Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

BA (Anrh) Theatr Gerddorol

  • Dyfarniad:

    BA (Anrh) Theatr Gerddorol

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC, Stiwdios Llanisien a’r Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    21 Medi 2025

  • Hyd:

    3 blynedd llawn amser

  • Cod y cwrs:

    RW02 - UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Cewch gyfle i archwilio amrywiaeth eang o ddulliau canu, llais llafar, dawns ac actio yn ein cwrs gyda nifer o brosiectau perfformio ac o leiaf dau gynhyrchiad wedi’u llwyfannu’n llawn.

Trosolwg o’r cwrs

Mae ein rhaglen theatr gerddorol – yr unig un o’i bath yng Nghymru – yn rhoi sgiliau corfforol, lleisiol a phroffesiynol i chi er mwyn bodloni gofynion y diwydiant hwn sy’n newid drwy’r amser.

Mae’n ymarferol iawn ei natur, ac mae’n eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn theatr gerddorol drwy raglen hyfforddi drylwyr dan arweiniad arbenigwyr, wedi’i chyfoethogi â phrosiectau perfformio ac o leiaf dau gynhyrchiad cyflawn sy’n gweithio dan amodau proffesiynol.

Dan arweiniad ein hymarferwyr profiadol yn y diwydiant, byddwch yn astudio amrywiaeth gynhwysfawr o ddulliau canu, llais llafar, dawns ac actio. Byddwch hefyd yn dysgu sut mae creu eich gwaith gwreiddiol eich hun drwy broses gydweithredol a chreadigol – gan gyfrannu, cydweithredu a chymryd cyfrifoldeb dros gyflawni prosiect neu berfformiad terfynol ar y cyd.

Er mwyn helpu i feithrin cyfleoedd cyffrous ar gyfer gwaith yn y dyfodol, rydyn ni’n trefnu arddangosfeydd theatr gerddorol ar gyfer ein myfyrwyr blwyddyn olaf. Byddwch yn perfformio yng Nghaerdydd, y West End yn Llundain ac Efrog Newydd (ar gyfer ein myfyrwyr o America) i gynulleidfa wadd o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant, gan gynnwys asiantau a chyfarwyddwyr castio.

Gyda hyfforddiant unigol a dosbarthiadau grŵp bach mewn canolfan celfyddydau creadigol ffyniannus, gallwch esblygu i fod yn artist myfyriol, cydweithredol a phroffesiynol, sy’n meddu ar yr holl sgiliau sy’n paratoi’r ffordd ar gyfer gyrfa sy’n rhoi llawer o foddhad ar y llwyfan.

100

100% Boddhad cyffredinol y cwrs

Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) 2024

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

'Mae pob tiwtor ar y cwrs hwn yn meithrin amgylchedd eithriadol o agored a diogel. Mae’n amgylchedd lle rydw i wir yn teimlo nad oes ateb anghywir. Rydw i’n teimlo fy mod i wedi tyfu cymaint fel person yn barod.'
RiteshMyfyriwr BA Theatr Gerdd Blwyddyn 1af
'Roedd CBCDC yn ysgol ddelfrydol ar gyfer yr hyfforddiant hwnnw, ond hefyd i mi fel unigolyn. Mae wedi rhoi’r grym i mi fod yn actor cyflawn. Mae’n swydd mor amlweddog a’r hyn a wna’r Coleg mor wych yw eich trochi chi’n llwyr yn y cyfan. Mae cymaint o arbenigeddau yno, sy’n amrywio o radio i’r sgrin a phopeth yn y canol.'
Callum Scott HowellsActor

Pam astudio’r cwrs hwn?

