Newyddion
Coleg Brenhinol Cymru yn cyhoeddi cymrodyr er Anrhydedd Newydd 2022
Cymrodyr Newydd CBCDC 2022
Eleni mae’n bleser mawr gan y Coleg groesawu fel Cymrodyr er Anrhydedd CBCDC: Sarah Alexander, Prif Weithredwr Cerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr, Nicola Benedetti, feiolinydd a sylfaenydd Sefydliad Benedetti, Paule Constable, dylunydd goleuo ac enillydd gwobr Olivier, Gareth Evans, cyfarwyddwr ffilmiau a choreograffydd symud, Anthony Matsena, perfformiwr, cyfarwyddwr a choreograffydd, Kel Matsena, actor, awdur a dawnsiwr a Dennis Rollins, trombonydd ac addysgwr.
Fel arweinwyr diwydiant yn eu meysydd, mae’r Cymrodyr newydd yn dangos ymrwymiad parhaus y Coleg i gydweithio, celfyddyd ac i wneud gwahaniaeth mewn cymdeithas, ac maent yn cwmpasu perfformio cerddoriaeth a dylunio goleuo, actorion ac addysgwyr.
Maen nhw’n ymuno â’r rhestr nodedig o Gymrodyr CBCDC sy’n cael ei dyfarnu bob blwyddyn i anrhydeddu artistiaid sydd wedi ennill bri yn niwydiannau’r celfyddydau creadigol a pherfformio, gan feithrin perthynas gefnogol a brwdfrydig â’r Coleg a’i waith.
'Drwy groesawu ein Cymrodyr newydd, rydyn ni’n gallu parhau i feithrin partneriaethau â rhai o’r artistiaid mwyaf cyffrous ac enwog ledled y DU.
Maen nhw’n cynrychioli uchelgais y Coleg i arwain drwy gydweithio ac arloesi ochr yn ochr â hyfforddiant crefft ddofn, meithrin cymuned gynhwysol ac arbenigol ac ysbrydoli’r rhai sydd am wneud newidiadau yn y diwydiant yn y dyfodol.'Helena GauntPrifathro RWCMD
Cymrodyr er Anrhydedd CBCDC 2022
Fel Prif Weithredwr Cerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr mae Sarah Alexander OBE wedi datblygu’r sefydliad hwn o fod yn un a oedd yn gweithio â 164 o bobl ifanc, i un sy’n cyrraedd 10,000 o rai yn eu harddegau, gan agor y drws i bobl ifanc o bob cefndir. Mae’n cael ei chanmol yn eang bellach fel un o’r cerddorfeydd gorau i’r glasoed drwy’r byd.
Treuliodd Sarah flynyddoedd lawer yng Nghymru yn arwain adran addysg Opera Cenedlaethol Cymru ac mae wedi ennill gwobrau pwysig gan Gymdeithas Cerddorfeydd Prydain a’r Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol ymysg eraill. Mae gwerthoedd a chyfeiriad Cerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr yn gyson â’r rheini yng nghwrs cerddoriaeth newydd CBCDC i israddedigion, ac mae’r ddau sefydliad yn cydweithio i hwyluso clyweliadau i’r gerddorfa yn y Coleg ac i edrych ar y posibilrwydd o gynnig preswyliaeth mewn partneriaeth yng Nghaerdydd.
Mae Nicola Benedetti CBE yn berfformiwr o’r radd flaenaf ac yn esiampl eithriadol fel cerddor mewn cymdeithas sy’n gwneud gwahaniaeth, yn ogystal â bod yn un o artistiaid clasurol mwyaf dylanwadol ein cyfnod. Mae hi’n ymgorffori’r cysylltiadau rhwng dibenion artistig a chymdeithasol ac wedi cael cydnabyddiaeth mewn llawer cylch gan ennill gwobrau, yn cynnwys Grammy yn 2020, nifer o wobrau BRIT clasurol, Medal y Frenhines am Gerddoriaeth, a Gwobr Offerynnydd yr RPS yn 2021. Mae Nicola wedi gweithio gyda’r Coleg eisoes, gan ysbrydoli pobl ifanc â’i phrosiectau addysg cerddoriaeth drwy Sefydliad Benedetti. Yn ystod y cyfnodau clo, roedd adran offerynnau taro y Coleg wedi cydweithio â Nicola yn ei sesiynau Benedetti rhithwir, a oedd wedi cyrraedd mwy na 7,000 o gerddorion o bob oed a phob lefel o arbenigedd drwy’r byd.
