Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC), Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (BBCNOW) a’r Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol (NOYO) wedi cyhoeddi lansiad Canolfan NOYO Caerdydd, sef partneriaeth fawr sy’n cynnig y llwybr dilyniant cyntaf i gerddorion ifanc anabl talentog yn y rhanbarth.
Nod y bartneriaeth hon yw lleihau’r allgau cerddorol a datblygu sgiliau cerddorion ifanc anabl dawnus, tra’n cynyddu cefnogaeth y sector i’r artistiaid hyn. Fel yr ensemble ieuenctid cenedlaethol cyntaf yn y byd dan arweiniad pobl anabl sy’n agored i gerddorion ifanc anabl a rhai and ydynt yn anabl, mae NOYO yn gosod y sylfeini ar gyfer sector cerddorfaol mwy amrywiol.
Mae cerddorion NOYO yn chwarae ystod eang o offerynnau acwstig ac electronig, megis y LinnStrument, Seaboard RISE a Clarion, offeryn hygyrch y gellir ei chwarae gydag unrhyw symudiad o’r corff gan gynnwys y llygaid.
'Does dim cerddorfeydd ieuenctid eraill sydd mor angerddol dros ddangos y gall pobl anabl chwarae ar yr un llwyfannau â phobl nad ydynt yn anabl.
Ni fyddech yn cael llawer o’r gerddoriaeth rydym yn ei chwarae mewn cyngerdd cerddoriaeth glasurol ystrydebol – ni fyddai gennych yr offerynnau!
Rydym yn credu ei bod hi’n well i gerddorion anabl a rhai nad ydynt yn anabl integreiddio â’i gilydd, ac yna gallwn feddwl am syniadau newydd ffres a bod yn fwy creadigol, archwilio gwahanol rannau o gerddoriaeth.'Holli PandiTelynores NOYO
Mae cyfranogiad am ddim i aelodau NOYO a hyfforddeion. Bydd Canolfan NOYO Caerdydd yn dechrau cynnal ymarferion o fis Medi 2023, gyda galwad i gerddorion anabl a rhai and ydynt yn anabl rhwng 11 a 25 oed i wneud cais am glyweliad o 1 Mawrth 2023.
Mae cyfranogiad am ddim i aelodau NOYO a hyfforddeion. Bydd aelodau Canolfan NOYO Caerdydd yn cael eu cefnogi i wireddu eu potensial cerddorol drwy ymarferion misol a hyfforddiant un-i-un. Byddant hefyd yn dod ynghyd â cherddorion o Ganolfannau NOYO eraill yn Llundain, Bryste, Birmingham a Bournemouth am gyfnod preswyl blynyddol, a chyngherddau gan yr ensemble cyfan o dymor y Gwanwyn 2024.
'Roeddwn i’n teimlo mor freintiedig i fod yno ar gyfer cyngerdd cyntaf erioed y Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol yn Milton Court y llynedd. Fe’m lloriwyd gan y cerddoroldeb, y didwylledd a’r grym mynegiannol.
Mae’n gyfle gwych i gerddorion ifanc yng Nghymru fod yn rhan ohono, gan ddangos i ni sut y gall amrywiaeth ysbrydoli posibiliadau cerddorol newydd cyffrous.
Nod ein partneriaeth yw mynd i’r afael a’r rhwystrau systemig y mae cymaint o bobl ifanc anabl yn eu hwynebu a herio’r rheini, a chynnig y cyfleoedd cerddorol sydd ar gael i’w cyfoedion nad ydynt yn anabl drwy hyfforddiant offerynnol a hyfforddiant ensemble.'Kevin PriceDirprwy Gyfarwyddwr Cerddoriaeth CBCDC
Mae talent a photensial cerddorol ym mhobman, ond nid felly’r cyfleoedd i bobl ifanc anabl symud ymlaen ym maes cerddoriaeth. Rydym yn hynod gyffrous i fod yn gweithio gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC i ehangu’r Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol ac agor cerddoriaeth i fwy o gerddorion ifanc anabl’, meddai Barry Farrimond-Chuong MBE, Prif Swyddog Gweithredol Open Up Music, yr elusen y tu ôl i NOYO.
'Fel Dinas Gerddoriaeth gyntaf y DU, mae cerddoriaeth wrth galon dyfodol Caerdydd. Bydd Canolfan NOYO Caerdydd yn hyrwyddo gweledigaeth gynhwysol, gan wahodd cerddorion ifanc anabl talentog, a rhai nad ydynt yn anabl, i ymarfer a pherfformio gyda’i gilydd.
Mae NOYO eisoes wedi bod ar waith yn Lloegr ac rydyn ni’n falch iawn o alluogi mwy o gerddorion o Gymru i ymuno â NOYO a datblygu eu sgiliau.
Mae gweithio’n agos ochr yn ochr â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn golygu y gallwn ddechrau creu llwybr dilyniant cryfach ar gyfer pobl ifanc anabl sydd â thalent a photensial cerddorol eithriadol, ac ar gyfer y rheini sydd â dyheadau gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth.'Beatrice CareyCynhyrchydd Addysg a Chymuned BBC NOW
I gael rhagor o wybodaeth a manylion ar gyfer gwneud cais, ewch i wefan y Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol yn www.noyo.org.uk.
Ar gyfer ymholiadau’r wasg cysylltwch â helen.dunning@rwcmd.ac.uk. Ar gyfer ymholiadau am NOYO cysylltwch â Julia Le, Julia@openupmusic.org
Nodiadau i olygyddion:
Mae cyfranogiad am ddim i aelodau NOYO a hyfforddeion. Mae potensial i gael cymorth ariannol mewn perthynas â chostau teithio, offerynnau cerdd ac unrhyw gymorth perthnasol arall sydd ei angen ar gyfer ymarferion, cyfnodau preswyl a chyngherddau.
Y Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol yw ensemble ieuenctid cenedlaethol cyntaf y byd o dan arweiniad pobl anabl. Fe’i lansiwyd ym mis Medi 2018 i ddarparu llwybr dilyniant ar gyfer cerddorion ifanc anabl mwyaf dawnus y DU, fel Aelodau o gerddorfa ieuenctid gynhwysol arloesol lle mae cerddorion ifanc anabl a rhai nad ydynt yn anabl yn chwarae ac yn perfformio gyda’i gilydd.
Mae NOYO yn cydweithio â chyfansoddwyr blaengar i greu cerddoriaeth newydd gyffrous ar gyfer ystod amrywiol o gerddorion ac offerynnau. Pan enillodd Liam Taylor-West Wobr Cyfansoddwr Prydeinig am “The Umbrella”, comisiwn cyntaf Open Up Music yn 2018, soniodd am broses greadigol yn cynnwys y cerddorion ifanc. Mae hyn yn dal yn ganolog i ddull NOYO o greu cerddoriaeth.
'Un o’r agweddau mwyaf gwerth chweil NOYO yw teimlo fel cyfranogwr gweithredol yn y gerddoriaeth yr ydym yn ei chwarae', Jamie Moody, sacsoffonydd NOYO.
Ar hyn o bryd mae 28 o Aelodau Cerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol. Bob blwyddyn mae’r Gerddorfa yn derbyn Hyfforddeion, cerddorion ifanc anabl y mae’n eu cefnogi am hyd at dair blynedd i ddatblygu’r sgiliau cerddorol a’r hyder sydd eu hangen i ddod yn Aelodau o NOYO.
Ar hyn o bryd caiff y Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol ei chyflwyno drwy bedair Canolfan NOYO ranbarthol: Canolfan NOYO Llundain mewn partneriaeth â’r Barbican a’r Guildhall School of Music and Drama, Canolfan NOYO Bournemouth mewn partneriaeth â Cherddorfa Symffoni Bournemouth, Canolfan NOYO Bryste mewn partneriaeth â Bristol Beacon, a Chanolfan NOYO Birmingham mewn partneriaeth â Chanolfan Gelfyddydau Canolbarth Lloegr, Services For Education a B:Music.