  • Byddwch yn datblygu set gynhwysfawr, ddatblygedig a chydlynol o sgiliau a thechnegau lleisiol, proffesiynol, corfforol ac actio. Bydd y rhain yn eich galluogi i addasu i gyfleoedd amrywiol a gofynion amrywiol y diwydiant theatr gerddorol sy’n tyfu’n gyflym heddiw.
  • Byddwch yn datblygu gwybodaeth ymarferol eang a gwerthfawrogiad o repertoire a genres theatr gerddorol gyfoes a chlasurol.
  • Dyma’r unig raglen yng Nghymru sy’n darparu hyfforddiant proffesiynol ar sail conservatoire mewn theatr gerddorol.
  • Byddwch yn cael tiwtorialau un-i-un, dosbarthiadau bach o 20 o fyfyrwyr, gweithdai, prosiectau perfformio a seminarau. 
  • Mae ein rhestr drawiadol o diwtoriaid yn cynnwys ymarferwyr diwydiant adnabyddus, hyfforddwyr nodedig, ac artistiaid creadigol mewn amrywiaeth o genres. Maent yn eich mentora yn ogystal â chynnig cyfleoedd rhwydweithio ac addysg o’r radd flaenaf i chi.
  • Bydd tri arddangosfa yn y diwydiant yng Nghaerdydd, Efrog Newydd a'r West End yn Llundain yn caniatáu i chi ddangos eich talent i lu o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant, fel cyfarwyddwyr castio ac asiantau.
  • Byddwch yn cymryd rhan mewn cyfres o brosiectau, cyngherddau a chabarets sy’n seiliedig ar berfformiad, gan gydweithio â myfyrwyr ar eich cwrs a’r rheini sy’n astudio pynciau eraill yma yn y Coleg.
  • Mae un o’r cyfleoedd hyn yn cynnwys ‘prosiect pontio’, sy’n eich rhoi mewn amgylchedd ymarfer proffesiynol gan weithio ochr yn ochr â rheolwyr llwyfan a dylunwyr goleuo a sain tuag at gyfres fer o berfformiadau o olygfeydd, neu waith byrrach, ar gyfer cynulleidfa a wahoddir.
  • Yn eich blwyddyn olaf, byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn perfformiadau cyhoeddus o ddau gynhyrchiad yn olynol ac wedi’u llwyfannu’n llawn, gan weithio o dan amodau proffesiynol fel rhan o’n Cwmni Richard Burton.
  • Mae ein cysylltiadau cadarn â’r proffesiwn yn golygu y byddwch yn gweithio’n agos gydag amrywiaeth o brif ymwelwyr yn y diwydiant, fel cyfarwyddwyr enwog, cyfarwyddwyr theatr gerddorol a choreograffwyr.
  • Byddwch yn archwilio’r broses greadigol sy’n gysylltiedig â datblygu eich gwaith eich hun, gan helpu i ehangu eich potensial proffesiynol ymhellach.
  • Bydd gennych ddosbarthiadau a gweithdai ymarferol yn canolbwyntio ar ganu, llais, lleferydd a thestun, a gefnogir gan sesiynau tiwtorial unigol. Mae dosbarthiadau Dawns a Symud yn cynnwys Bale, techneg a repertoire Jazz a Tap, yn ogystal â dosbarthiadau Symud.
  • Bydd dosbarthiadau dros dro yn eich arwain drwy archwilio dulliau ymarferol o berfformio’n fyrfyfyr, gweithio gyda thestunau, datblygu cymeriad a meithrin perthnasoedd drwy’r broses ymarfer.
  • Byddwch hefyd yn astudio dulliau o ymdrin â Shakespeare a thestunau uwch eraill, yn ogystal ag ymchwilio i arferion a gofynion penodol y diwydiannau ffilm a theledu.
  • Yddwch yn canolbwyntio ar roi hwb i sgiliau eraill sy’n hanfodol i gynnal gyrfa portffolio, fel dod o hyd i waith a dysgu technegau clyweliad llwyddiannus.

Gwybodaeth arall am y cwrs

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Allow Unistats content?

Lorem ipsum doler sit amet Unistats seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf