

Jazz
Josephine Davies a Satori
Trosolwg
Iau 12 Meh 2025 7.30pm
Manylion
Hyd y perfformiad: 75-85 munud
Lleoliad
Prisiau
£15 / £13
Tocynnau: £15 / £13
Gwybodaeth
Mae’r sacsoffonydd a chyfansoddwr arobryn Josephine Davies yn dod â’i ensemble grymus Satori i CBCDC er mwyn dathlu lansio eu pedwerydd albwm ar Whirlwind Recordings, ‘Weatherwards’. Mae’r gerddoriaeth wedi ei hysbrydoli gan wreiddiau Nordig Josephine ar Ynysoedd Shetland ac yn plethu’n hyfryd gefndir jazz cyfoes y band gyda dylanwad gwerin atgofus.
Yn ogystal â theithiau Satori o gwmpas y DU ac Ewrop, mae Josephine hefyd yn arwain cerddorfa jazz ei hun, The Ensō Ensemble, a fydd yn rhyddhau ei halbwm gyntaf ‘The Celtic Wheel of the Year Suite’ ar Ubuntu Records yn fuan. Mae hi hefyd yn aelod o’r Harper Trio, gyda pherfformiadau diweddar yng Ngŵyl Jazz Patras, ac Ystafell Elgar yn y Royal Albert Hall, ac Espial, grŵp jazz rhydd a ryddhaodd albwm byrfyfyr y llynedd ar Discus Records.
Piano Alcyona Mick
Bas Dave Whitford
Drymiau Jay Davis
‘Mae’r cyfuniad pwerus o fyrfyfyrio rhydd di-ofn ac empathi melodaidd gan yr offerynwyr dawnus hyn yn creu datganiad pwerus ac amserol.’Jazz in Europe Magazine