Neidio i’r prif gynnwys

Casgliad Opera Rara Foyle

Mae Casgliad Opera Rara Foyle, sydd nawr yn ganolog i gasgliadau arbennig Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, am ddim i bawb gael ei weld. Casgliad sy’n adlewyrchu diddordebau Patric Schmid a Don White, a sefydlodd Opera Rara yn gynnar yn y 1970au, ydyw ac mae’n canolbwyntio ar y traddodiad bel canto Eidalaidd gwych ac yn cynnwys cyfoeth o ddeunydd sy’n rhoi golwg unigryw ar gynhyrchu opera yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Sut y gellir gweld y casgliad?

Gall unrhyw un weld y casgliad am ddim. Boed eich bod yn ymchwilydd, yn gantor, cerddor, cynfyfyriwr, neu’n aelod chwilfrydig o’r cyhoedd, gellir defnyddio’r casgliad i gynorthwyo eich gwaith ymchwil, ateb cwestiwn llosg, neu i ysbrydoli prosiectau creadigol.

Gellir ei weld drwy apwyntiad yn unig, ond os oes gennych ddiddordeb mewn gweld neu ddysgu mwy am unrhyw rai o’n casgliadau, cysylltwch â ni drwy e-bostio archives@rwcmd.ac.uk (a fyddech cystal â rhoi o leiaf un wythnos o rybudd i ni). Mae’r sgoriau wedi’u catalogio yng nghatalog llyfrgell CBCDC (gellir addasu’r chwiliad ar gyfer y casgliad hwn yn unig neu drwy ei ddewis ar y gwymplen ar ochr dde’r bar chwilio). Gellir dod o hyd i’r catalogau archif ar yr Hyb Archifau. Gellir gweld eitemau sydd wedi’u digideiddio o’r casgliad hwn ar dudalen Flickr Archifau CBCDC.

Cydnabyddiaeth

Llwyddodd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i gaffael Casgliad Opera Rara yn dilyn grant mawr gan Sefydliad Foyle. Bu Sefydliad Foyle hefyd yn ddigon hael i ariannu ail-leoli’r casgliad a chyflogi archifydd am y flwyddyn gyntaf yr oedd y casgliad yng Nghaerdydd. Rydym hefyd yn ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, sydd wedi ariannu gwaith ar y Casgliad, gan gynnwys ei storio, catalogio a’r gwaith gofalu amdano, yn ogystal â chyflogi archifydd am flwyddyn arall. Mae llawysgrifau o’r Casgliad wedi cael eu gwarchod diolch i grant gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cadwraeth Llawysgrifau, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.


Archwilio’r adran

Newyddion diweddaraf