Offerynnau Taro CBCDC yn cyflwyno Big Bash Saturday
Mynychodd ein hymwelwyr weithdai cerddorfa, ensemble a drymiau cyn i’r Samba Torfol ddod â’r Bash i uchafbwynt gwefreiddiol.
Arweiniwyd y diwrnod gan y Pennaeth Offerynnau Taro Patrick King ac ymunodd ein myfyrwyr Conservatoire Iau, myfyrwyr offerynnau taro, a’r offerynnwr taro Owen Gunnell a’r drymiwr Matt French gydag ef.
Allow Twitter content?
Lorem ipsum doler sit amet Twitter seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.
Dechreuodd Owen gydag ensemble marimba, gan chwarae dehongliad o Free Fallin’ gan Tom Petty gyda Love Music Trust o Swydd Gaer.
Allow Twitter content?
Lorem ipsum doler sit amet Twitter seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.
Cymerodd fyfyrwyr eu tro ar y drymiau, gan ganolbwyntio ar bwysigrwydd rhythm yn ystod sesiwn cit drymiau hwyliog gyda Matt French.
Allow Twitter content?
Lorem ipsum doler sit amet Twitter seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.
Patrick oedd yng ngofal y sesiwn cerddorfa, lle cafodd blant ysgol o ddeg oed i fyny gyfle i chwarae’r tympanau, maracas a’r triongl.
Rhoddodd y gweithdai y gallu i bawb gael hwyl a thyfu fel cerddorion yn eu ffyrdd eu hunain.
Gwnaethom ymuno gyda’r plant a dangos iddynt sut i chwarae pethau a chadw mewn amser. Nid oedd unrhyw bwysau ac roedd hi’n braf gweld pawb yn cael hwyl ac yn cydweithio fel tîm.Hope HollowellMyfyriwr blwyddyn olaf
Allow Twitter content?
Lorem ipsum doler sit amet Twitter seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.
Daeth y samba torfol â’r gweithdai i ddiweddglo hwyliog, drwy berfformio ym mynedfa’r Coleg mewn perfformiad cyhoeddus digymell a oedd yn teimlo fel petai’r offerynwyr wedi bod yn cyd-chwarae ers blynyddoedd.
'Roedd yn ddiwrnod rhyfeddol o chwarae offerynnau taro. Cyfle i ddechreuwyr a cherddorion profiadol greu cerddoriaeth a dysgu gan rai o’r tiwtoriaid gorau yn y maes!
Roedd cynnwys y gymuned yn y samba ar gyfer pobl sydd erioed wedi chwarae offerynnau taro o’r blaen yn llwyddiant ysgubol.'Patrick KingPennaeth Offerynnau Taro
Allow Instagram content?
Lorem ipsum doler sit amet Instagram seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.
Daeth y diwrnod i ben gyda’n myfyrwyr yn chwarae gydag ‘offerynnwr taro mwyaf beiddgar y byd’ Colin Currie mewn perfformiad yn Neuadd Dora Stoutzker.
Ymunodd ein myfyrwyr gyda Colin i chwarae clasuron modern gan y cyfansoddwr Americanaidd Steve Reich.
'Roedd gweithio gyda Colin yn brofiad rhyfeddol. Roedd treulio amser gyda gŵr mor graff a meistrolgar yn ysbrydoliaeth ac yn brofiad arbennig.
Drwy weld pa mor ymwybodol ydoedd o’r gerddoriaeth o’i gwmpas gwelais feddwl rhywun sydd â gallu rhyfeddol. Hoffwn gyrraedd lefel ei safon ef o feistrolaeth un diwrnod.'Isaac CortvriendMyfyriwr offerynnwr taro
Ychwanegodd Hope, a berfformiodd Ionization gyda Colin:
'Roedd yn gyfle gwych i gael fy arwain gan rywun mor uchel ei fri yn y byd offerynnau taro.
Bu Colin hefyd yn sgwrsio gyda ni ar y dydd. Soniodd am ei yrfa a rhoddodd fewnwelediad gwirioneddol i ni i bosibiliadau gyrfa wedi i ni adael y Coleg.'Hope HollowellMyfyriwr blwyddyn olaf