Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru’n penodi Uzo Iwobi OBE
Ar hyn o bryd, mae Uzo yn Gynghorydd Polisi Arbenigol ar Gydraddoldeb i Lywodraeth Cymru. Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys Comisiynydd i Gomisiwn Cydraddoldeb Hiliol y DU a Brif Swyddog Gweithredol Race Council Cymru.
Mae hi’n ymuno â rhestr nodedig o Is-Lywyddion yn cynnwys y Cymrawd a myfyriwr a raddiodd o’r Coleg, Syr Anthony Hopkins, y Cymrawd Michael Sheen a’r Cymrawd a Llywydd Ysgol Opera David Seligman, Syr Bryn Terfel.
Mae cyfraniad Uzo fel Athro Cadair Hodge Rhyngwladol mewn Amrywiaeth dros y tair blynedd diwethaf wedi bod yn allweddol i waith y Coleg ar ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol a lansiwyd Hydref diwethaf.
'Ers bod yn rhan o’r Coleg mae gwaith Uzo gyda ni wedi bod yn allweddol.
Mae wedi bod mor hael wrth ddod yn aelod gweithredol ac ysbrydoledig o gymuned CBCDC, yn ein cysylltu ni â chymunedau amrywiol yn cynnwys Hynafiaid Windrush Cymru. Yn ddiweddar mae wedi bod yn llais arbenigol yn ein helpu ni i ddatblygu a gweithredu ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol a’n Cynllun Gwrth-Hiliaeth.
‘Mae’r rôl newydd hon yn dathlu a chydnabod cyfraniad Uzo yn y Coleg ac ar draws gweddill y sector celfyddydau yng Nghymru, a’r cyfraniad allweddol y bydd dal yn ei wneud yn rhai o’r agweddau pwysicaf ar ein taith barhaus.
Mae Uzo’n sbardun gwych ar gyfer newid ac yn llysgennad gweithredol dros ein sefydliad, ac rwy’n hynod ddiolchgar y bydd yn parhau i gynnig ei harbenigedd i’n cefnogi.
Rwy’n falch fod Uzo wedi derbyn y rôl anrhydeddus hon ac yn edrych ymlaen yn arw iawn at barhau ein perthynas agos.'Prifathro Helena GauntPrifathro CBCDC
'Mae’n anrhydedd mawr i gael gwahoddiad i wasanaethu’r Coleg fel Is-Lywydd.
Dros y blynyddoedd diwethaf fel Athro Cadair Rhyngwladol mewn Amrywiaeth i Goleg Brenhinol Cymru, rydw i wedi datblygu edmygedd enfawr am y gwaith gwerthfawr sy’n cael ei wneud yma.
Roeddwn i wrth fy modd i gefnogi’r Coleg fel y cymerodd camau hanfodol a heriol i ddatblygu ei Cynllun Cydraddoldeb Strategol a’i Gynllun Gwrth-Hiliaeth. Cydnabyddir y Cynllun Gwrth- Hiliaeth yn Black History Cymru a Windrush Cymru Elders fel arfer gorau yn y sector.
Yn fy rol newydd, rydw i’n hollol ymrwymedig i barhau gweithio gyda’r Coleg tuag at gweithrediad effeithiol y cynlluniau yma. Mae rhain yn camau pwysig i gymryd tuag at ddiwylliant cynhwysol ym mhob agwedd o waith y Coleg ac rydw i’n bles iawn i fod yn rhan o’r siwrne gyffrous a thrawsnewidiol yma. Dwi wir wrth fy modd i wasanaethu’r Coleg fel hyn.'Uzo IwobiIs-Lywydd CBCDC
Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn un o dargedau cyffredinol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol, ond mae hefyd yn ategu uchelgeisiau’r Coleg ar gyfer cynaliadwyedd a llywodraethu, pobl a chysylltiadau, a myfyrwyr a rhaglenni.
Dathlu’r daith
Ers i’r Coleg lansio ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol mae wedi
- Cofrestru ar gyfer polisi Dim Goddefgarwch i hiliaeth yng Nghymru Race Council Cymru, gyda’r Tîm Uwch Reoli yn cofrestru fel unigolion.
