Sut i ymgeisio - Cyrsiau Dylunio MA
Popeth sydd angen i chi wybod am wneud cais i astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Sut i ymgeisio
I gael mynediad i gwrs mae’n rhaid i chi wneud cais drwy UCAS Conservatoires. Mae’r gwasanaeth hwn yn eich galluogi i wneud cais i fwy nag un conservatoire a chadw golwg ar hynt a helynt eich cais ar-lein. Mae yna ffi untro o £28.50 i’w dalu i ddefnyddio UCAS Conservatoires.
I gychwyn cais newydd, ewch i UCAS Conservatoires: Ymgeisio a Thracio.
Cod Sefydliad UCAS Conservatoires ar gyfer Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw R59 ac mae Cod y Cwrs i'w weld ar dudalen y cwrs.
- Yn eich cais, gofynnir i chi am fanylion eich canolwr ‘ymarferol/cerddoriaeth’. Llythyr geirda yw hwn, wedi’i ysgrifennu gan eich athro/darlithydd drama, pennaeth adran, neu unrhyw unigolyn priodol arall a all wneud sylwadau ar eich galluoedd perfformio ar actio.
- Rydym yn argymell eich bod yn rhoi sylw penodol i’r wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn eich datganiad personol ar eich ffurflen gais, er mwyn rhoi darlun mor glir â phosibl i ni o’ch profiad perthnasol a’ch rhesymau dros wneud cais.
- Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu cyfweld. Y cyfweliad yw eich cyfle i ddarparu rhagor o wybodaeth i gefnogi eich cais. Bydd y tiwtoriaid yn gofyn i chi drafod eich diddordebau penodol, eich profiad ymarferol a’ch dyheadau gyrfa. Byddwch yn cael cyfle i ofyn cwestiynau penodol am y rhaglen hefyd.
Portffolio
Ar ôl i chi gyflwyno’ch cais drwy UCAS Conservatoires, byddwn yn eich gwahodd i gyflwyno portffolio o’ch gwaith drwy Acceptd (byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am Acceptd ar ôl i ni dderbyn eich cais).
Mae’n rhaid i’ch portffolio gynnwys eich gwaith eich hun a gwaith rydych chi am i’r panel ei weld tra’n ystyried eich cais. Gall hyn fod yn unrhyw beth o baentiadau, lluniau, brasluniau, cerfluniau, gwisgoedd, modelau, bocsys model, ffotograffau ac ati. Mae’r panel yn disgwyl gweld tystiolaeth o gynlluniau a lluniau sy’n gysylltiedig â’r theatr yn y portffolio. Rydym yn argymell nad ydych chi’n golygu’r gwaith rydych chi’n ei gynnwys yn eich portffolio. Mae gennym ni ddiddordeb mewn gweld eich holl waith gan gynnwys darnau rydych chi’n eu hystyried yn dda a’r rhai nad ydynt cystal.
Bydd ein tiwtoriaid yn ystyried eich cais UCAS a’r portffolio gyda’i gilydd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliad ar-lein ar Zoom. Bydd gwahoddiadau i gyfweliadau yn cael eu gwneud drwy Acceptd.
Bydd tiwtoriaid yn ystyried y cyfweliad, y cais UCAS a’r portffolio cyn penderfynu a fydd cynnig i astudio yn cael ei wneud.
Dyddiadau ar gyfer gwneud cais
Ceisiadau’n agor | 10 Gorffennaf 2024 |
---|---|
Ceisiadau’n cau | Mawrth 25 2025 |