Rhaglen gan Open Up Music (Elusen Gofrestredig rhif 1167028) yw Cerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol. Cefnogir Open Up Music gan ddefnyddio arian cyhoeddus gan Gyngor Celfyddydau Lloegr. Cefnogir y Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol yn hael gan y noddwr sefydlol ABRSM, ac ymddiriedolaethau sy’n cynnwys Sefydliad Paul Hamlyn, Sefydliad Esmée Fairbairn, Sefydliad Boshier-Hinton, Ymddiriedolaeth Elusennol Steel, Ymddiriedolaeth Radcliffe, Ymddiriedolaeth Starfish, Ymddiriedolaeth Elusennol Borrows ac Ymddiriedolaeth Elusennol D’Oyly Carte.
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC)
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn denu’r doniau creadigol gorau o bob rhan o’r byd. Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, rydym yn tanio dychymyg ac yn ysgogi arloesedd, gan gynnig hyfforddiant i bron i 1000 o actorion, cerddorion, cynllunwyr, technegwyr a rheolwyr yn y celfyddydau o dros 40 o wledydd. Mae talent a photensial rhyfeddol ein myfyrwyr yn cael eu cyfuno ag addysgu eithriadol a chysylltiadau heb eu hail â diwydiant, i ddod â breuddwydion yn fyw. Mae’n lle i bawb, ac mae uchelgais creadigol a chydweithio yn ganolog i’n rhagoriaeth.
Caiff ein myfyrwyr eu trochi mewn amgylchedd diwydiant byw o’r eiliad y maent yn cyrraedd. Gyda rhai o leoliadau mwyaf clodfawr Cymru, mae’r Coleg yn gweithredu canolfan gelfyddydau ddeinamig, ac mae ein rhaglen perfformiadau gan artistiaid proffesiynol o’r radd flaenaf yn rhan annatod o hyfforddiant myfyrwyr.
Rydym yn meithrin gweithwyr proffesiynol y dyfodol, fel eu bod yn gwthio ffiniau newydd ac yn gwneud eu marc yn y diwydiannau creadigol, gan anelu at yrfaoedd gwych. Mae’r dyfodol yn dechrau yma.
Y Coleg yw’r conservatoire cyntaf yn y DU i gyflawni lefel safon aur o sicrwydd ansawdd ar draws meysydd Cerddoriaeth, Drama a’r rheini dan 18 oed yn adolygiad rhyngwladol diweddar Musique, Gwella Ansawdd Cerddoriaeth. Gwnaeth agwedd y Coleg at brofiad myfyrwyr unigol, cydweithio amlddisgyblaethol, ac uchelgais cyffredinol argraff arbennig ar yr adolygwyr, gan nodi CBCDC fel enghraifft ddisglair o arfer gorau ar draws conservatoires Ewropeaidd, ac un sy’n adlewyrchu pobl eithriadol a chymuned unigryw’r Coleg.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd. Mae’r gerddorfa yn llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes.
Mae’r gerddorfa’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales.
Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau.
Yn ystod y cyfyngiadau symud diweddar, mae BBC NOW wedi parhau i recordio a ffilmio y tu ôl i ddrysau caeedig yn Neuadd Hoddinott y BBC ac mae wedi cynhyrchu fideos, traciau sain a chyngherddau digidol wythnosol sydd wedi cael eu gweld gan 14 miliwn o bobl ar draws y byd, gan gynnwys fideo hynod boblogaidd o drac sain Doctor Who! Mae’r cynlluniau ar gyfer y gerddorfa’n cynnwys cyngherddau a digwyddiadau sy’n cael eu ffrydio’n fyw, teithiau i wahanol gymunedau ledled Cymru a chynlluniau addysg a datblygu cymunedol i gynnwys pawb yn y gwaith o greu cerddoriaeth.