Mae’r dylunydd goleuo o Brydain Paule Constable wedi ennill Gwobr Laurence Olivier am y Dylunio Goleuo Gorau gymaint â phump o weithiau, a’r ddiweddaraf yn 2020. Cafodd ei henwebu hefyd am bedwar cynhyrchiad pellach ac am Wobr Tony yn 2007 ar Broadway, gan ennill y Wobr Tony am y Dylunio Goleuo Gorau ar gyfer drama am War Horse yn 2011. Mae wedi cynorthwyo adrannau cynhyrchu a dylunio CBCDC drwy gyflwyno dosbarthiadau meistr ar-lein yn ystod y cyfnodau clo, gan ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol drwy ei gwaith a’i hymroddiad i’r grefft.
Mae Gareth Evans yn gyfarwyddwr ffilmiau, awdur sgrin, golygydd a choreograffydd symud o Gymru sydd wedi ennill nifer o wobrau. Mae Cymru yn cael lle blaenllaw yn ei ffilmiau a dyma’r prif leoliad i’r rhan fwyaf o’i waith ffilmio, yn cynnwys y ffilm Netflix Havoc a welir cyn hir, sydd yn un o’r ffilmiau mwyaf i gael ei chynhyrchu yng Nghymru erioed. Mae’n frwd iawn ynghylch y cyfleoedd ar gyfer ffilm yng Nghymru ac mae’n cydweithio â Severn Screen i greu mudiad i wneuthurwyr ffilmiau newydd yng Nghymru gael cyfle i ddangos eu gwaith.
Mae’r artistiaid Anthony a Kel Matsena, a anwyd yn Zimbabwe a’u magu yng Nghymru, wedi cael dylanwad mawr eisoes ar waith y Coleg drwy eu preswyliaeth a’u prosiect cynefino yn 2021 a thrwy eu rôl fel cydgyfarwyddwyr DREAM (addasiad o A Midsummer Night’s Dream). Cydsefydlwyd Matsena Productions ganddynt yn 2017 fel ymateb i’r diffyg cynrychiolaeth roeddent yn ei weld mewn ysgolion, ar lwyfan ac ar y sgrin. Yn ddiweddar, maent wedi cydweithio â BBC Arts a Sadlers Wells ar ‘Dancing Nation’, yn perfformio Shades of Blue, eu hymateb i effeithiau COVID-19 a’r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys, yn y Coleg ar ôl y perfformiad cyntaf ohono yn Llundain a gafodd ei ganmol yn fawr gan y beirniaid.
Ac yntau’n berfformiwr ac yn addysgwr brwd, mae’r trombonydd Dennis Rollins MBE wedi ennill bri fel artist rhagorol ac wedi cyfrannu drwy ei ddoniau unigryw a chelfydd i waith rhai o’r perfformwyr pop a jazz mwyaf yn y byd yn ogystal â bod yn arweinydd bandiau enwog. Yn 2006 roedd ei grŵp jazz/funk Badbone & Co wedi ennill Gwobr Jazz bwysig y BBC am y Band Gorau a’r flwyddyn wedyn enillodd wobr Trombonydd y Flwyddyn yn seremonïau Gwobrau Jazz Prydain a Gwobrau Jazz Ronnie Scott. Yn ei dref enedigol Doncaster, urddwyd Dennis â Rhyddfraint y Fwrdeistref er Anrhydedd i gydnabod ei yrfa lwyddiannus fel cerddor a’i ysbrydoliaeth gyson i gerddorion ifanc y rhanbarth.
Mae galw mawr am wasanaeth Dennis fel addysgwr jazz ac mae wedi cyflwyno cyfres amrywiol o weithdai cerddoriaeth yn y Coleg yn ddiweddar ac mae’n cydweithio ag adrannau cerdd prifysgolion, colegau ac ysgolion, ledled y DU ac mewn gwledydd tramor.