Newyddion
CBCDC yn lansio ymgyrch adfer Hen Lyfrgell Caerdydd gyda rhodd o £2 filiwn gan Syr Howard a’r Fonesig Stringer
Mae’r rhodd hwn gan Syr Howard a’i wraig y Fonesig Stringer yn lansio ymgyrch codi arian uchelgeisiol y Coleg ar gyfer y Llyfrgell sydd angen codi cyfanswm o £12 miliwn, gyda £3 miliwn bellach wedi’i sicrhau, gan gynnwys rhodd blaenorol gan Sefydliad Mosawi.
Syr Howard Stringer a Chymru
Mae’n dilyn trosglwyddiad diweddar y Llyfrgell o ofal Cyngor Caerdydd i’r Coleg am y 99 mlynedd nesaf ar brydles hir, gan adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i gyflawni Strategaeth Cerddoriaeth Caerdydd. Fel arwydd o ddiolchgarwch, mae prif stiwdio’r llawr cyntaf wedi’i henwi’n Stiwdio Syr Howard Stringer am weddill cyfnod y brydles
Wrth i’r Coleg nesáu at ei ben-blwydd yn 75 oed yn 2024, bydd prosiect yr Hen Lyfrgell (y disgwylir iddo gael ei gwblhau dros bum mlynedd mewn camau penodol) yn gweld yr adeilad treftadaeth arwyddocaol hwn yn dychwelyd i’w genhadaeth wreiddiol fel man cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau ac addysg. Bydd hefyd yn creu cyfleoedd i CBCDC ddatblygu ei weledigaeth i ddatblygu ymgysylltiad cyhoeddus arloesol, meithrin talent y dyfodol a grymuso rhagoriaeth yn ei holl ffurfiau o galon prifddinas Cymru.
Dod â’r gymuned ynghyd yng nghanol Caerdydd
Mae’r Coleg bellach yn cychwyn ar gyfnod o ymgynghori a gweithgarwch ymgysylltu â’r cyhoedd i gyd-greu cynllun ar gyfer defnydd cymunedol yr adeilad, gan ddatblygu cyfleoedd hirdymor i weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr a staff CBCDC.
Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda busnesau eraill yng nghanol y ddinas, cymunedau amrywiol, lleoliadau, sefydliadau celfyddydol a’r cyhoedd a thenantiaid presennol, sy’n cynnwys Amgueddfa Caerdydd a Menter Caerdydd.
Syr Howard Stringer a Chymru
Mae gan Syr Howard, a aned yng Nghaerdydd, ac a fu gynt yn Gadeirydd y Sony Corporation a Bwrdd Ymddiriedolwyr Sefydliad Ffilm America a Llywydd CBS, berthynas hirs â’r Coleg, ar ôl cael ei wneud yn Gymrawd yn 2001. Gyda’i wraig, y Fonesig Jennifer Stringer, mae’n frwd dros ddatblygu talent ac mae Ysgoloriaethau Syr Howard Stringer y Coleg eisoes yn cefnogi pobl ifanc o Gymru ac America na fyddent fel arall yn gallu fforddio costau astudio mewn conservatoire.
Ymwelodd Syr Howard a’r Fonesig Stringer â’r Hen Lyfrgell heddiw gyda staff, myfyrwyr a gwesteion y Coleg tra bod perfformiad pypedwaith newydd y Coleg i deuluoedd, Giant, yn rihyrsio. Ymunodd myfyrwyr a’r cymeriadau pyped â Syr Howard i ddadorchuddio’r placiau’n enwi Stiwdio Syr Howard Stringer.
‘Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi bod yn gonglfaen i ddiwylliant Cymru ers tro. Mae troi’r llyfrgell hardd a hanesyddol yn stiwdios rihyrsal gwych ac ystafelloedd dosbarth yn ehangu presenoldeb y Coleg i gymuned ehangach, drwy berfformio ac ymgysylltu â’r cyhoedd tra’n sicrhau ymhellach ei rôl bresennol ac yn y dyfodol fel arweinydd yn natblygiad y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Mae yna wastad groeso yng Nghymru. Dyna’r rheswm fy mod bob amser wedi dychwelyd i Gymru, gan mai dyma lle’m ganwyd a dyma’r man lle dechreuodd fy nghariad at gerddoriaeth a drama, ac felly mae’n ysgogi fy nghefnogaeth.’Sir Howard Stringer
Y Coleg a’r Hen Lyfrgell
Dywedodd Prifathro CBCDC, Helena Gaunt: ‘Mae ein diolch yn fawr i Syr Howard a’r Fonesig Stringer am yr anrheg hael a diffuant hwn. Wrth i ni nesáu at ein pen-blwydd yn 75 oed mae gennym weledigaeth glir ar gyfer cyfeiriad y Coleg ac mae’r Hen Lyfrgell yn ganolog iddi, gan gynnig cyfleoedd newydd i fyfyrwyr guradu a chyd-greu perfformiadau a gweithgareddau llawn ysbrydoliaeth gyda grwpiau amrywiol o gyfranogwyr a chynulleidfaoedd.'
