BMus (Anrh) Cerddoriaeth – Cyfansoddi
Dyfarniad:
BMus (Anrh) Cerddoriaeth – Cyfansoddi
Corff dyfarnu:
Prifysgol De Cymru
Lleoliad astudio:
Caerdydd (CBCDC a’r Hen Lyfrgell)
Dyddiad dechrau:
22 Medi 2024
Hyd:
4 blynedd llawn amser
Cod y cwrs:
300F - UCAS Conservatoires
Cyflwyniad
Dysgwch y sgiliau a fydd yn eich helpu i gyfansoddi amrywiaeth eang o gerddoriaeth - o waith ar gyfer cerddorfa lawn i gerddoriaeth electronig haniaethol.
Trosolwg o’r cwrs
Mae’r cwrs hwn, sy’n cynnwys holl nodweddion arbennig ein cwrs BMus blaenllaw, yn cynnig dewis o fodiwlau arbenigol i fyfyrwyr sy’n dymuno cael gyrfa hir yn cyfansoddi cerddoriaeth.
Bydd yr hyfforddiant sy’n bersonol i chi, yn cynnwys gwersi unigol a gwersi grŵp, a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich dull artistig eich hun o greu cerddoriaeth ar gyfer amrywiaeth o genres a chynulleidfaoedd.
Mae hyn yn cynnwys archwilio amrywiaeth eang o dechnegau ac arddulliau gyda’n tîm dethol o diwtoriaid arbenigol sy’n gyfansoddwyr cerddoriaeth wedi’i nodiannu a thechnoleg cerddoriaeth greadigol. Mae gan bob un ohonynt flynyddoedd o brofiad proffesiynol ac maent yn weithgar yn y diwydiannau creadigol.
Wrth i chi symud ymlaen drwy eich cwrs, byddwch yn gallu canolbwyntio fwyfwy ar gyfansoddi offerynnol, neu ar dechnoleg cerddoriaeth greadigol, neu ar y ddau. Mae'r pynciau a gwmpesir yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Cerddorfa a threfnu
- Cerddoriaeth Electronig Haniaethol
- Arwain
- Cymwysiadau a Chodio Rhyngweithiol
- Cerddoriaeth ar gyfer Ffilm a Theledu
- Perfformiad Cerddoriaeth Electronig Fyw
Mae cydweithio â’ch cyd-fyfyrwyr ar eich cwrs - a myfyrwyr o adrannau eraill yn y Coleg - yn rhan hollbwysig o’ch hyfforddiant. Drwy weithio mewn amrywiaeth o leoliadau ensemble, byddwch yn cynhyrchu gwaith cerddorfaol neu gyfansoddiadau gwreiddiol ac yn dysgu’r holl arferion gwaith proffesiynol y bydd arnoch angen eu gwybod er mwyn paratoi at recordio a pherfformio’n fyw.
Drwy gydol y cwrs byddwch yn cael y cyfle i archwilio’r sgiliau canlynol mewn dosbarthiadau a thiwtorialau 1:1:
- harmoni uwch, gwrthbwynt, cerddorfaol, trefnu, ysgythru sgôr, arwain, dadansoddi, byrfyfyrio, canu corawl, deall gwahanol arddulliau cyfansoddi
- recordio, cymysgu, meistroli, creu cyfansoddiad o fewn amgylchedd rhithwir [cyfrifiadurol], midi, synthesis, plunderphonics, ffilmio, golygu a chodio
Pam astudio’r cwrs hwn?
- Byddwch yn darganfod amrywiaeth eang o ffurfiau, arferion a thechnegau cerddorol - a sut mae’r rhain yn berthnasol i ddisgyblaethau artistig eraill. Byddwch yn defnyddio'r wybodaeth hon i ysbrydoli eich arferion creadigol eich hun ac i ddod o hyd i’ch llais cyfansoddi.
- Fel rhan o’ch hyfforddiant arbenigol, byddwch yn cael cyfuniad o wersi un i un a gwersi grŵp, sef yr hyn rydym yn ei alw’n ‘brif astudiaeth’. Mae’n cwmpasu dosbarthiadau perfformio, dosbarthiadau ymarferol, gweithdai, sesiynau mewn stiwdio, darlithoedd, seminarau, prosiectau grŵp a chyfleoedd i gymryd rhan mewn profiad gwaith.
- Nid yw’r hyfforddiant yr un peth i bawb - byddwch yn cael dewis helaeth o fodiwlau a fydd yn caniatáu i chi ddilyn gyrfa sy’n cyd-fynd â’ch uchelgais a’r hyn rydych chi’n ei ffafrio. Os nad ydych chi’n siŵr beth hoffech ei wneud ar ôl graddio, byddwn yn eich cefnogi chi ac yn rhoi’r cyfle i chi wneud penderfyniad.
- Mae ein cysylltiadau clos a’n profiad gyda’r diwydiannau creadigol yn golygu y cewch nifer o gyfleoedd i ddysgu o weithio gydag artistiaid a cherddorion proffesiynol.
- Byddwch yn cael cyfleoedd i weithio gyda chyd-fyfyrwyr cerddoriaeth ac actorion, cynllunwyr, rheolwyr llwyfan a myfyrwyr rheolaeth yn y celfyddydau y Coleg. Mae hyn yn eich helpu i ffurfio partneriaethau a all bara ymhell ar ôl i chi raddio, ac mae hefyd yn datblygu eich awydd i wybod ac yn eich helpu i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd, sy’n fwyfwy hanfodol ar gyfer gyrfa lwyddiannus fel gweithiwr llawrydd annibynnol yn ogystal ag aelod o dîm.
- Rydym wedi cynnwys llawer iawn o asesu yn eich hyfforddiant. Mae’r ‘ddeialog’ barhaus hon yn hollbwysig i’ch helpu i dyfu a datblygu fel artist.
- Ar wahân i archwilio elfennau ymarferol cyfansoddi cerddoriaeth, gallwch hefyd ddysgu am agweddau corfforol, deallusol ac emosiynol hynny. Rydym yn ymchwilio i dueddiadau sy’n newid drwy’r amser, cyfryngau newydd a llwyfannau rhannu cerddoriaeth. Mae modiwlau dewisol yn cynnwys Techneg Alexander, bioleg ar gyfer cerddorion, cerddoriaeth ar gyfer theatr a recordio sain.
Geirdaon
Gwybodaeth arall am y cwrs
Gwybod mwy am yr adran
Cyfansoddi a Thechnoleg Cerddoriaeth Greadigol
Pobl
Storïau
Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf
Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau
Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy
Allow Unistats content?
Lorem ipsum doler sit amet Unistats seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.