Datganiad Blynyddol Moeseg ac Uniondeb Ymchwil
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r gwaith yn ystod blwyddyn academaidd 1 Awst 2023 – 31 Gorffennaf 2024.
1. Y Concordat a CBCDC
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) yn ymroddedig i egwyddorion y Concordat i Gefnogi Uniondeb Ymchwil, sy’n cynnwys:
- Cynnal y safonau uchaf o drylwyredd ac uniondeb ym mhob agwedd ar ymchwil
- Sicrhau y caiff ymchwil ei chynnal yn unol â’r fframweithiau, y rhwymedigaethau a’r safonau moesegol, cyfreithiol a phroffesiynol priodol.
- Cefnogi amgylchedd ymchwil sy’n seiliedig ar ddiwylliant o uniondeb a llywodraethu da, arferion gorau, a chymorth ar gyfer datblygu ymchwilwyr
- Defnyddio prosesau tryloyw, amserol, cadarn a theg i ymdrin â honiadau o gamymddwyn ymchwil pe baent yn codi
- Cydweithio i gryfhau uniondeb ymchwil ac i adolygu cynnydd yn rheolaidd ac yn agored.
2. Polisi a gweithdrefnau CBCDC mewn perthynas ag uniondeb ymchwil
Mae ymrwymiad CBCDC i hyrwyddo a chynnal uniondeb ymchwil ar gael yn ei bolisïau:
- Fframwaith Moeseg Ymchwil CBCDC
- Y Cynllun Strategol
- Y Cynllun Cydraddoldeb Strategol
3. Gweithgareddau
Rhoddir hyfforddiant mewn moeseg ac uniondeb ymchwil i israddedigion ac ôl-raddedigion mewn modiwlau ar draws pob adran sydd ag elfen ymchwil. Darperir hyfforddiant hefyd mewn modiwlau ar draws pob adran sydd ag elfen ymchwil.
Rhoddir cymeradwyaeth foesegol ar gyfer ymchwil sy’n seiliedig ar ymarfer ac ymchwil nad yw’n seiliedig ar ymarfer, drwy gais i’r Pwyllgor Moeseg Ymchwil. Mae’r Pwyllgor yn cwrdd deirgwaith y flwyddyn ac yn adrodd i’r Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi. Mae gan yr Is-bwyllgor gynrychiolaeth staff o bob un o’r adrannau, yn ogystal â chynrychiolwyr myfyrwyr. Mae Cadeirydd yr Pwyllgor, Dr James Lea, yn gwasanaethu ar Bwyllgor Moeseg Ymchwil Conservatoires UK.
4. Ceisiadau a dderbyniwyd rhwng 1 Awst 2023 – 31 Gorffennaf 2024
Roedd y mwyafrif o gyflwyniadau cymeradwyaeth foesegol y myfyrwyr wedi’u cymeradwyo gan y goruchwyliwr gyda’r gwaith papur wedi'i gofnodi'n ganolog. Mae’r is-bwyllgor Moeseg Ymchwil yn adrodd y canlynol mewn perthynas â phroses cymeradwyo moesegol 2023/24:
Ceisiadau staff CBCDC – 3 yn llwyddiannus
Myfyrwyr ôl-raddedig – dim
Myfyrwyr israddedig – 4 yn llwyddiannus
Allanol – 3 chais llwyddiannus am fynediad at staff/myfyrwyr coleg i gynnal arolygon (wedi’u cefnogi gan gymeradwyaeth foesegol y sefydliad cartref a/neu bwyllgor Moeseg CUK)
5. Camymddwyn ymchwil
Ni fu unrhyw ymchwiliadau ffurfiol mewn perthynas â chamymddwyn ymchwil ar gyfer 2022/23.
6. Datblygiadau arfaethedig
- Alinio arfer â Phwyllgor Moeseg CUK
- Parhau i ddatblygu hyfforddiant staff a myfyrwyr ar foeseg ac uniondeb ymchwil
- Cydgysylltu ag adrannau perthnasol i sicrhau bod gweithdrefnau moesegol yn cael eu cymhwyso'n gyson