DigwyddiadGraddio 2025Ymunwch â ni i ddathlu ein graddedigion 2025 ar 10 a 11 Gorffennaf yn Neuadd Dora Stoutzker.
DigwyddiadLlŷr Williams: Shostakovich Preliwd a Ffiwgiau IRoedd Shostakovich yn byw ac yn gweithio dan drefn lem Comiwnyddiaeth ond ni allai neb gaethiwo ei ddychymyg, ac yn ei Breliwdiau a Ffiwgiau ar gyfer un piano mae hwnnw’n llifo’n rhyfeddol o rydd.
DigwyddiadPedwarawd Carducci a Llinynnau CBCDCBydd ein perfformwyr llinynnau yn camu i’r llwyfan gyda Phedwarawd Llinynnol Preswyl CBCDC i arddangos y gwaith y maent wedi’i wneud gyda’i gilydd dros y flwyddyn ddiwethaf.
DigwyddiadLlŷr Williams: Britten a Chyfoeswyr PrydeinigI’r Benjamin Britten ifanc, gwyliau ym Mhrestatyn oedd yr allwedd i fyd newydd o ffraethineb a dyfeisgarwch cerddorol. Dyna fan cychwyn y daith dywys liwgar hon trwy fydysawd gwyllt a gwych (a rhyfeddol yn aml) cerddoriaeth piano Prydeinig o’r ugeinfed ganrif: campweithiau a miniaturau gan Britten, Warlock, Moeran a Tippett, i gyd yn dod yn fyw dan fysedd y pianydd penigamp ac artist cyswllt CBCDC, Llŷr Williams.