

Diwrnodau agored
Celf Golygfeydd ac Adeiladu Golygfeydd | Digwyddiad agored
Trosolwg
20 Mawrth & 15 Mai 2025 (11yb - 12yp)
Lleoliad
Prisiau
Ddim yn berthnasol
Tocynnau: Ddim yn berthnasol
Am y sesiwn
Rydyn ni eisiau eich cefnogi chi i wneud penderfyniad gwybodus am ble rydych chi am astudio, dyna pam rydyn ni'n agor ein drysau gweithdai i'r rhai sydd â diddordeb mewn astudio ar ein cyrsiau Gradd Sylfaen mewn Adeiladu Golygfeydd neu Radd Sylfaen mewn Celf Golygfeydd.
P’un a ydych yn ddarpar fyfyriwr neu wedi gwneud cais yn barod ac wedi derbyn eich lle, ymunwch â ni am daith unigryw a sgwrs am y cwrs gydag arweinwyr y cwrs, Mike a Laura.
Mae lleoedd yn gyfyngedig felly archebwch eich lle nawr!
- Dydd Iau 20 Mawrth, 11yb
- Dydd Iau 15 Mai, 11yb
Mae archebu ymlaen llaw yn hanfodol, dilynwch y ddolen yma i'n ffurflen archebu.
Bydd gofyn i chi wisgo esgidiau gwastad a caeedig ar gyfer eich ymweliad.
Dysgwch fwy am y cyrsiau

Gradd Sylfaen mewn Adeiladu Golygfeydd

Gradd Sylfaen mewn Celf Golygfeydd

Cynllunio
Sut i ddod o hyd i'r gweithdy
Mae ein gweithdy yn Llanisien wedi’i leoli ym Mharc Busnes Caerdydd, sydd daith bws fer o’r prif gampws. Mae’n gyfleuster o’r radd flaenaf ar gyfer addysgu technegau adeiladu a chelfyddydau golygfaol.
Cyfeiriad
Llanisien
Caerdydd
CF14 5GG
Ffyrdd eraill o dreulio'ch amser ar eich ymweliad
Beth am wneud y mwyaf o’ch ymweliad drwy weld beth sydd gan Gaerdydd a’r Coleg i’w gynnig?

Gwneud: Arddangosfa Cynllunio

Byw yng Nghaerdydd

Llety

Stiwdios Llanisien

Bar y Caffi

Beth sydd ymlaen yn CBCDC
Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf
Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau
Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy