Lara James
Tiwtor sacsoffon
Rôl y swydd: Tiwtor Obo
Adran: Chwythbrennau
Anrhydeddau: BMus (Anrh), PGDipRAM, PGDipRCM, FRAM
Mae Steven Hudson yn Brif Oböydd Adran yng Ngherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac yn Athro’r Obo yn y Guildhall School of Music and Drama a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Wedi’i eni a’i fagu yng Ngogledd Swydd Efrog, dechreuodd ddysgu’r obo yn 16 oed. Aeth ymlaen i astudio yn y Guildhall School of Music and Drama gyda Gordon Hunt a Richard Simpson, gan raddio â Gradd Dosbarth Cyntaf er Anrhydedd ac ennill gwobr chwythbrennau’r Worshipful Company of Needlemakers. Astudiodd ymhellach yn y Conservatoire Nationale Supérieur de Musique et de Danse de Paris gyda David Walter, yr Academi Gerdd Frenhinol a’r Coleg Cerdd Brenhinol lle y graddiodd â rhagoriaeth gan ennill gwobr obo y Coleg Cerdd Brenhinol. Yn ystod y cyfnod hwn roedd hefyd yn aelod o Verbier Festival Orchestra.
Dychwelodd Steven i’w wreiddiau yng ngogledd-ddwyrain Lloegr pan gafodd ei benodi’n Brif Oböydd Adran y Royal Northern Sinfonia. Drwy’r RNS, cafodd lawer o uchafbwyntiau gan gynnwys perfformiadau o’r Concerto i’r Obo gan Vaughan Williams wedi’u recordio’n fyw ar gyfer Classic FM, taith ym Mrasil fel unawdydd yn y Concerto i’r Obo yn D leiaf gan Albinoni a gwisgo fel aderyn yng nghoncerto i’r obo Bird Spirit Dreaming gan Ross Edwards!
Ac yntau’n gerddor siambr prysur, mae Steven wedi rhoi darllediadau, datganiadau a pherfformiadau o gerddoriaeth siambr yn y BBC Proms, yn Ffrainc, Japan, Tsieina a De America. Caiff ei wahodd yn rheolaidd i ymddangos yng Ngŵyl Cerddoriaeth Siambr Spannungen Lars Vogt yn yr Almaen. Mae hefyd yn ymddangos yn rheolaidd fel prif oböydd gwadd gyda llawer o brif gerddorfeydd y Deyrnas Unedig.
Ar wahân i’w ymrwymiadau addysgu, mae Steven wedi rhoi dosbarthiadau yn y Coleg Cerdd Brenhinol, Royal Conservatoire of Scotland a Sage Gateshead. Yn 2017, cafodd ei wneud yn Aelod Cyswllt o’r Academi Gerdd Frenhinol.