Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cyfleoedd rhyngwladol i fyfyrwyr CBCDC

Gall astudio neu weithio dramor fod yn brofiad trawsnewidiol, gan eich helpu i ddatblygu sgiliau newydd, ehangu eich persbectif, a meithrin cysylltiadau rhyngwladol.

Yn CBCDC, rydym yn cefnogi ystod o gyfleoedd byd-eang ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-radd llawn amser ar ffurf dau gynllun ariannu allweddol a gynhelir gan Brifysgol De Cymru (PDC):

  • Taith - cynllun gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynlluiau cyfnewid a phrosiectau rhyngwladol.
  • Cynllun Turing - menter y DU gyfan sy’n cefnogi astudio a lleoliadau gwaith dramor.

Mae’r ddau gynllun yn cynnig cymorth ariannol i helpu i dalu costau teithio a byw, gyda chyllid ychwanegol ar gael i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig a rhai ag anghenion dysgu ychwanegol neu anableddau.

Beth allwch chi ei wneud dramor?

Mae sawl ffordd y gallwch ennill profiad rhyngwladol yn ystod eich astudiaethau:

  • Astudio mewn sefydliad partner – Treulio rhwng 2 wythnos a 12 mis dramor, gyda’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn dewis tymor neu semester.
  • Cymryd rhan mewn prosiect rhyngwladol – Ymuno â chydweithrediad dwys gyda myfyrwyr o sefydliadau partner, sydd fel arfer yn para 2-4 wythnos.
  • Cwblhau lleoliad gwaith rhyngwladol – Ennill profiad proffesiynol gyda sefydliad dramor am 14 diwrnod neu fwy. Gallwch hefyd dderbyn cyllid ar gyfer lleoliadau yn y 12 mis ar ôl graddio.
  • Mynychu ysgol haf ryngwladol – rhaglen tymor byr (14+ diwrnod) sy’n darparu cyfleoedd hyfforddi a rhwydweithio ychwanegol.

Yn y rhan fwyaf o achosion, gall astudio neu leoliadau gwaith gyfrif tuag at eich gradd. Er enghraifft, gall myfyrwyr cerddoriaeth integreiddio astudio dramor i BMus Blwyddyn 3 neu 4 neu MMus Blwyddyn 2.

Profiadau diweddar myfyrwyr

Dyma rai enghreifftiau o sut mae myfyrwyr wedi manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd hyn:

  • Astudio dramor - Treuliodd myfyriwr BMus Cerddoriaeth dymor ym Mhrifysgol Toronto, a chwblhaodd myfyriwr Cynllunio/Rheoli Llwyfan hanner tymor yn Academi Celfyddydau Perfformio Hong Kong.
  • Prosiect rhyngwladol - Cymerodd myfyriwr MMus Cerddoriaeth ran mewn prosiect Cerddoriaeth Arbrofol yn Academi Cerddoriaeth a Theatr Lithwania.
  • Lleoliad gwaith - Bu myfyriwr MA Cyfarwyddo Opera yn gweithio fel cyfarwyddwr cynorthwyol gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Iwerddon, a chafodd myfyrwyr Cynllunio/Rheoli Llwyfan brofiad yn y Prague Quadrennial.
  • Ysgol haf - Mynychodd rai myfyrwyr Academi Opera Berlin fel cantorion a cherddorion cerddorfaol.

Sut i wneud cais

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio neu weithio dramor, siaradwch â’ch Pennaeth Adran neu Arweinydd Cwrsi weld beth yw’r opsiynau. Rhennir gwybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael a’r prosesau ar gyfer ymgeisio ar blatfformau mewnol.

Sefydliadau partner (Ionawr 2025)

Mae gan ein hadran Gerddoriaeth hanes hir o gynlluniau cyfnewid yn Ewrop ac mae’n parhau i ehangu ei phartneriaethau ledled y byd, gan gynnwys cydweithrediadau newydd yng Ngwlad Thai.

Mae ein hadran Ddrama wrthi’n datblygu cysylltiadau rhyngwladol, gan gynnig mwy o gyfleoedd i astudio dramor a phrosiectau cydweithredol ar draws gwahanol gyrsiau.

