Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Darganfod Cerddoriaeth yn Conservatoire Cenedlaethol Cymru

Mae ein holl gyrsiau cerddoriaeth yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau fel unigolyn, artist cydweithredol a cherddor a fydd yn cyfrannu at gymdeithas. Rydym yn ymroddedig i gefnogi eich gyrfa greadigol.

Mae’n dechrau yma: Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Pum prif reswm pam y dylech astudio Cerddoriaeth yn CBCDC

  • Yn yr adran gerddoriaeth yma yn CBCDC, mae’r ffocws arnoch chi a’r cerddor yr hoffech fod. Byddwn yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau fel unigolyn, artist cydweithredol ac fel cerddor a fydd yn cyfrannu at gymdeithas.
  • Mae perfformio mewn amrywiaeth o leoliadau yn ganolog i’ch hyfforddiant. Dyna pam y bydd cantorion ac offerynwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o berfformiadau unigol ac ensemble yn ein cyfleusterau o’r radd flaenaf.
  • Mae ein staff addysgu yn artistiaid, cydweithwyr ac addysgwyr o fri rhyngwladol, y rhan fwyaf ohonynt yn dal i weithio’n broffesiynol ledled y byd.
  • Cewch gyfle i brofi unrhyw beth a phopeth – boed yn jazz, cerddoriaeth gynnar, therapi cerddoriaeth, gwaith allgymorth, trefnu, arwain a llawer mwy. Rydym yma i’ch helpu i wneud penderfyniadau gwybodus a’ch paratoi ar gyfer gyrfa gerddorol ar ôl i chi raddio.
  • Mae ein cysylltiadau agos â sefydliadau celfyddydol blaenllaw yn cynnig llawer o gyfleoedd i rwydweithio a chreu cysylltiadau o fewn y diwydiant - sy’n hanfodol i adeiladu gyrfa bortffolio lwyddiannus.

Pum rheswm cyffrous i garu Caerdydd

  • Dinas fach, uchelgais fawr:
    Gyda phoblogaeth o tua 350,000 o bobl, mae Caerdydd yn teimlo fel dref fechan er bod llawer o bethau’n digwydd yn y brifddinas trwy gydol y flwyddyn, o fywyd nos bywiog, i ddigwyddiadau chwaraeon (ie, rygbi!) a cherddoriaeth a gwyliau bwyd - mae’r cyfan yn digwydd yn y ‘Diff!
  • Cysylltiadau trafnidiaeth gwych:
    Mae’r rhwydweithiau trenau a bysiau yn ei gwneud hi’n hawdd teithio o gwmpas ac archwilio rhannau eraill o Gymru a’r DU. Mae trenau uniongyrchol o orsaf Caerdydd Canolog i Cheltenham, Llundain a Manceinion yn ogystal â llawer o gyrchfannau eraill.
  • Mae harddwch naturiol ein cefn gwlad yn chwedlonol:
    Mae Cymru’n genedl o fynyddoedd, dyffrynnoedd, coedwigoedd a llynnoedd godidog, ac mae’n ddigon bychan i’w harchwilio’n hawdd - mae yna hefyd reswm y gelwir Cymru yn ‘wlad y cestyll’.
  • Mae’n ddiogel i fyfyrwyr:
    Mae Caerdydd wedi’i phleidleisio yn un o’r pedair dinas fwyaf diogel i fyw ac astudio ynddi, ac fe’i hystyrir yn lle ‘hawdd’ i fyw. Mae gan Gymru enw da am ei chymuned groesawgar - croeso!

Cymerwch olwg agosach ar ein cyrsiau...

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth: