Canlyniadau chwilio
Canlyniadau chwilio ar gyfer ' ' | 1360 o ganlyniadau wedi’u canfod.
Charlotte Howgego
Gweithio i'r Coleg
Os hoffech chi ymuno ag un o weithleoedd mwyaf creadigol Cymru - gyda hyblygrwydd a buddion rhagorol, tarwch olwg ar ein cyfleoedd gyrfa presennol.
Canolfan Anthony Hopkins
Mae’r Ganolfan Anthony Hopkins hanesyddol, gyda’i hiard awyr agored drawiadol a’i lôn goed, yn gartref i gyfleusterau pwysig y Coleg, gan gynnwys stiwdios Corus a Weston, theatr stiwdio S4C, sawl ystafell ymarfer cerddoriaeth a stiwdio recordio broffesiynol.
Galeri Linbury
Mae ein horiel gyhoeddus yn cynnal rhaglen newidiol o arddangosfeydd a rhai o’r digwyddiadau y mae pobl yn edrych ymlaen fwyaf atynt, gan gynnwys yr arddangosfeydd dylunio Cydbwysedd a Chelf y Gellir ei Wisgo sy’n cael eu harwain gan fyfyrwyr.
Theatr Bute
Gofod perfformio ‘blwch du’ hyblyg sydd â’r holl adnoddau angenrheidiol a chyfleusterau o’r radd flaenaf, ar gyfer hyd at 160 o bobl.
Bar y Caffi
Yn ein Cyntedd Carne godidog, gyda golygfeydd gwych dros Barc Bute, mae ein bar caffi yn lle gwych i fwynhau awyrgylch creadigol y Coleg – os ydych yn cwrdd â ffrindiau, yn mwynhau ein cyngherddau cerddoriaeth am ddim yn y cyntedd neu’n cymryd rhan mewn sioe.
Yr Hen Lyfrgell
Rydym wrthi'n trawsnewid adeilad hyfryd yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd. Yn y tymor byr, byddwn yn ei ddefnyddio ar gyfer ymarferion, tra byddwn yn paratoi'r adeilad ar gyfer y dyfodol. Yn y tymor hir, byddwn yn cynnal rhaglen fywiog o berfformiadau a digwyddiadau cyhoeddus ym maes cerddoriaeth a drama.
Cyntedd Carne
Cyntedd Carne yw mynedfa odidog y Coleg, sydd ar agor i bawb ei fwynhau. Mae’n llawn golau naturiol ac mae’n edrych dros Barc Bute, un o barciau trefol mwyaf a harddaf y DU.
Stiwdio Caird
Gofod perfformio ac ymarfer ‘blwch du’ hyblyg.