Ymateb CBCDC i'r cynnig i gau Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd
Mae’r cynnig i gau Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd yn ein tristáu’n fawr ac rydym yn cydnabod yr effaith ar fyfyrwyr a staff a’r ansicrwydd sy’n eu hwynebu nawr. Mae gennym barch mawr at yr Adran Gerddoriaeth a’i chyn-fyfyrwyr eithriadol niferus sydd wedi cyfrannu cymaint at fywyd diwylliannol Cymru a thu hwnt.