Newyddion
Darparwyr addysg yn ymrwymo i Siarter Afiechyd Marwol
Mae Prifysgol De Cymru (PDC), Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) ac Y Coleg Merthyr Tudful wedi ymrwymo i Siarter Afiechyd Marwol Cymru Cyngres yr Undebau Llafur (TUC).
Mae’r Siarter Afiechyd Marwol yn ymrwymiad i gefnogi cydweithwyr sy’n cael diagnosis o salwch angheuol. Mae'n amlinellu egwyddorion allweddol sydd â'r nod o sicrhau sicrwydd swydd, amddiffyn hawliau, a dull tosturiol o rymuso cydweithwyr sydd â salwch marwol.
PDC yw’r ail brifysgol yng Nghymru i lofnodi’r Siarter ac, ar y cyd â PSS Ltd, CBCDC ac Y Coleg Merthyr Tudful, mae’n ymuno â rhestr o sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat eraill i gynnig dewis i weithwyr ynghylch beth i’w wneud am waith.
'Mae ymrwymiad y Siarter Afiechyd Marwol yn cyd-fynd yn glir â’n gwerthoedd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fel cymuned greadigol glos a chefnogol, ac rydym yn falch o fod yn rhan ohono.'Helena GauntPrifathro, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
DC yw’r ail brifysgol yng Nghymru i lofnodi’r Siarter ac, ar y cyd â PSS Ltd, CBCDC ac Y Coleg Merthyr Tudful, mae’n ymuno â rhestr o sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat eraill i gynnig dewis i weithwyr ynghylch beth i’w wneud am waith.
Rhoddir opsiynau i unigolion ynghylch sut y dymunant fwrw ymlaen â gwaith – efallai y bydd rhai am barhau i weithio cyhyd ag y gallant, wedi’u cefnogi gan addasiadau rhesymol i helpu i gynnal parhad cyflogaeth a’r hawl i ddewis y ffordd orau o weithredu drostynt eu hunain a’u teuluoedd.
Efallai y bydd cydweithwyr eraill yn penderfynu nad ydynt am barhau yn y gwaith, neu efallai na fydd er lles y cyflogai i barhau i weithio.
Pa bynnag ddewis y bydd cydweithiwr yn ei wneud, bydd yn cael cymorth a chefnogaeth gan PDC, CBCDC ac Y Coleg Merthyr Tudful.
Mae’r Siarter Afiechyd Marwol yn welliant ystyrlon o weithle sy’n gwerthfawrogi ei weithwyr y tu hwnt i’w cyfraniadau proffesiynol ac yn dangos diwylliant cefnogol sy’n dangos dealltwriaeth, empathi, a gofal am y rhai sy’n wynebu cyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd.