Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

BMus (Anrh) Cerddoriaeth – Offerynnol a Lleisiol

  • Dyfarniad:

    BMus (Anrh) Cerddoriaeth – Offerynnol a Lleisiol

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC a’r Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    21 Medi 2025

  • Hyd:

    4 blynedd llawn amser

  • Cod y cwrs:

    300F – UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Cyfle i hyfforddi ochr yn ochr â cherddorion gorau’r byd mewn awyrgylch ysbrydoledig a chydweithredol sy’n eich helpu i fodloni gofynion gyrfa gerddorol gyfoes.

Trosolwg o’r cwrs

Mae ein cwrs cerddoriaeth blaenllaw yn eich arwain i archwilio datblygiad artistig, gyda hyfforddiant ymarferol a chyfleoedd wedi’u cysylltu’n gryf â’r diwydiannau cerddoriaeth presennol wrth galon y cwrs.

Mae perfformiadau unigol a chelfyddyd gydweithredol yn hanfodol i’ch astudiaethau ac mae’r cwrs yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau yn y Coleg ac mewn amrywiaeth o leoliadau proffesiynol a chymunedol.

Byddwch yn mireinio eich sgiliau technegol ac artistig gyda rhai o brif ymarferwyr y diwydiant, yn ogystal â chael cyfleoedd i berfformio a gweithio ar amrywiaeth o brosiectau, gan gydweithio’n aml â myfyrwyr o adrannau ar draws y Coleg – o ddisgyblaethau offerynnol/lleisiol gwahanol hyd at actio, cynllunio neu reoli llwyfan.

Gallwch arbenigo mewn unrhyw un o’r disgyblaethau hyn, sy’n cael eu galw’n ‘brif astudiaeth’:

  • Pres
  • Gitâr
  • Telyn
  • Aml-offerynnwr (chwythbrennau)
  • Offerynnau taro
  • Piano
  • Llinynnol
  • Llais
  • Chwythbrennau

Fel rhan o’ch addysg bersonol, byddwch yn mwynhau gwersi unigol a gwersi grŵp, dosbarthiadau perfformio, yn ogystal â dosbarthiadau meistr gyda rhai o berfformwyr mwyaf llwyddiannus y diwydiant. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn hyfforddiant corawl bob wythnos ac amrywiaeth eang o weithgareddau ensemble a cherddorfaol, wedi’u cefnogi gan fodiwlau astudiaethau proffesiynol allweddol, sydd wedi’u cynllunio’n benodol i ddatblygu pob agwedd ar eich dawn gerddorol.

P’un ai ydych chi’n offerynnwr neu’n ganwr, byddwch yn cael eich arwain gan eich tîm eich hun o athrawon rhagorol sydd â blynyddoedd o brofiad proffesiynol ac sy’n dal i fwynhau gyrfa broffesiynol weithgar. Maent yn y sefyllfa berffaith i’ch mentora a chefnogi eich dyheadau gyrfa ar bob cam, gan eich helpu i fod yn artist amryddawn, hyblyg a rhagweithiol.

Pam astudio’r cwrs hwn?