- Hybu cynrychiolaeth ar ei bwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mae cynrychiolwyr o Stonewall, RCC ac UCAN Productions nawr yn cyd-gadeirio is-grwpiau sy’n edrych yn benodol ar ei feysydd blaenoriaeth a nodwyd sef rhywedd, hil ac anabledd. Mae’r holl grwpiau cynghori hyn yn cynnwys cynrychiolwyr allanol ac o blith y myfyrwyr hefyd.
- Cynyddu ei gymorth bwrsarïau i fyfyrwyr i gynnwys bwrsari blynyddol ar gyfer myfyrwyr israddedig newydd gydag incwm cartref o lai na £30,000 y flwyddyn o flwyddyn academaidd 2021/22. Gallai dros 25% o fyfyrwyr newydd 2021 fod yn gymwys am y cymorth hwn.
- Cynyddu ei Gronfa Caledi Myfyrwyr 300% gydag ymgyrch codi arian dros y cyfnod clo, gan ddyblu nifer y dyfarniadau sydd ar gael i ymgeiswyr unigol.
- Cyflwyno pythefnos sefydlu newydd i fyfyrwyr yn dathlu gwahaniaeth ac yn edrych ar bŵer, parch a ffiniau. Erbyn diwedd Medi 2021 bydd mwy na 2/3 o fyfyrwyr wedi bod trwy’r rhaglen newydd hon.
- Parhau i ail-werthuso ei raglen greadigol: Mae perfformiadau a dosbarthiadau meistr eleni wedi cynnwys y pianydd Zoe Rahman, y drymiwr Sidiki Dembele, y trombonydd Jazz Dennis Rollins a’r gitarydd Ahmed Dickinson yn arwain datganiadau, dosbarthiadau meistr a gweithdai.
- Pennu targedau blaengar ar gyfer Cwmni Richard Burton, yn cynnwys bod o leiaf 50% o awduron, cynhyrchwyr a chastiau yn fenywod, o leiaf 20% o’r repertoire wedi’i ysgrifennu a’i gyfarwyddo gan berson sydd â nodwedd warchodedig, o leiaf un perfformiad â chapsiynau bob tymor ac o leiaf un berthynas newydd â diwydiant er mwyn datblygu gwaith y Coleg ymhellach.
- Bydd 100% o staff cyflogedig* CBCDC wedi cwblhau hyfforddiant ar Ragfarn Anymwybodol yn ystod y deuddeg mis diwethaf. Bydd yr holl staff cyflogedig hefyd yn mynychu digwyddiad datblygiad proffesiynol dau ddiwrnod ym mis Medi 2021.
- Ail-werthuso ei bolisi recriwtio staff fel rhan o’i gynllun pobl sy’n datblygu, o ganolbwyntio ar iaith a lleoli hysbysebion i hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus i’r holl staff.
- Cynnig llu o gyfleoedd hyfforddiant i staff yn canolbwyntio ar faterion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gan gynnwys hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd a hil yn canolbwyntio ar y diwydiant theatr. Mae tri chwarter o staff cyflogedig bellach wedi’u hyfforddi yn Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl ac erbyn diwedd y flwyddyn academaidd hon bydd bron i hanner o staff cyflogedig y Coleg wedi hyfforddi mewn Ymarfer Adferol.
- Staff allweddol yn cymryd rhan ym mhrosiect uchelgeisiol parhaus Cymru gyfan a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru gydag Advance HE i wella cydraddoldeb hiliol ac amrywiaeth ar draws addysg uwch yng Nghymru. Gallai argymhellion ychwanegol godi o’r prosiect hwn pan ddaw i ben ym mis Tachwedd 2021.
- Gweithio gyda phartneriaid fel Bad Wolf a’r Andrew Lloyd Webber Foundation i greu ysgoloriaethau i fyfyrwyr â nodweddion gwarchodedig neu sydd o dan anfantais yn economaidd-gymdeithasol.
Nodiadau i olygyddion
Llywydd CBDC
Daeth Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn Llywydd y Coleg yn 2019, gan barhau â’r gefnogaeth weithredol y mae wedi’i gynnig ers iddo ddod yn Noddwr am y tro cyntaf ym 1999.
