Newyddion
Dathliad Tywysogaidd: perfformiad brenhinol CBCDC ar gyfer Ei Uchelder Brenhinol
Perfformiad brenhinol CBCDC ar gyfer Ei Uchelder Brenhinol
Roedd y cyngerdd, a gynhaliwyd yn Neuadd Dora Stoutzker, yn cynnwys detholiad o berfformiadau cerddoriaeth a drama yn arddangos doniau artistiaid ifanc Cymru. Cyflwynwyd y digwyddiad gan Matthew Rhys, enillydd gwobr Emmy ac Athro Cadair Rhyngwladol mewn Drama yn y Coleg.
Roedd y gwesteion yn cynnwys Owen Teale, Catrin Finch a’r graddedigion Ruth Jones a Hugo Blick, yn ogystal â myfyrwyr, staff, cefnogwyr a chyfeillion y Coleg.
Daeth Ei Uchelder Brenhinol yn Noddwr y Coleg ym 1999, cyn derbyn ei statws brenhinol yn 2002
Nododd y Coleg achlysur pen-blwydd Ei Uchelder Brenhinol drwy gyhoeddi adnewyddiad Ysgoloriaethau Tywysog Cymru, a ddyfernir o 2019 ymlaen allan o waddol sy’n datblygu yn y Coleg, a thrwy ddechrau cyfnod o weithio mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog
Cyhoeddwyd hefyd mai Tywysog Cymru fydd Noddwr Cyngres Telynau’r Byd, a gynhelir yn y Coleg yn 2020. Bu ei Ei Uchelder Brenhinol yn sgwrsio â Catrin Finch, Cyfarwyddwr Artistig y Gyngres o flaen y 13 o delynau a chwaraewyd gan fyfyrwyr telyn y Coleg, gyda’r Delynores Frenhinol Anne Denholm yn perfformio ar y Delyn Frenhinol.
'Mae’n fraint ac yn bleser gennym gynnal y dathliad hwn ar gyfer Ei Uchelder Brenhinol yng Ngholeg Brenhinol Cymru. Rydym mor ddiolchgar am y diddordeb a’r brwdfrydedd y mae’n ei ddangos yn ein gwaith a’n datblygiad fel ein Noddwr.
Yr hyn sydd bwysicaf yw mai ein myfyrwyr sy’n elwa’n fwyaf uniongyrchol gan y berthynas arbennig iawn hon – o ysgoloriaethau yn ei enw i gyfleoedd rhyfeddol i berfformio ym Mhalas Buckingham ac yn ei gartref yng Ngorllewin Cymru.
Drwy’r gefnogaeth gan Sefydliad Elusennol Tywysog Cymru gall y Coleg hefyd arwain gyda mentrau megis Orchestradventure! CBCDC, gan ganiatáu i gannoedd o blant ysgolion cynradd gael profiad o gerddoriaeth fyw gyda thaith cerddorfa symffoni lawn y Coleg o amgylch Cymru.'Athro Helena GauntPrifathro CBCDC
Bu 2018 yn flwyddyn arall o lwyddiant ysgubol i’r Coleg yn artistig ac yn addysgol. Unwaith eto fe’i cyhoeddwyd fel prif ysgol ddrama y DU yng Nghanllaw Prifysgolion The Guardian, gan ddal ei afael ar y prif safle am yr ail flwyddyn o’r bron a chyrraedd y brig am y bedwaredd flwyddyn ers 2013.
Mae artistiaid ac ymarferwyr blaenllaw o bob rhan o’r byd wedi parhau i ymweld â’r Coleg er mwyn rhannu eu gwybodaeth a’u profiad gyda’r perfformwyr ifanc sy’n hyfforddi yma.
Fis diwethaf croesawodd y Coleg Lin-Manuel Miranda, yr actor Rhys Ifans, a’r feiolinydd nodedig Nicola Benedetti, a dreuliodd wythnos yn gweithio gyda cherddorion y conservatoire iau a’r conservatoire.
Y tymor hwn cyhoeddwyd Uzo Iwobi OBE yn Athro Cadair Rhyngwladol mewn Amrywiaeth cyntaf y Coleg, fel rhan o raglen allgymorth a chynhwysiant barhaus y Coleg, gyda chyhoeddiad pellach am ysgoloriaethau sy’n galluogi artistiaid ifanc eithriadol i gyrchu hyfforddiant arbenigol.
Mae’r Coleg wedi parhau i gyflawni ei rôl fel Conservatoire Brenhinol Cymru drwy waith allgymorth ledled Cymru, yn cynnwys ei Stiwdio Actorion Ifanc yn Sir Benfro. Fel rhan o brosiect Orchestradventure!, er enghraifft, perfformiodd Cerddorfa Symffoni CBCDC ar gyfer dros 1,400 o blant yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin ac yn 2019 bydd y prosiect hefyd yn ymweld â Llanfair-ym-muallt a Llandudno.
Yn ddiweddar cyhoeddwyd mai John Fisher fydd Cyfarwyddwr Artistig cyntaf Ysgol Opera David Seligman. Gan weithio ar y cyd ag Opera Cenedlaethol Cymru mae’r Ysgol yn darparu rhaglen hyfforddiant unigryw ar draws pob disgyblaeth perfformio a chynhyrchu opera. Cefnogir yr Ysgol gan Gylch o Lywyddion – Rebecca Evans, Syr Brian McMaster, Carlo Rizzi, Syr Bryn Terfel a David Pountney.
Yn ogystal â’r arbenigedd yn y diwydiant a’r cyfleusterau o’r radd flaenaf a gynigir gan yr Ysgol, fis diwethaf derbyniodd y Coleg Gasgliad Rara Opera Foyle, casgliad mawr o ddeunydd ymchwil hanesyddol. Mae’r casgliad yn gorff rhyfeddol o ddeunydd ymchwil hanesyddol sy’n ymwneud ag opera Eidalaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae o arwyddocâd rhyngwladol i ysgolheigion a pherfformwyr.
In 2019, the Royal Welsh College itself will also be celebrating its 70th birthday and will celebrate this milestone with a year long season of activity including important partnership projects, events for College alumni and an exhibition from the College archive.
Yn 2019 bydd Coleg Brenhinol Cymru yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed ac yn nodi’r garreg filltir hon gyda blwyddyn gyfan o weithgareddau gan gynnwys prosiectau partneriaeth pwysig, digwyddiadau ar gyfer cyn-fyfyrwyr ac arddangosfa o archif y Coleg.
Fel arwydd o’i dwf o ran ymgysylltu a chyfnewid rhyngwladol, bydd y Coleg hefyd yn lansio ei Ymgyrch Americas, a fydd yn codi arian i greu cyfleoedd ac ysgoloriaethau ar gyfer myfyrwyr o Gymru ac UDA. Prif ddigwyddiad cyntaf yr Ymgyrch fydd Cinio Gala yn Efrog Newydd ar Ddydd Gŵyl Dewi 2019, gan gyflwyno ei Chymrodoriaeth Anrhydeddus i Catherine Zeta-Jones CBE, gyda gwesteion arbennig o fyd cerddoriaeth a drama yn bresennol.