Newyddion
Dathlu arloeswyr celfyddydau llawn gweledigaeth: CBCDC yn cyhoeddi Cymrodyr Er Anrhydedd 2023
Bydd pob un yn cael ei anrhydeddu yn seremoni raddio CBCDC ddydd Gwener 7 Gorffennaf yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd.
Eleni mae’r Coleg yn croesawu fel Cymrodyr Er Anrhydedd:
- Lisa Burger CBE, cyn gyfarwyddwr gweithredol a chyd brif weithredwr y National Theatre
- Jonny Cotsen, awdur, artist perfformio ac ymgynghorydd mynediad creadigol i’r celfyddydau
- Philip Harper, trefnydd, cyfansoddwr, a chyfarwyddwr cerdd Band Pres Preswyl y Coleg, Band Cory
- Ursula Jones OBE, cyd-sylfaenydd English Chamber Orchestra a chyn-reolwr Ensemble Pres Philip Jones
- Rakhi Singh, feiolinydd, cyfansoddwr a chyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr cerdd Manchester Collective
‘Croeso mawr i’n Cymrodyr newydd – y mae pob un ohonynt yn arloeswr ac â gweledigaeth yn eu maes.
Yn dod o sefydliadau mawr fel y National Theatre a Band Cory, i fentrau arloesol megis Manchester Collective, maent yn cynnig ysbrydoliaeth uniongyrchol i gymuned y Coleg.
Mae eu rhagoriaeth nodedig a’u syniadaeth beiddgar yn enghreifftiau gwych o’r hyn sydd ei angen arnom wrth i ni barhau â’r daith i drawsnewid hyfforddiant proffesiynol ar gyfer y dyfodol, a galluogi artistiaid newydd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth iddynt gamu i’r llwyfan byd-eang.’Helena GauntPrifathro CBCDC
Maent yn ymuno â rhestr fawreddog CBCDC o Gymrodyr, a gyhoeddir bob blwyddyn i anrhydeddu artistiaid sydd wedi cyflawni rhagoriaeth yn y diwydiannau celfyddydau creadigol a pherfformio, gan feithrin perthynas ysbrydoledig â’r Coleg a’i waith.
Cymrodyr Er Anrhydedd CBCDC 2023
Yn wreiddiol o Gaerdydd, fel cyfarwyddwr gweithredol a chyd brif weithredwr y National Theatre, mae Lisa Burger CBE wedi bod yn ganolog i greu’r National Theate yr hyn y mae heddiw, a gwneud theatr o safon fyd-eang yn hygyrch i gynulleidfaoedd newydd ledled y DU gyda’r cwmni arloesol NT Live. Bu hefyd yn gyd-sylfaenydd Renew Culture, y sefydliad y tu ôl i Lyfr Gwyrdd y Theatr, sydd â’r nod o greu dyfodol cynaliadwy i’r theatr.
Yn awdur, artist perfformio ac ymgynghorydd mynediad creadigol i’r celfyddydau, mae Jonny Cotsen yn eiriolwr angerddol dros well mynediad i’r celfyddydau. Ochr yn ochr â’i waith cynghori gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a sefydliadau celfyddydol eraill, mae’n cynnal gweithdai drama cynhwysol ac mae’n hyfforddwr Cydraddoldeb i Bobl Fyddar i bobl sydd â, a heb, anableddau.
Y trefnydd a’r cyfansoddwr Philip Harper yw cyfarwyddwr cerdd Band Pres Preswyl aml-wobrwyedig y Coleg, Band Cory – a gydnabyddir fel Band Pres Gorau’r byd. Ochr yn ochr â hyn mae wedi bod yn gyfarwyddwr cerdd Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru bedair gwaith, yn arweinydd byd ym myd y Bandiau Pres, ac wedi teithio’r byd yn rhannu stori Bandiau Pres yn ei holl ffurfiau.
Mae’r entrepreneur celfyddydol, a chyd-sylfaenydd English Chamber Orchestra a chyn-reolwr Ensemble Pres Philip Jones, Ursula Jones OBE wedi ymroi ei bywyd i gefnogi cerddorion ifanc, ensembles a chyfansoddwyr, gan ddarparu cefnogaeth, cyfleoedd perfformio a mentora proffesiynol i sicrhau datblygiad Cerddoriaeth glasurol. Mae’n hyrwyddwr hirsefydlog talent CBCDC, gan gysylltu enillwyr gwobrau a cherddorion mewn angen â chyfleoedd perfformio ac ariannu, yn ogystal â chefnogi cystadleuaeth Ensemble Pres Philip Jones y Coleg, a gweithredu fel llysgennad i’r Coleg.
Mae’r feiolinydd, y cyfansoddwr a’r arweinydd cerddorol Rakhi Singh hefyd yn gyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr cerdd Manchester Collective, sy’n adnabyddus am greu gwaith arloesol, aflonyddgar sy’n gwneud argraff ar galonnau a meddyliau mewn ffordd feiddgar a newydd. Gan adlewyrchu cred y Coleg mewn cydweithio ar draws ffurfiau celfyddydol a disgyblaethau, mae cydweithio â’r Collective wedi cynhyrchu rhai o’i berfformiadau mwyaf cyffrous a chofiadwy a phrofiadau myfyrwyr.