Heartstopper: Gweithio ym maes Celfyddydau Golygfeydd
Os ydych chi erioed wedi gwylio’r gyfers Heartstopper ar Netflix ac wedi edmygu’r murluniau hardd, neu wedi bod i’r theatr ac wedi meddwl tybed pwy beintiodd y cefnlenni rhyfeddol neu pwy greodd y propiau sy’n edrych mor real – yr ateb fyddai artist golygfeydd.
Mae Gradd Sylfaen dwy flynedd newydd sbon CBCDC mewn Celfyddydau Golygfeydd yn dysgu’r sgiliau i chi greu setiau, cefnlenni a phropiau, gan agor byd gwaith proffesiynol cyffrous ym meysydd theatr, teledu, ffilm a chynllunio.
Pam astudio Celfyddydau Golygfeydd yn CBCDC?
Astudiodd y graddedigion Ruby Boswell-Green a Céleste Langrée Gelfyddydau Golygfeydd fel rhan o’u graddau Cynllunio ar gyfer Perfformio.
Mae’r hyfforddiant celfyddydau golygfeydd yn un ymarferol iawn, ac yn rhoi cyfle i chi archwilio gwahanol arddulliau, ac roedd hyn yn apelio’n fawr at Céleste:
‘Rydych yn gweithio ar gynyrchiadau go iawn, wedi’ch amgylchynu gan weithwyr proffesiynol, a staff a thiwtoriaid eithriadol, mewn mannau theatr go iawn, ac mae yna rwydwaith gwych o gefnogaeth ar gael hefyd.
Rwy’n meddwl mai’r prif wahaniaeth rhwng y Coleg a mynd i ysgol gelf yw bod CBCDC yn rhoi blas i chi o’r byd gwaith. Mae’n eich hyfforddi ar gyfer swydd benodol gan roi’r offer, y wybodaeth a’r profiad i chi gydweithio’n dda.
Dysgodd i mi am y perthnasoedd, yr hierarchaeth a’r cyfathrebu o fewn y theatr, ac yn bendant fe roddodd brofiad i mi yn ogystal ag etheg gwaith cryf iawn.’Céleste LangréeGraddedig mewn Cynllunio ar gyfer Perfformio
Mae Ruby yn cytuno: ‘Roedd fy nghyfnod yn astudio celfyddyd golygfeydd yn y Coleg yn hynod fuddiol. Dysgodd i mi beidio â bod ofn arbrofi (mae gan bob artist golygfeydd ei ffordd ei hun o wneud pethau!) ac i arsylwi’n graff ar y byd o’m cwmpas fel y gallwn weithio allan sut i’w ail-greu.
Caiff paentio yn aml ei ddiystyru fel set sgiliau – ond mae hynny ymhell o fod yn wir. Ac mae’r Coleg yn lle i ddysgu gwneud hynny i’r safon uchaf.’
Profiad Heartstopper
Ymhlith swyddi eraill, fe weithiodd Ruby a Céleste, ynghyd â graddedigion eraill CBCDC, ar y gyfres Heartstopper ar gyfer Netflix.
‘Peidiwch â theimlo bod yn rhaid i chi fynd i faes theatr, mae’r hyn rydych chi’n ei ddysgu yn y Coleg yn hynod drosglwyddadwy.
Rwy’n ffodus fy mod wedi gweithio ar y gyfres Heartstopper ar gyfer Netflix gyda llawer o’m ffrindiau dawnus o’r Coleg, ac unwaith eto yr hyfforddiant a gefais yn CBCDC wnaeth fy helpu i ddatrys problemau yn yr amgylchedd hwnnw.’Ruby Boswell-GreenGraddedig mewn Cynllunio ar gyfer Perfformio
I Céleste, yr oedd ei gwaith ar y gyfres yn ymwneud yn bennaf â chelfyddydau golygfeydd a gwneud propiau, roedd y swydd hon yn caniatáu iddi fwynhau ei chariad at arlunio a phaentio.
‘Yr hyn oedd yn gyffrous iawn am Heartstopper oedd y nifer o wahanol brosiectau yr oeddem yn gallu gweithio arnynt’ meddai. ‘Roedd yn waith a oedd yn symud yn gyflym a gwnaeth pawb ohonom gydweithio’n agos ar y darnau. Fe wnaethom greu llawer o’r propiau ar gyfer gwisgo’r setiau hefyd. Hwn oedd y tro cyntaf i mi weithio ym maes teledu ac roedd yn ddiddorol iawn gallu profi’r gwahaniaethau o gymharu â’r theatr.’
Sut ydych chi wedi defnyddio eich hyfforddiant celfyddydau golygfeydd ers gadael CBCDC?
Cafodd Ruby ei swydd gyntaf yn Upstairs yn theatr Gatehouse yn Llundain gan iddi weld galwad ar dudalen Facebook cyn-fyfyrwyr CBCDC a’i bod yn teimlo’n ddigon hyderus i fynd amdani. Mae wedi mynd ymlaen i weithio ar sawl sioe yn cynllunio setiau a phaentio golygfeydd, gan ddefnyddio dulliau a ddysgodd yn y Coleg, megis graenu pren, heneiddio deunyddiau, papuro wal a phaentio manwl gywir.
‘Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i weithio gyda Bay Productions, sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd. Roedd y swydd hon yn hynod amrywiol ac roedd yn brofiad hyfryd i weld fy ngwaith golygfeydd ar lwyfan ar gyfer taith Disney o Beauty and the Beast, neu mewn lluniau’r wasg ar gyfer Opera Met.
Y cyfan wedi’u creu’n gyfleus yng Nghaerdydd!’
Mae gwaith Céleste wedi mynd â hi o faes teledu i’r theatr ac i fyd opera, gan weithio yn Opera Ieuenctid Prydain, Opera Cenedlaethol Cymru, Theatr Sherman a hefyd gydag opera yn yr Almaen.
Mae hi ar fin dechrau cwrs MA mewn Cynllunio ac Ymarfer ar gyfer Perfformio yn Central Saint Martins, yn ogystal â chynllunio opera gyfoes yn Ffrainc.