Mae gennym bartneriaethau gyda sefydliadau ar draws Ewrop, Gogledd America ac Asia. Dyma rai o’r lleoedd lle gallech astudio:

Gwlad

Awstria

Dinas

Graz

Sefydliad

Prifysgol Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio Graz

Gwlad

Gwlad Belg

Dinas

Brwsel

Sefydliad

Conservatory Brenhinol Fflandrys

Gwlad
Dinas

Antwerp

Sefydliad

Conservatoire Brenhinol Antwerp

Gwlad

Canada

Dinas

Toronto

Sefydliad

Adran Gerddoriaeth Prifysgol Toronto

Gwlad

Tsieina

Dinas

Shanghai

Sefydliad

Conservatory Cerddoriaeth Shanghai

Gwlad

Gweriniaeth Tsiec

Dinas

Brno

Sefydliad

Academi Cerddoriaeth a Theatr Janacek

Gwlad

Denmarc

Dinas

Aarhus

Sefydliad

Academi Gerdd Frenhinol

Gwlad

Estonia

Dinas

Tallinn

Sefydliad

Academi Gerddoriaeth Estonia

Gwlad

Ffindir

Dinas

Helsinki

Sefydliad

Academi Sibelius / Prifysgol y Celfyddydau

Gwlad

Ffrainc

Dinas

Lyon

Sefydliad

Conservatoire National Superior Musique et Danse Lyon

Gwlad

Yr Almaen

Dinas

Leipzig

Sefydliad

Hochschule für Musik und Theater 'Mendelssohn-Bartholdy'

Gwlad
Dinas

Hannover

Sefydliad

Hochschule für Musik und Theater

Gwlad
Dinas

Dresden

Sefydliad

Hochschule für Musik Carl Maria von Weber

Gwlad

Hwngari

Dinas

Bwdapest

Sefydliad

Academi Gerddoriaeth Liszt Ferenc

Gwlad

Gwlad yr Iâ

Dinas

Reykjavik

Sefydliad

Academi Celfyddydau Gwlad yr Iâ

Gwlad

Iwerddon

Dinas

Dulyn

Sefydliad

Academi Gerddoriaeth Frenhinol Iwerddon

Gwlad

Yr Eidal

Dinas

Turin

Sefydliad

Conservatorio 'G Verdi'

Gwlad
Dinas

Verona

Sefydliad

Conservatorio di Verona

Gwlad
Dinas

Parma

Sefydliad

Conservatorio di Musica 'A. Boito'

Gwlad

Japan

Dinas

Osaka

Sefydliad

Coleg Cerdd Osaka

Gwlad

Lithwania

Dinas

Vilnius

Sefydliad

Academi Cerddoriaeth a Theatr Lithwania

Gwlad

Yr Iseldiroedd

Dinas

Utrecht

Sefydliad

Adran Gerddoriaeth, Prifysgol y Celfyddydau

Gwlad
Dinas

Amsterdam

Sefydliad

Conservatorium van Amsterdam

Gwlad
Dinas

Rotterdam

Sefydliad

CODARTS

Gwlad
Dinas

Tilburg

Sefydliad

Academi Fontys

Gwlad

Norwy

Dinas

Oslo

Sefydliad

Academi Gerddoriaeth Norwy

Gwlad
Dinas

Bergen

Sefydliad

Academi Grieg

Gwlad

Gwlad Pwyl

Dinas

Łódź

Sefydliad

Prifysgol Gerddoriaeth Grazyna a Kiejstut Bacewicz

Gwlad
Dinas

Krakow

Sefydliad

Academi Gerddoriaeth Krzysztof Penderecki

Gwlad

Portiwgal

Dinas

Porto

Sefydliad

Escola Superior de Musica e das Artes Spectaculares

Gwlad

Sbaen

Dinas

Madrid

Sefydliad

Real Conservatorio Superior de Musica de Madrid

Gwlad
Dinas

Barcelona

Sefydliad

Escola Superior de Musica de Catalunya

Gwlad
Dinas

Barcelona

Sefydliad

Conservatori del Liceu

Gwlad

Y Swistir

Dinas

Bern

Sefydliad

Hochschule fur Musik

Gwlad
Dinas

Geneva

Sefydliad

Conservatoire de Geneve

Gwlad

Gwlad Thai

Dinas

Bangkok

Sefydliad

Adran Gerddoriaeth Prifysgol Mahidol

Gwlad
Dinas
Sefydliad

Sefydliad Cerddoriaeth y Dywysoges Galyani Vadhana

Gwlad

UDA

Dinas

Denton, TX

Sefydliad

Adran Gerddoriaeth Gogledd Texas