MA Rheolaeth yn y Celfyddydau
Dyfarniad:
MA Rheolaeth yn y Celfyddydau
Corff dyfarnu:
Prifysgol De Cymru
Lleoliad astudio:
Caerdydd (CBCDC, ar-lein, a lleoliad gwaith)
Dyddiad dechrau:
21 Medi 2025
Hyd:
Blwyddyn llawn amser neu ddwy flynedd rhan amser
Cod y cwrs:
705F (llawn amser) neu 700P (rhan amser) – UCAS Conservatoires
Cyflwyniad
Ewch ati i ennill y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnoch i gael gyrfa yn y sector creadigol, ynghyd â dau leoliad gwaith, yn ein cwrs dan arweiniad y diwydiant.
Trosolwg o’r cwrs
Mae profiad gwaith ymarferol mewn dau leoliad proffesiynol yn sylfaen i’r cwrs meistr hwn.
Mae rheolaeth yn y celfyddydau’n canolbwyntio ar ochr fusnes y byd celfyddydol ac mae’n cynnwys cyfrifoldebau fel marchnata, codi arian a goruchwylio cyllidebau.
Mae ein hyfforddiant rheolaeth yn y celfyddydau yn arfogi myfyrwyr â’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnynt ar gyfer gyrfa yn y sector creadigol. Mae’r rhaglen unigryw hon yn datblygu graddedigion gwydn, parod am waith y mae galw mawr amdanynt a all lwyddo mewn diwydiant cyflym sy’n newid yn barhaus.
Gallwch ddewis arbenigo mewn un o dri maes, sy’n cael eu galw’n ‘llwybrau’:
- Rheolaeth yn y Celfyddydau Cyffredinol
- Cynhyrchu Creadigol
- Rheolaeth Gerddorfaol
Yn ein hamgylchedd dysgu bach a chefnogol, byddwch yn cael eich addysgu gan weithwyr proffesiynol profiadol ym maes y celfyddydau, sy’n dod o bob cwr o’r diwydiant, yn ogystal ag arbenigwyr gwadd uchel eu proffil sy’n ymweld yn ystod y flwyddyn.
Byddwch yn cael profi dau leoliad yn ystod eich cyfnod yma – yn ein canolfan gelfyddydau aml-leoliad ac un arall gydag un o dros 30 o’n sefydliadau partner allanol.
Yn ogystal â bod yn addas ar gyfer graddedigion diweddar, mae’r cwrs hefyd yn ddewis gwych i weithwyr proffesiynol ar ganol eu gyrfa sy’n dymuno uwchsgilio neu symud i rolau arwain.
Efallai y bydd ymgeiswyr sydd eisoes â phrofiad proffesiynol yn gweithio yn y celfyddydau yn gallu defnyddio eu profiad fel credyd APEL (Achrediad ar gyfer Profiad Blaenorol) i fyrhau eu taith ddysgu ac arbed ar gostau cyffredinol y cwrs.
Pam astudio’r cwrs hwn?
- Byddwch yn cael cymysgedd cynhwysfawr o ddulliau addysgu mewn amrywiaeth o leoliadau: gan gynnwys cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau, profiad ymarferol a gwaith digidol.
- Bydd eich hyfforddiant yn eich gwneud yn arweinydd cadarn sy’n barod i weithio yn y celfyddydau ac sy’n gallu llwyddo mewn diwydiant sy’n newid drwy’r amser. Rydym yn falch iawn ein bod wedi cynnal record cyflogaeth 100% ers 2013, gyda myfyrwyr yn parhau i sicrhau swyddi cysylltiedig o fewn tri mis i raddio.
- Dewis o dri llwybr arbenigol – dewiswch o blith cynhyrchu creadigol, rheolaeth gerddorfaol neu reolaeth yn y celfyddydau cyffredinol fel eich maes arbenigol, yn dibynnu ar eich diddordeb a’ch dyheadau o ran gyrfa.
- Mae ein cwrs yn adlewyrchu arfer cyfredol gan ei fod yn cael ei gyflwyno gan dîm o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio ar hyn o bryd yn y diwydiant, yn ogystal ag arbenigwyr gwadd sy’n ymweld drwy gydol y flwyddyn.
- Mae gennym raglen lleoliadau gwaith gynhwysfawr ac rydym yn trefnu lleoliadau ar gyfer yr holl fyfyrwyr rheolaeth yn y celfyddydau, yn ein canolfan gelfyddydau aml-leoliad ac o fewn un o’n 30+ o sefydliadau partner allanol. Maent yn cynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Theatr Clwyd a Neuadd Dewi Sant.
- Byddwch yn dysgu mewn conservatoire cerddoriaeth a drama a chanolfan gelfyddydau o safon fyd-eang sy’n darparu cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr rheolaeth yn y celfyddydau gydweithio ar brosiectau ar draws y Coleg a gweithio gydag artistiaid/cwmnïau gwadd.
- Tra bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn cwblhau’r cwrs yn llawn amser dros flwyddyn, rydym hefyd yn cynnig opsiynau astudio hyblyg, felly os oes angen i chi gydbwyso gwaith/bywyd ochr yn ochr â’ch astudiaethau, ystyriwch ein cyfleoedd mynychu rhan-amser - fel arfer dros ddwy flynedd, ond gall fod hyd at bum mlynedd.
- Mae hyfforddiant penodol i’r sector yn rhan o’r cwrs hefyd – gallwch astudio ar gyfer Tystysgrif IOSH - Rheoli’n Ddiogel mewn Theatrau a Chynyrchiadau. Mae’r dyfarniad proffesiynol hwn yn cael ei ystyried yn hyfforddiant iechyd a diogelwch hanfodol i’r rheini sy’n gweithio ym maes rheoli theatrau a chynyrchiadau.
'Roedd y cwrs Rheolaeth yn y Celfyddydau yn help mawr i mi symud ymlaen. Rydw i wedi dysgu sgiliau ymarferol y gallaf eu defnyddio i fy mywyd gwaith pob dydd.
Byddwn yn argymell y cwrs hwn i unrhyw un, ond yn enwedig y rheini sydd am dreulio cyfnod penodol yn gwella eu sgiliau rheolaeth yn y celfyddydau a datblygu eu dealltwriaeth o’r diwydiant celfyddydau.
Mae’n ffordd wych o weld beth sy’n addas i chi a darganfod beth sydd fwyaf o ddiddordeb i chi.'Hope DowsettGraddedig
Gwybodaeth arall am y cwrs
Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf
Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau
Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy