Neidio i’r prif gynnwys

Cyfansoddi a Thechnoleg Cerddoriaeth Greadigol

Datblygwch lais personol hyderus a nodedig drwy hyfforddiant arbenigol sy’n cwmpasu’r ystod lawn o dechnegau a dulliau cyfansoddi, tra’n trochi eich hun mewn cyfleoedd i berfformio a recordio, cael profiad ymarferol o’r diwydiant a chydweithio ar draws y disgyblaethau.

Mae capsiynau ar gyfer y fideo hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Pam astudio cyfansoddi yn CBCDC?

  • Mae ein hadran fach a llawn cefnogaeth yn golygu y gall eich hyfforddiant gael ei deilwra i’ch anghenion unigol, gan eich cefnogi a’ch ysbrydoli i ddod o hyd i’ch hunaniaeth greadigol bersonol.
  • Wrth wraidd yr astudio mae hyfforddiant un-i-un dwys, sy’n cwmpasu creu cerddoriaeth drwy dechnoleg a gweithio gyda cherddoriaeth ‘nodiannol’ draddodiadol.
  • Byddwch yn cael profiad ymarferol ffurfiol ac anffurfiol yn y Coleg ac ym myd go iawn y diwydiannau creadigol, a'r cyfan gyda chefnogaeth y staff cyfansoddi.
  • Byddwch yn cael cyfleoedd i brofi rhai o sefydliadau cerddorol mwyaf nodedig Cymru, gan gynnwys Tŷ Cerdd (Music House Wales), Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (y mae ei stiwdios recordio yn un o’r cyfleusterau recordio pwrpasol mwyaf y tu allan i Abbey Road yn Llundain), yn ogystal ag Opera Cenedlaethol Cymru a Sinfonia Cymru.
  • Mae cyfansoddi ag electroneg yr un mor bwysig â chyfansoddi offerynnol. Nid ydym yn eithrio unrhyw dechneg na dull cyfansoddi, a chewch eich annog i ddod o hyd i’ch arddull greadigol eich hun gyda chefnogaeth ein tîm hynod arbenigol o diwtoriaid.
  • Mae myfyrwyr yn aml yn creu gwaith ar gyfer gosodiadau clyweledol cwbl drochol, perfformiadau byw i offerynwyr, ac offerynnau meddalwedd electronig a rhyngweithiol, yn ogystal â’r cyfryngau mwy traddodiadol fel dawns ac opera.
  • Mae partneriaethau cydweithredol yn elfen allweddol o’r cwrs, o fewn y Coleg ac ar draws y diwydiant.
  • Mae gan bob aelod o staff ei faes arbenigedd ei hun, gan gynnig hyfforddiant unigol a dosbarthiadau ym mhob agwedd a thechnegau cyfansoddi, sy’n cynnwys cyfansoddi ar gyfer cyfryngau eraill, fel ffilm a theledu, dawns, theatr a gemau yn ogystal â meysydd mwy traddodiadol fel cyngherddau, operâu a gosodiadau.

Oriel


Archwilio’r adran hon

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf