Actio
Hyfforddwch gyda rhai o’r actorion, cyfarwyddwyr ac awduron gorau sy’n gweithio heddiw.
Cyflwyniad
Trochwch eich hun mewn hyfforddiant trylwyr o’r radd flaenaf, archwiliwch eich syniadau creadigol a datblygwch waith cymhellol a gwreiddiol fel rhan o gwricwlwm cynhwysol; un sy’n dathlu lleisiau amrywiol, gwaith newydd, a repertoire hollbwysig.
Rydym yn adnabyddus am ddatblygu actorion o’r radd flaenaf ac mae ein graddedigion i’w gweld ym myd theatr, ffilm a theledu yn fyd-eang. Ymhlith y graddedigion mae Rakie Ayola, Syr Anthony Hopkins, Ruth Jones, Rob Brydon, Callum Scott Howells, Tom Rhys-Harries, Thalissa Teixeira, Eve Myles, Dougray Scott, Anthony Boye, Ed Bluemel, Clare Dunne, Anjana Vasan ac Eric Kofi Abrefa.
Mae ein cyrsiau actio yn cael eu darparu mewn cysylltiad agos â rhaglenni cynllunio a rheoli llwyfan y Coleg sy’n golygu bod gennym ddull cydweithredol heb ei hail o addysgu Conservatoire y DU. Gyda’ch gilydd byddwch yn ffurfio cwmni cynhyrchu mewnol y Coleg, Cwmni Richard Burton. Gan weithio gyda chyfarwyddwyr proffesiynol, mae’r cwmni’n cynhyrchu tua 15 o sioeau bob blwyddyn, yn amrywio o ddramâu clasurol i waith cyfoes.
Pam astudio actio yn CBCDC?
- Byddwch yn gweithio gydag artistiaid gwadd clodwiw sy’n cyfarwyddo ein perfformiadau ac yn arwain ystod o ddosbarthiadau sy’n darparu hyfforddiant clasurol a chyfoes i actorion.
- Fel rhan o’ch hyfforddiant, byddwch hefyd yn cael dosbarthiadau meistr gyda rhai o awduron, actorion a chyfarwyddwyr mwyaf cyffrous y wlad, lle gallwch gael cyngor arbenigol ar bopeth yn amrywio o dechneg clyweliad i ddod o hyd i asiant.
- Byddwch yn cymryd rhan mewn stondinau actorion blynyddol yng Nghaerdydd a Llundain o flaen asiantau a chyfarwyddwyr castio blaenllaw. Gall y myfyrwyr hynny sy’n gymwys i weithio yn yr Unol Daleithiau hefyd gymryd rhan mewn arddangosfa yn yr Unol Daleithiau yn Efrog Newydd.
- Mae ein hyfforddiant yn gynhwysol ac yn croesawu amrywiaeth, gan weithio gyda’r lleisiau pwysig yn theatr y DU, sy’n rhoi sylw uniongyrchol i bryderon mwyaf rhagweledol ac arwyddocaol ein hoes.
- Yn ein gŵyl ysgrifennu newydd flynyddol, NEWYDD, byddwch yn gweithio’n agos gydag awduron a chyfarwyddwyr blaenllaw ar ddramâu a gomisiynwyd gennym ni mewn cydweithrediad â Royal Court, Paines Plough a Theatr y Sherman. Bydd y cynyrchiadau yn cael eu dangos am y tro cyntaf yma yn y Coleg cyn symud i theatr The Yard yn Llundain.
- Byddwch yn gweithio gyda’n hawdur preswyl, a fydd yn eich tiwtora ac yn eich cefnogi wrth i chi ddatblygu eich gwaith creadigol eich hun. Y dramodydd a chyfarwyddwr clodwiw Chinonyerem Odimba oedd ein hawdur preswyl cyntaf yn 2020. Ein hawdur preswyl presennol yw’r dramodydd byd-enwog Roy Williams, un o leisiau Du cyfoes pwysicaf y theatr ym Mhrydain.
Un o’r cyrsiau hyfforddi actorion mwyaf trylwyr a threiddgar yn EwropSimon StephensDramodydd
Dan arweiniad cyfarwyddwr o fri sydd ag 20 mlynedd o brofiad
Mae Jonathan Munby, Cyfarwyddwr Perfformio (Drama), wedi bod yn gyfarwyddwr ers dros 20 mlynedd ac wedi gweithio ledled y byd ar ddramâu clasurol, ysgrifennu newydd, theatr gerddorol ac opera.
Mae wedi gweithio i’r Royal Shakespeare Company, Shakespeare’s Globe yn Llundain, y Donmar Warehouse, Chichester Festival Theatre, a theatrau yn y West End.
Mae hefyd wedi gweithio mewn theatrau yn yr Unol Daleithiau a Japan, gan gynnwys Chicago Shakespeare Theatre, Shakespeare Theatre Company yn Washington, D.C. a’r Lincoln Center yn Efrog Newydd.
Mae wedi’i enwebu am, ac wedi ennill, nifer o wobrau mawr, gan gynnwys Gwobr Theatr y DU, Gwobr Helen Hayes yn yr Unol Daleithiau am y ‘Cyfarwyddwr Mwyaf Eithriadol’ ac yn fwyaf diweddar Gwobr Olivier am yr Adfywiad Gorau.