Mae’r wobr newydd hon yn dathlu gallu technegol yr actorion gyda barddoniaeth, a’u cysylltiad â chymeriad a sefyllfa.
Cynhelir y rownd derfynol, gerbron panel arbennig o feirniaid ym mis Ionawr yn un o theatrau Llundain. Y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yw Nathan Kirby, Alyson Handley, Mya Pennicott, Saskia West a James Wilson.
'Mae gan Goleg Brenhinol Cymru safle trawiadol yn agos at Gastell Caerdydd yng nghanol y ddinas, wedi’i amgylchynu gan barcdir.
Wrth weithio’n ddiwyd o dan gyfarwyddyd ysbrydoledig Jonathan Munby, roedd pob myfyriwr y gwnes i gwrdd â nhw yn ymwybodol o’u ffortiwn dda. Rwy’n fwy na diolchgar am y cyfle i rannu ein cariad at ddrama gyda’r genhedlaeth nesaf o actorion proffesiynol.'Sir Ian McKellen
Nod cwrs actio CBCDC yw graddio actorion i’r proffesiwn sy’n artistiaid cadarn, moesegol eu meddwl gyda lleisiau unigol cryf, sy’n gyfforddus yn gweithio o fewn y repertoire clasurol cymaint ag ar waith newydd, ac yn barod i greu eu gwaith eu hunain. Mae’r gwahanol elfennau hyn yn cynnal ei gilydd, gan herio’r actor, a chyfoethogi dealltwriaeth o’r grefft. Mae gwobr Shakespeare yn bwydo i mewn i hyn, gyda’r beirniaid yn chwilio am fyfyrwyr sy’n gallu gwneud i’r iaith deimlo’n naturiol, personol a gonest.
‘Os gallwch siarad Shakespeare, gallwch chi fynd i’r afael ag unrhyw destun,’ eglurodd y Cyfarwyddwr Perfformio Drama Jonathan Munby, a gyfarwyddodd Syr Ian yn King Lear yng Ngŵyl Theatr Chichester yn 2017 ac eto yn Theatr y Duke of York yn y West End yn 2018.
Mae siarad penillion Shakespeare yn sicr yn heriol, ond mae’n eich gwneud yn actor gwell, yn fwy sylwgar, deheuig ac, yn y pen draw, yn fwy cadarn. Mae hefyd yn dysgu gwerth sylfaenol iaith i ni.
Ar adeg pan fo cyfleoedd i bobl ifanc ymgysylltu â Shakespeare mewn perfformiad yn prinhau, mae’n hollbwysig bod ysgolion drama yn parhau i addysgu Shakespeare, ochr yn ochr ag ystod o awduron amrywiol, er mwyn cadw siarad mewn penillion yn fyw.
Y tu hwnt i’r iaith ryfeddol, dealltwriaeth Shakespeare o’r cyflwr dynol yw’r rheswm pam fod ei ddramâu wedi goroesi mor dda. Mae Shakespeare yn ymdrin â gwirioneddau cyffredinol, sydd yr un mor frathog gyfoes heddiw ag yr oeddent 400 o flynyddoedd yn ôl.
Cynhelir y broses ddewis dros ddwy rownd; y gyntaf yn y Coleg, lle gofynnir i fyfyrwyr berfformio araith Shakespeare a soned. Fel rhan o’u gwobr, bydd y pump sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn gweithio mewn dosbarth meistr un i un gyda Syr Ian McKellen. Cynhelir y rownd derfynol mewn theatr broffesiynol gerbron gwahoddedigion a graddedigion a chyhoeddir enw’r enillydd yn y digwyddiad.
Mae graddedigion CBCDC sy’n creu argraff yn y diwydiant ar hyn o bryd yn cynnwys:
Mae Isobel Thom wedi mynd yn syth o raddio mewn actio yr haf hwn i berfformiad eponymaidd clodwiw yn I, Joan yn The Globe. Mae’r Guardian wedi canmol ei ‘pherfformiad dwys a dewr…yn Isobel Thom, sydd newydd raddio, mae ganddynt un o’r goreuon.’
Bydd Callum Scott Howells, a ffilmiodd ei rôl a enwebwyd am Bafta yn It’s a Sin pan oedd yn dal i astudio yn CBCDC ac sydd newydd ddechrau ar ei rediad fel Emcee yn Cabaret yn y Playhouse Theatre, yn chwarae rhan Romeo yn fersiwn newydd y National Theatre o Romeo and Julie.
Mae Arthur Hughes newydd gwblhau ei ymddangosiad cyntaf yn Stratford a derbyn canmoliaeth y beirniaid fel Richard III, yr actor anabl cyntaf i chwarae’r rôl yn y Royal Shakespeare Company – ‘Portread pefriol Arthur Hughes o Richard…perfformiad disglair, dengar a chynnil’ meddai’r Financial Times.
Dychwelodd Sophie Melville i’r National Theatre yn ddiweddar i atgyfodi ei rôl wobrwyedig o Effie yn y sioe un fenyw, Iphigenia in Splott. Ar ôl syfrdanu’r beirniaid pan lansiodd am y tro cyntaf, gwnaed yr un argraff arnynt pan ddychwelodd, gyda The Guardian yn dweud, ‘Yn 2015, disgrifiodd cyd-feirniad yn y papur hwn y ddrama hon fel 'theatr berffaith.' Dyna’n union yw hi nawr. Dylai pawb weld y gwaith modern ysgubol hwn.’
Mae Jimmy Fairhurst, a sefydlodd ei gwmni Not Too Tame pan oedd yn astudio yn y Coleg, wedi cyd-gyfarwyddo A Midsummer Night’s Dream, y ddrama gyntaf gan Shakespeare i’w chynhyrchu yn y Shakespeare North Playhouse newydd.
Mae King Lear Jonathan Munby, gyda Syr Ian McKellen yn y brif ran, bellach ar gael fel rhan o archif NT at home.