol am foesau’n cael eu cyfaddawdu a chanlyniadau annisgwyl.

Gellir gwylio The Fulfilment of Ill-Conceived Designs yma drwy YouTube.

Storïau eraill