Newyddion
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn Cydweithio â’r brodyr Matsena i greu addasiad newydd o A Midsummer Night’s Dream
Gweledigaeth radical
Mae gweledigaeth radical o’r ddrama boblogaidd hon, a gyfarwyddir ar y cyd gan Jonathan Munby ac Anthony a Kel Matsena, gyda’r gwaith coreograffi gan y Brodyr Matsena, yn dod â’r gomedi glasurol hon ar ei hunion i’r unfed ganrif ar hugain.
Addaswyd DREAM gan Jonathan Munby, Cyfarwyddwr Perfformio Drama CBCDC, sydd newydd ddychwelyd o gyfnod yn cyfarwyddo Wendy and Peter Pan yn y Leeds Playhouse, lle gwerthwyd pob tocyn. Caiff y cynhyrchiad ei gyd-gyfarwyddo a’i goreograffu gan Anthony a Kel Matsena, gan ddod â’u brand arbennig eu hunain o gydweithredu ysbrydoledig i weithio gydag actorion ac artistiaid creadigol y flwyddyn olaf yn yr ystafell rihyrsio.
Mae’r cynhyrchiad hwn yn canolbwyntio ar y brwydrau am bŵer rhwng y rhywiau o fewn y ddrama ac yn amlygu cwestiynau ynglŷn â hunaniaeth, gwirionedd ac ymddiriedaeth, gan adlewyrchu’r themâu sy’n rhedeg drwy dymor Cwmni Richard Burton y Coleg: mae Mary Stuart a SHOOK ill dau yn edrych ar rolau rhywedd, disgwyliadau, grym a chyfrifoldeb trwy lens yr unfed ganrif ar hugain.
'Rydym yn defnyddio dull radical a chyfoes ar gyfer A Midsummer Night’s Dream, yn cynnig cynhyrchiad promenâd trochol i gynulleidfaoedd, gan eu harwain at galon dywyll a throellog y darn.
Yr hyn y mae’r brodyr Matsena yn ei gynnig yw agwedd ffres a hynod gorfforol i’r gwaith o adrodd stori a fydd yn cynnig profiad dwys a llawn egni.'Jonathan MunbyCyfarwyddwr Perfformiad Drama
Mae Anthony a Kel Matsena, a anwyd yn Simbabwe a’u magu yng Nghymru, wedi creu enw iddynt eu hunain am eu dull arloesol a hygyrch tuag at adrodd storïau, gyda’r nod o gysylltu â chymunedau trwy ddawns gyda’u cwmni dawns gwobrwyedig Matsena Productions.
'Mae ein gwaith fel arfer yn adlais o’n profiadau ein hunain, ond mae’r ddrama hon yn canolbwyntio ar eiriau ac felly mae’n ymwneud â theimlo’n un â’r testun a chofleidio’r cyfeiriad cyffrous y mae’r gwaith yn mynd iddo. Rydym yn rhannu ein gwybodaeth a’n profiad ein hunain, ond mae hon yn broses gydweithredol iawn.
Mae’n brofiad ysbrydoledig iawn o fod yn gweithio gyda’r actorion a’r tîm creadigol yma yn CBCDC oherwydd y cydweithio hwnnw. Mae gan bawb ohonom rywbeth pwysig i’w ddweud, felly mae’n ymwneud â sut rydym yn dod â hyn ynghyd. Mae pawb ohonom hefyd yn dysgu amdanon ein hunain fel pobl eraill wrth i ni weithio ein ffordd trwy eiriau, delweddau ac emosiynau grymus Shakespeare.'Kel Matsena ac Anthony MatsenaMatsena Productions
Cyfarwyddwr Jonathan Munby gyda Kel Matsena ac Anthony Matsena
Addasiad Jonathan Munby o A Midsummer Night’s Dream Shakespeare
Coreograffwyr Anthony Matsena a Kel Matsena
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Brodyr Matsena yma.