Is-Lywyddion CBCDC
Mae Is-Lywyddion CBCDC yn grŵp dethol o gynghorwyr a llysgenhadon dibynadwy sy’n dod â gwybodaeth ac arbenigedd gwerthfawr o amrywiaeth o gefndiroedd i gefnogi uchelgeisiau’r Coleg.
Is-lywyddion y Coleg yw Philip Carne MBE FRWCMD, Rhodri Talfan Davies BA (Anrh) Oxon, Syr Anthony Hopkins CBE FRWCMD, Yr Athro Uzo Iwobi OBE, Y Fonesig Gwyneth Jones CBE FRWCMD, y Capten Syr Norman Lloyd-Edwards KCVO, GCStJ, RD*, JP, RNR, Menna Richards BA FRWCMD, y Fonesig Anya Sainsbury, Michael Sheen FRWCMD, Syr Ian Stoutzker CBE FRWCMD, Syr Bryn Terfel CBE FRWCMD ac Edward Thomas FRWCMD.
Yr Athro Uzo Iwobi OBE
Derbyniodd y gyfreithwraig Uzo Iwobi, a anwyd yn Nigeria, OBE am ei chyfraniadau i gysylltiadau hiliol cymunedol a Chymunedau De Cymru, gan sefydlu’r Ganolfan Gymunedol Affricanaidd gyntaf yn y wlad a sefydlu Race Council Cymru, corff ambarél sy’n herio anghydraddoldeb hiliol yng Nghymru. Bu’n dal nifer o swyddi arwain ar hil, yn cynnwys gwasanaethu fel Comisiynydd ar gyfer Race Equality UK. Bu’n gweithio fel cynghorydd strategol i Dîm Amrywiaeth Cenedlaethol yr Heddlu, y Swyddfa Gartref ac Awdurdod yr Heddlu ac mae wedi bod yn aelod o fwrdd y Groes Goch Brydeinig, Coleg yr Iwerydd ac elusennau eraill fel BAWSO.
Yn 2018 penodwyd Uzo yn Athro Cadair Hodge Rhyngwladol mewn Amrywiaeth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac yn gydlynydd ar gyfer Cymdeithas Frenhinol y Gymanwlad yng Nghymru.
Mae Uzo wedi derbyn gwobrau gan y Prif Weinidog yn cynnwys Comisiwn Cenedlaethol y Menywod, Menyw y Flwyddyn Bae Abertawe (2006), Gwobr Cyflawniad Oes gan Gymdeithas Genedlaethol Cymunedau Nigeraidd; cydnabyddiaeth am ei chyflawniad eithriadol mewn gwaith cymunedol yng Nghymru wrth iddi gael ei chydnabod fel Menyw y Flwyddyn Bae Abertawe (Cyflawniad Cymunedol) 2006.
Cafodd Uzo ei henwi ar y rhestr o 100 o Affricanwyr Du, Gwych a Chymreig gan Wales Online ac yn Gomisiynydd ar gyfer Comisiwn y Canmlwyddiant. Hi oedd y fenyw Affricanaidd ddu gyntaf i gael ei phenodi yn Gynghorydd Polisi Arbenigol ar Gydraddoldeb i Lywodraeth Cymru, gwaith mae’n dal i’w wneud ar hyn o bryd.
Y llynedd, cafodd ei delwedd ei thaflunio ar Gôr y Cewri fel un o ddim ond wyth o ‘Hyrwyddwyr Covid’, er mwyn dangos gwerthfawrogiad o’i holl waith aruthrol a pharhaus i’r gymuned.
Gofod i Bawb
Bu ymgyrch Gofod i Bawb y Coleg yn cydweithio â myfyrwyr, staff, graddedigion a ffrindiau er mwyn dwyn ynghyd ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol, gyda gweledigaeth i wneud y Coleg yn ofod diogel a chreadigol i bawb.
Mae Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Coleg, sy’n nodi prif amcanion CBCDC am y pum mlynedd nesaf, yn cael ei ategu gan gynllun gweithredu blynyddol, gan sicrhau bod cynnydd yn cael ei fonitro.
Mae’r holl nodweddion gwarchodedig wedi’u cynnwys yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb blynyddol.