Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cyrsiau o A i Y

BA (Anrh) Cynllunio ar gyfer Perfformio

Ewch ati i archwilio pob agwedd ar gynllunio setiau a gwisgoedd ar gyfer theatr, digwyddiadau, teledu a ffilmiau ar y cwrs dwys hwn sy’n seiliedig ar sgiliau ymarferol a pherfformio.
Rhagor o wybodaeth

BA (Anrh) Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol

Cyfle i gael profiad ymarferol mewn 11 rôl gynhyrchu yn ein hyfforddiant arbenigol sy’n arwain at amrywiaeth eang o lwybrau gyrfa yn y diwydiant adloniant.
Rhagor o wybodaeth

Gradd Sylfaen mewn Adeiladu Golygfeydd

Drwy brofiad gwaith a hyfforddiant ymarferol, byddwch yn dysgu sut mae cynllunio, drafftio, adeiladu a gosod setiau i safon broffesiynol wrth weithio ar ein cynyrchiadau cyhoeddus niferus.
Rhagor o wybodaeth

Gradd Sylfaen mewn Celf Golygfeydd

Yn y cwrs hwn sy’n canolbwyntio ar leoliadau gwaith, byddwch yn dysgu sut mae creu setiau llwyfan, cefndiroedd a phropiau ar gyfer perfformiadau cyhoeddus, teledu a ffilmiau.
Rhagor o wybodaeth

Gradd Sylfaen mewn Cynhyrchu Technegol

Trwy gynyrchiadau mewnol y Coleg, lleoliadau yn y diwydiant a hyfforddiant ymarferol, byddwch yn dysgu’r holl sgiliau perthnasol sy’n ymwneud â gwaith y technegydd cynhyrchu ym meysydd theatr, digwyddiadau, ffilm a theledu.
Rhagor o wybodaeth

MA Celf Golygfeydd ac Adeiladu

Cyfle i archwilio dulliau arloesol o greu setiau, propiau a chefndiroedd ar gyfer y llwyfan a’r sgrin – wrth weithio ar nifer o berfformiadau cyhoeddus – yn y cwrs trochi hwn sy'n gwthio ffiniau gwireddu cynyrchiadau.
Rhagor o wybodaeth

MA Cynllunio ar gyfer Perfformio

Cyfle i wella eich arbenigedd gyda'n cwrs sy'n cynnig hyfforddiant arbenigol a chyfleoedd i ddylunio amgylcheddau perfformio, gosodiadau, cymeriadau a setiau ar gyfer cyfres o berfformiadau cyhoeddus byw a phrofiadau trochi.
Rhagor o wybodaeth

MA Cynllunio Cyfryngau Digidol a Chynhyrchu

Cewch y sgiliau a’r profiad ymarferol sydd eu hangen arnoch i fod yn ddylunydd goleuo arloesol sy’n gallu gweithio’n ddi-dor ar draws theatr, teledu, ffilm a digwyddiadau byw.
Rhagor o wybodaeth

MA Dylunio a Chynhyrchu Goleuo

Cewch y sgiliau a’r profiad ymarferol sydd eu hangen arnoch i fod yn ddylunydd goleuo arloesol sy’n gallu gweithio’n ddi-dor ar draws theatr, teledu, ffilm a digwyddiadau byw.
Rhagor o wybodaeth

MA Dylunio a Chynhyrchu Sain

Datblygu amrywiaeth eang o dechnegau dylunio sain uwch ar gyfer llwyfan a sgrin yn ein hyfforddiant sy’n cyfuno addysg arbenigol â stiwdios recordio a mannau perfformio o’r radd flaenaf.
Rhagor o wybodaeth

MA Dylunio ac Adeiladu Pypedau

Darganfyddwch bob agwedd ar ddylunio a chreu pypedau yn y cwrs hwn sy’n cynnig rôl gynhyrchu sylweddol, ymarferol ochr yn ochr â gweithdai a hyfforddiant arbenigol arall.
Rhagor o wybodaeth

MA Gwisgoedd ar gyfer Perfformiadau

Cyfle i archwilio dylunio a llunio cymeriadau a gwisgoedd arloesol ar gyfer theatr, ffilm a theledu gyda'r hyfforddiant ymarferol hwn yn seiliedig ar ymarfer cydweithredol.
Rhagor o wybodaeth

MA Rheolaeth yn y Celfyddydau

Ewch ati i ennill y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnoch i gael gyrfa lwyddiannus yn y sector creadigol, ynghyd â dau leoliad gwaith, yn ein cwrs dan arweiniad y diwydiant.
Rhagor o wybodaeth

MA Rheoli Cynyrchiadau

Ennill yr holl sgiliau trefnu, technegol, ariannol a gwaith tîm sydd eu hangen arnoch i reoli prosiectau a chynyrchiadau'n llwyddiannus o'r dechrau i'r diwedd.
Rhagor o wybodaeth

MA Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau

Gyda hyfforddiant gan arbenigwyr yn y diwydiant a phedwar lleoliad gwaith, mae’r cwrs hwn yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio ym myd cynhyrchu ffilmiau, digwyddiadau byw, theatr a theledu.
Rhagor o wybodaeth