  • Byddwch yn cael dealltwriaeth ddofn o’r diwydiant cerddoriaeth presennol, gan ddysgu’r sgiliau a’r wybodaeth broffesiynol berthnasol sydd eu hangen arnoch i ddilyn gyrfa yn gwneud yr hyn rydych chi’n ei fwynhau.
  • Byddwch yn cael cymysgedd o hyfforddiant grŵp ac un i un arbenigol yn eich prif faes ffocws lleisiol neu offerynnol – sef ‘prif astudiaeth’. Mae hyn yn cynnwys dosbarthiadau perfformio, ymarferion ensemble, dosbarthiadau ymarferol, gweithdai, sesiynau stiwdio, darlithoedd, seminarau, prosiectau grŵp a chyfleoedd i ennill profiad sylweddol.
  • Byddwch yn dysgu gyda’n tîm cynhwysfawr o diwtoriaid, gan gynnwys unawdwyr offerynnol a lleisiol adnabyddus, cerddorion siambr hynod brofiadol, hyfforddwyr nodedig, cyfansoddwyr blaenllaw, arweinwyr ac artistiaid creadigol mewn amrywiaeth o genres – yn ogystal â phrif chwaraewyr mewn ensembles a cherddorfeydd mawr. Mae’r artistiaid addysgu rhagorol hyn yn cynnig addysg ac arweiniad ar y lefel uchaf, yn ogystal â mentoriaeth a chyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr hefyd.
  • Mae gennym berthynas agos â sefydliadau celfyddydol uchel eu parch a chwmnïau opera a cherddorfeydd byd-enwog yng Nghaerdydd a thu hwnt – ac mae rhai ohonynt yn cynnig cynlluniau profiad cyffrous sy’n agored i chi fel myfyriwr israddedig yma.
  • Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o fodiwlau datblygu proffesiynol dewisol i wella eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’ch llwybr tuag at eich gyrfa yn y dyfodol.
  • Byddwch yn hyfforddi mewn cymuned greadigol gyfoethog ac amrywiol ochr yn ochr â channoedd o fyfyrwyr eraill ar draws y Coleg – gan gynnwys y rheini o wahanol adrannau drama (er enghraifft, actio, theatr gerdd, pypedau, rheolaeth yn y celfyddydau ac ati) – sydd hefyd yn awyddus i gydweithio a chreu gwaith newydd. 
  • Mae llawer o gyfleoedd perfformio ar gael i chi fel rhan annatod o’r cwrs, ac mae llawer ohonynt yn berfformiadau cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys asesu eich perfformiad, a wneir fel arfer o flaen cynulleidfa, gan eich galluogi i adeiladu eich llwyfan a’ch sgiliau perfformio artistig, yn ogystal â chysylltu â gwrandawyr yn rheolaidd.
  • Gallwch archwilio amrywiaeth eang o genres cerddorol – gan gynnwys repertoire clasurol, traddodiadol Cymreig a chyfoes – yn ogystal â chael yr wybodaeth ddiweddaraf am agweddau sy’n newid yn gyson a chyfleoedd newydd cyffrous y busnes cerddoriaeth.
  • Byddwch yn cael cyfleoedd i ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol a chysylltu eich gwaith â chymunedau ledled Cymru. Gall hyn fod ar sawl ffurf, ond fel arfer mae’n cynnwys perfformiadau allanol yn y gymuned, gweithdai cerddoriaeth mewn ysgolion, gwaith addysgol a phrosiectau cymunedol eraill.
  • Yn ein dosbarthiadau cerddoriaeth a chymdeithas, gallwch ddarganfod sut mae cerddoriaeth wedi cael ei defnyddio i greu newid cymdeithasol, gan ymchwilio i’r sbardunau a’r ffactorau a arweiniodd at greu repertoires amrywiol. Drwy edrych ar amrywiaeth fwy cynhwysol o gerddoriaeth, byddwch yn ymchwilio i weithiau gan artistiaid LGBTIQA+, yn ogystal â chyfansoddwyr ac artistiaid Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol.
  • Byddwch hefyd yn cael eich cefnogi i ddatblygu eich strategaethau personol ar gyfer dulliau gweithio moesegol a chynaliadwy, gan roi’r ymwybyddiaeth, y cwrteisi proffesiynol a’r sgiliau cyfathrebu priodol i chi ar gyfer y maes yr hoffech weithio ynddo ar ôl i chi raddio.
  • Mae’r cwrs hwn yn ymwneud â mwy na hyfforddiant ymarferol – byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn llwybr corfforol, emosiynol a deallusol cytbwys tuag at greu cerddoriaeth, gydag amrywiaeth o ddosbarthiadau’n cael eu cynnig mewn seicoleg perfformio, Techneg Alexander a dulliau corff a meddwl eraill.

Gwybodaeth arall am y cwrs

‘Mae gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ei stamp unigryw ei hun, ac rydych chi’n teimlo hynny yr eiliad rydych chi’n cerdded i mewn i'r adeilad. Yr hyn sy’n arbennig o drawiadol yw pa mor agored ydyw, ac rydw i’n credu mai’r rheswm am hynny yw ymrwymiad gwirioneddol y staff a’r myfyrwyr i gyfnewid gwybodaeth mewn awyrgylch cefnogol dros ben. Gallwch weld sut byddai'r myfyrwyr yn cario hynny ymlaen i'w bywydau proffesiynol.'
Errollyn WallenCyfansoddwr ac Artist Preswyl CBCDC

Gwybod mwy am astudio cerddoriaeth yn CBCDC

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Allow Unistats content?

Lorem ipsum doler sit amet Unistats seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf