

Ciniawau a derbyniadau
Mae ein lleoliadau trawiadol ar gael at eich defnydd chi’n egsgliwsif, ar gyfer hyd at 200 o westeion cinio ffurfiol a hyd at 500 o westeion derbyniad.
Gadewch i ni gynnal eich digwyddiad
Mae ein cyntedd gwydr tri llawr syfrdanol a’n teras awyr-agored sy’n edrych allan dros barcdir rhestredig Gradd 1 Parc Bute a Chastell Caerdydd yn un o’r lleoliadau mwyaf poblogaidd yng Nghaerdydd.
Bwyd a diod bendigedig
Ein lleoliadau
Mae ein lleoliadau trawiadol ar gael at eich defnydd chi’n egsgliwsif, ar gyfer hyd at 200 o westeion cinio ffurfiol a hyd at 500 o westeion derbyniad.
Mae dwy ystafell dderbyn arall ar gyfer hyd at 80 o westeion, ar gael yng nghanolfan hanesyddol Anthony Hopkins, stablau gwreiddiol Castell Caerdydd. Mae ei rhodfa goediog atyniadol yn cynnig mynedfa drawiadol ar gyfer eich gwesteion.
Cewch gefnogaeth ein tîm llawn, a fydd yn cynnig gwasanaethau cynllunio digwyddiadau proffesiynol, cefnogaeth dechnegol brofiadol ac arbenigol, arlwyo heb ei ail, gofal cwsmeriaid croesawus a doniau perfformio disglair.
Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud
Ein mannau llogi

Neuadd Dora Stoutzker

Theatr Richard Burton

Canolfan Anthony Hopkins

Galeri Linbury

Theatr Bute

Cyntedd Carne

Stiwdio Caird

Bar y Caffi
