Maestro Carlo Rizzi yn dychwelyd i arwain Opera Gwanwyn CBCDC
Allow Youtube content?
Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.
Arweinydd opera pwerus
Mae Carlo Rizzi yn arweinydd opera pwerus, y mae galw mawr am ei wasanaeth yn nhai opera a neuaddau cyngerdd mwyaf y byd, a bydd yn gweithio’n rheolaidd gyda’r cantorion opera a’r cerddorfeydd uchaf eu proffil yn rhyngwladol.
Mae’n rhyfeddol felly ei fod eleni, ar ganol ei waith arwain yn Efrog Newydd, Fienna, Seoul, Beijing, a rhyddhau pedwar CD newydd (yn rhinwedd ei waith fel arweinydd, golygydd, trefnydd a phianydd), yn neilltuo amser i ddod ac arwain myfyrwyr CBCDC yn Theatr y Sherman.
Felly, fel yr eglura’r Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Tim Rhys-Evans, mae’n bleser gennym ei groesawu’n ôl i’r Coleg i arwain ein Opera Gwanwyn:
Fe ddes i’n ymwybodol o Carlo am y tro cyntaf pan, fel myfyriwr cerddoriaeth, y mynychais bob perfformiad WNO y gallwn yn ystod ei gyfnod hynod lwyddiannus fel Cyfarwyddwr Cerdd ein cwmni opera cenedlaethol. Rydw i wedi bod yn ffodus i weithio gydag ef ar sawl achlysur ac yn ystod yr holl flynyddoedd y peth sy’n gwbl amlwg am Carlo Rizzi yw ei egni diderfyn a’i ysfa ddi-baid am ragoriaeth gerddorol ym mhopeth a wna. Ac mae’n dod â’r holl arbenigedd a brwdfrydedd dihafal i’w waith gyda’n myfyrwyr.
Anelu am ragoriaeth gerddorol – ysbrydoli a meithrin ein myfyrwyrs
Yn ddiweddar fe wnes fynychu rhai o rihyrsals Carlo gyda’n cantorion o Ysgol Opera David Seligman wrth iddynt baratoi ar gyfer rhaglen dwy opera gwanwyn CBCDC o Gianni Schicchi gan Puccini a La Bella Dormenta Nel Bosco gan Respighi (neu ‘Y Rhiain Gwsg’ i chi a fi).
Yr hyn a welais oedd yr un sylw cwbl drylwyr i fanylion y gwn sy’n ganolog i’w arferion gwaith: ysfa ddigyfaddawd am ragoriaeth gerddorol arddulliadol, gwybodaeth a dealltwriaeth ddofn o’r llais dynol, plymio’n ddwfn i gymhlethdodau ieithyddol y gweithiau ac angen dirdynnol i greu’r gwaith gorau posibl.
Bydd nawr yn ehangu ei ddylanwad yn y Coleg wrth iddo ddechrau gweithio gyda’n myfyrwyr cerddorfaol yn chwarae ar gyfer yr operâu, a gyda’n harweinyddion cerddorfaol ifanc. Gwn y bydd yr holl rihyrsals hyn yr un mor drylwyr ac ysbrydoledig â’r rheini y mae’n eu harwain yn The Met neu La Scala.
Athro Cadair Rhyngwladol mewn Arwain CBCDC
Mae gan Carlo hanes hir o weithio gyda ni yn CBCDC. Yn ogystal â bod yn Athro Cadair Rhyngwladol mewn Arwain, mae hefyd yn un o Lywyddion Ysgol Opera David Seligman.
Bu’n arwain Falstaff gan Verdi i ni yn 2016 ac mae wedi arwain ein Gala Opera WNO ar sawl achlysur. Mae hefyd wedi perfformio datganiadau yn neuadd Gyngerdd Dora Stoutzker fel pianydd cydweithredol gyda chantorion, wedi rhoi nifer o ddosbarthiadau a sgyrsiau i fyfyrwyr… a llawer mwy. Felly, mae ei ymrwymiad i CBCDC yn enfawr a hael ac ni allem fod yn fwy diolchgar.
Wrth i ni agosáu at yr wythnosau olaf y rihyrsals ar gyfer ein dwy Opera Gwanwyn, wedi’u cyfarwyddo’n graff, yn fanwl ac yn wych gan Caroline Clegg (un o grewyr Blaze of Glory WNO y llynedd), rwy’n gwybod yn barod y caiff ein cynulleidfaoedd wledd.
Mae’r gwaith, a’r nifer aruthrol o bobl, sy’n rhan o gynhyrchu opera yn enfawr. Mae hefyd yn broses gydweithredol, oherwydd yn ogystal â’r nifer fawr o fyfyrwyr cerddoriaeth sy’n cymryd rhan, mae myfyrwyr o bob adran o’r Coleg – cynllunwyr set a gwisgoedd, rheolwyr llwyfan, gwneuthurwyr setiau a phropiau – i gyd yn cael eu harwain yn fedrus drwy’r broses gan ein timau o staff llawn ymroddiad, yn ymrwymo oriau gwaith i wneud hon yn sioe fydd yn aros yn y cof.
Ond, er mor wych ag y gwn y bydd y perfformiadau, y broses o wneud y gwaith yw lle mae’r rhyfeddod go iawn yn digwydd - ac mae gallu dod â cherddoriaeth Respighi a Puccini yn fyw o dan faton Maestro Rizzi yn gyfle prin y gall sefydliadau ond breuddwydio amdano.
Dathlu ‘Grande Ufficiale’ yr ‘Ordine della Stella d’Italia’ (Urdd Seren yr Eidal)
Mae 2024 yn nodi can mlynedd ers marw Puccini a dechreuodd Carlo y flwyddyn hon yn arwain La Fanciulla del West (ochr yn ochr â I Vespri Siciliani) yn Opera Gwladol Fienna. Yr haf hwn bydd Carlo’n dychwelyd i WNO unwaith eto i arwain Gianni Schicchi, ynghyd â’r ddwy opera arall sy’n rhan o Il Trittico gan Puccini.
Mae thema Puccini 2024 hefyd yn amlwg ar gryno ddisg newydd Carlo ohono’n arwain cerddorfa WNO gyda dwy gyfres gerddorfaol Puccini newydd sbon y mae ef ei hun wedi’u creu o sgorau Tosca a Madama Butterfly (rwy’n eich annog i wrando arnynt gan eu bod yn ogoneddus).
Mae’n addas iddo hefyd yn 2024 dderbyn anrhydedd ‘Grande Ufficiale’ (Uwch Swyddog) yr ‘Ordine della Stella d’Italia’ (Urdd Seren yr Eidal) am ei ymrwymiad a’i gyfraniad i hyrwyddo cerddoriaeth a diwylliant yr Eidal yn rhyngwladol.
Nid gor-ganmol yw dweud bod Carlo Rizzi yn brif awdurdod ac yn un o arweinwyr gorau opera Eidalaidd ac mae’r ffaith ei fod, yng nghanol popeth arall y mae’n ei wneud, yn neilltuo amser yn ein blwyddyn pen-blwydd yn 75 oed, i arwain myfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn gamp i CBCDC, yn brofiad dysgu bythgofiadwy i’n myfyrwyr ac yn bleser i’n cynulleidfaoedd – peidiwch â’i golli!!
Grazie mille, Carlo!