

Jazz
Norma Winstone a Kit Downes
Trosolwg
Sad 14 Meh 2025 7.30pm
Lleoliad
Prisiau
£17 / £15
Tocynnau: £17 / £15
Gwybodaeth
Yn un o dalentau lleisiol a thelynegwyr gorau a mwyaf amryddawn Prydain, daeth Norma Winstone yn ffigwr nodedig ar y sîn jazz ym Mhrydain yn ystod y chwedegau pan rannodd y bil yn Ronnie Scott's gyda Roland Kirk. Ers hynny, mae hi wedi cydweithio'n aml gyda cherddorion fel Steve Swallow, Kenny Wheeler, a Dave Holland ymhlith eraill, a daeth yn adnabyddus am ddatblygu ei hagwedd ddi-eiriau ei hun wrth fyrfyfyrio.
Ynghyd â’r pianydd Kit Downes, bydd Norma yn dod â’i theimladrwydd barddonol i ddarnau newydd gan Downes yn ogystal â chyfansoddiadau gan Carla Bley, Ralph Towner, a John Taylor, gyda safbwyntiau ffres ar ddwy alaw draddodiadol, 'Black Is The Colour, a 'Rowing Home'.
'Rydw i'n chwilio am eiriau sydd eisoes yn y gerddoriaeth. Bob tro. Dyna sut rwy'n gweithio. Ac os yw'r geiriau'n dod, mae fel pe baent yno bob amser.' - Norma Winstone