Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Canlyniadau chwilio

Canlyniadau chwilio ar gyfer ' ' | 1515 o ganlyniadau wedi’u canfod.

Digwyddiad

Awyrgylch 2025: If the Walls Could Talk

Pe gallai’r waliau siarad, pa gyfrinachau fyddai’n cael eu datgelu? Dewch ar daith gyda’r hwyr i arsylwi ar rannau tywyll a dirgel Dinas Gothig yn Llundain Oes Fictoria trwy’r profiad clyweledol hwn.
Digwyddiad

Awyrgylch 2025: Myfanwy

‘Neud wyf ddihynwyf, hoen Creirwy-hoywdeg, am hudodd fal Garwy, O fan o’r byd, rhwym gwyd rhwy, O fynor gaer Fyfanwy.’ Opera newydd sy’n adrodd hanes rhamant hynafol llys Powys Fadog, yn ystod esgyniad cythryblus Llewelyn ap Gruffudd.
Digwyddiad

Awyrgylch 2025: What if they don't want to be found?

Drama farddonol tair act sy’n adrodd hanes anifeiliaid dryslyd ac mewn perygl, gan dynnu cymariaethau rhyngddynt a’r cyfansoddwr. Wedi’i hadrodd trwy gerddi a rhyddiaith, gyda chymorth gwaith celf, tafluniadau a phropiau.
Digwyddiad

Awyrgylch 2025: Sky Frog

Cyfle i fwynhau lluniau a seiniau fideo cerddoriaeth gyntaf y ddeuawd pop electronig sky frog.
Digwyddiad

Awyrgylch 2025: The Echo of the Rain

Mae’r gorffennol a’r presennol yn gwrthdaro mewn stori freuddwydiol am aberth, gobaith, a deisyfiad oesol y ddynoliaeth am iachawdwriaeth. Rhwng realiti a myth, mae’r perfformiad hwn yn plethu cerddoriaeth, dawns, ac adrodd straeon i archwiliad byw o’r hyn sydd ei angen i sicrhau newid - galar, llawenydd, neu ffydd ddiwyro.
Digwyddiad

Awyrgylch 2025: The Boy Who Fell from the Sky

Mae’r stori’n dechrau gydag ymddangosiad sydyn bachgen o ffoadur mewn gwareiddiad Prydeinig yng nghanol y cyhoedd. Mae’r opera hon yn archwilio creu bwch dihangol o ffoaduriaid a cheiswyr lloches ac yn amlygu eu gwirioneddau a’u teithiau o bedwar ban byd.
Digwyddiad

Awyrgylch 2025: Coleddu/ Sustain

Deuir â cherddoriaeth jazz, gwerin a chyfoes ynghyd gydag ethos DIY/pync ac agwedd anarchaidd tuag at greu cerddoriaeth, sy’n blaenoriaethu penderfyniadau digymell dros ragoriaeth benodol. Mae’r gwaith hwn ar gyfer offerynnau chwyddedig ac electroneg fyw yn archwilio hunaniaeth gyfunol a chyfansoddiad organig gan ddefnyddio gwaith byrfyfyr.
Digwyddiad

Awyrgylch 2025: Pop up opera

Byddwch yn barod am yr annisgwyl, wrth i ddrama operatig ddatblygu o’ch cwmpas!
Digwyddiad

Our House

Sioe gerdd sydd wedi ennill Gwobr Olivier gan Tim Firth, awdur Calendar Girls, yn cynnwys caneuon Madness. Stori garu ddoniol a theimladwy, yn cynnwys cerddoriaeth Madness: House of Fun, Baggy Trousers, Driving in my Car, It Must Be Love ac wrth gwrs, Our House
Digwyddiad

Dunraven Welsh Young Singer of the Year Competition

Mae 2025 yn nodi 21 o flynyddoedd ers dechrau cystadleuaeth sydd wedi sefydlu ei hun fel un o’r rhai mwyaf mawreddog yng Nghymru. Gydag enillwyr blaenorol yn mynd ymlaen i gystadlu yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Flwyddyn Caerdydd, peidiwch â cholli’r cyfle hwn i weld rhai o ddoniau gorau gwlad y gân. Noddir gan Mr a Mrs David Brace OBE, y cyflwynydd fydd Beverley Humphries MBE ac fe’i beirniedir gan yr enwog Rebecca Evans CBE, Dennis O’Neill CBE a David Jackson OBE.