'Bydd ehangu’r Coleg allan i’r adeilad hwn yng nghanol y ddinas – yn union gyferbyn â Neuadd Dewi Sant – yn rhoi estyniad pwysig i’n gallu addysgu a’n rhaglenni talent. Yr un mor bwysig, mae hefyd yn rhoi cyfle prin i ni gynnig mannau perfformio a gweithdai hyblyg a chreu canolbwynt diwylliannol, artistig ac addysgol hygyrch i’r cyhoedd.'Helena Gaunt
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor: ‘Mae Caerdydd yn brifddinas greadigol a diwylliannol ac mae’r rhodd hynod hael hwn yn mynd â ni gam yn nes at ddod ag un o’i sefydliadau diwylliannol mwyaf arwyddocaol i ganol y ddinas. Mae’n hwb enfawr i addysg cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformio ac i’n gwaith strategaeth cerddoriaeth i ddiogelu, gwella a datblygu arlwy cerddoriaeth y ddinas.
Mae conservatoire Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn darparu llif cyson o dalent o’r radd flaenaf ac mae llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i fwynhau llwyddiant rhyngwladol. Bydd ei gynlluniau cyffrous yn adeiladu ar yr hyn y gall ei gynnig i’w fyfyrwyr, ond hefyd yn agor ei waith i’r cyhoedd yn ehangach, gan wneud yr adeilad yn fwy hygyrch a’r gerddoriaeth a’r perfformiadau sy’n deillio ohono yn rhan annatod o ganol y ddinas.
Bydd hefyd yn rhoi bywyd newydd i un o adeiladau mwyaf hanesyddol Caerdydd, gan ei ddiogelu a’i gadw am flynyddoedd i ddod, ac rwy’n falch bod yr Amgueddfa, am y tro, hefyd yn aros yn yr adeilad, hyd nes y bydd ein gwaith partneriaeth cadarnhaol ag Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa i ddod o hyd i gartref hirdymor cynaliadwy mwy addas iddo wedi’i gwblhau.
Bydd y cynlluniau uchelgeisiol hyn yn helpu i sicrhau bod cerddoriaeth a diwylliant Caerdydd yn parhau, yn llythrennol, yng nghanol y ddinas.”
Nodiadau i olygyddion
Swyddog gweithredol busnes Americanaidd a aned yng Nghymru yw Syr Howard Stringer a ddaeth yn Brif Swyddog Gweithredol (2005-12) cyntaf y gorfforaeth technoleg ac adloniant Sony nad oedd yn hanu o Japan.
Ym 1965, yn fuan ar ôl derbyn gradd meistr mewn hanes modern o Goleg Merton, Rhydychen, symudodd Stringer i UDA lle cafodd swydd yn ateb ffonau yn CBS ar gyfer yr Ed Sullivan Show. Chwe wythnos ar ôl iddo ddechrau gweithio cafodd ei ddrafftio i Fyddin yr Unol Daleithiau i ymladd yn Rhyfel Fietnam lle dyfarnwyd pum medal iddo am ei wasanaeth.
Ar ôl cwblhau ei wasanaeth milwrol ym 1967, dychwelodd Syr Howard Stringer i CBS lle arhosodd tan 1995, gan weithio ar CBS News y rhan fwyaf o’r amser hwnnw, gan ennill naw gwobr Emmy rhwng 1974-1976 fel awdur, cyfarwyddwr a chynhyrchydd gweithredol yn ogystal ag ennill dwy wobr Emmy Oes ar gyfer Electroneg ac Adloniant. Daeth yn Llywydd CBS ym 1988 ac aeth ymlaen i drawsnewid y cwmni, yn enwedig gyda chyflogi cyflwynydd y sioe sgwrsio hwyrol, David Letterman.
Ym 1995 gadawodd Stringer CBS i ddod yn gadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol TELE-TV, lle arhosodd tan 1997 cyn ymuno â Sony fel llywydd is-gwmni Americanaidd y cwmni. Fe’i penodwyd yn gadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol yn 2005, ac yn 2009 daeth yn llywydd. Fel pennaeth Sony Entertainment yn yr UDA, comisiynodd dair ffilm Spider Man, dwy ffilm Men in Black, Crouching Tiger, DaVinci Code, Sleepless in Seattle, ymhlith llawer o rai eraill, a chaffaelodd fasnachfraint James Bond i gynnwys Casino Royale a Skyfall.
Yn 2012 camodd Stringer i lawr a chael ei ethol yn gadeirydd y bwrdd cyfarwyddwyr nes iddo adael y cwmni yn 2013.
Mae Syr Howard Stringer hefyd wedi gwasanaethu ar fyrddau sefydliadau elusennol, amgueddfeydd a chanolfannau celf. Mae hefyd wedi derbyn llawer o ddyfarniadau, gan gynnwys sawl doethuriaeth er anrhydedd. Daeth yn farchog ym Mhrydain ym 1999.
Mae Syr Howard Stringer a’i wraig y Fonesig Stringer wedi bod yn gefnogwyr y Coleg ers tro byd, ac anrhydeddwyd Syr Howard â chymrodoriaeth yn 2001. Maent wedi cefnogi nifer o fyfyrwyr llwyddiannus drwy Wobrau Ysgoloriaethau’r Coleg.
Gwaith sydd wedi’i gynllunio gan CBCDC ar gyfer yr Hen Lyfrgell
Bydd y gweithgareddau yn yr Hen Lyfrgell yn bersonol ac yn rhyngweithiol, gan ategu’r mannau mwy ffurfiol ar Ffordd y Gogledd. Bydd cynllun gwreiddiol yr adeilad yn cael ei adfer a’i gadw, gyda’r llawr gwaelod yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer perfformiadau cyhoeddus a lloriau eraill yn cael eu hailddefnyddio ar gyfer dysgu ac addysgu gyda pheth gweithgarwch perfformio. Gyda datblygiad o amgylch y brif fynedfa, bydd cyfleoedd hefyd i weithgareddau orlifo i ardaloedd awyr agored newydd.