Gweithio i'r Coleg
Os hoffech chi ymuno ag un o weithleoedd mwyaf creadigol Cymru - gyda hyblygrwydd a buddion rhagorol, tarwch olwg ar ein cyfleoedd gyrfa presennol.
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn denu’r dalent greadigol orau o bob rhan o’r byd. Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, rydym yn tanio dychymyg ac yn ysgogi arloesedd, gan gynnig hyfforddiant i fwy nag 800 o actorion, cerddorion, cynllunwyr, technegwyr a rheolwyr yn y celfyddydau o dros 40 o wledydd. Caiff doniau a photensial rhyfeddol ein myfyrwyr eu cyfuno ag addysgu eithriadol a chysylltiadau heb eu hail â diwydiant i wireddu breuddwydion. Yn lle i bawb, mae uchelgais creadigol a chydweithio yn ganolog i’n rhagoriaeth.
Fel cyflogwr ‘Hyderus o ran Anabledd’ rydym yn gwarantu bod pob ymgeisydd anabl sy’n bodloni’r holl feini prawf allweddol ar gyfer y swydd wag y maent yn gwneud cais amdani yn cael cynnig cyfweliad.
Os byddech yn mwynhau gweithio gyda grŵp o gyfadran a staff amrywiol a thalentog mewn cymuned fywiog a chroesawgar, mae croeso i chi wneud cais i weithio gyda ni. Rydym wedi ymrwymo’n barhaus i egwyddorion ac arferion amrywiaeth a chynhwysiant ledled cymuned y Coleg. Mae ein strategaeth a pholisi cyfle cyfartal yn nodi ein hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ar gyfer yr holl staff. I gael gwybod mwy am rai o’r mentrau penodol sydd gennym ar waith er mwyn cefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth staff, darllenwch ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol.