Emma Lewis
Tiwtor Symyd
Mae’r soprano delynegol Elizabeth Atherton yr un mor gartrefol ar y llwyfan opera neu’r llwyfan cyngerdd. Mae ei hyblygrwydd fel cerddor ac actores yn golygu ei bod wedi canu rhannau yn amrywio o Handel a Mozart i Bizet a Britten, a chafodd rhannau Eurydice yn opera Syr Harrison Birtwistle The Corridor a Medea yn The Cure eu creu ar ei chyfer gan ddenu clod y beirniaid.
Ar ôl ennill sawl gwobr fawreddog gan gynnwys Gwobr Maggie Teyte, ymddangosiad cyntaf Elizabeth oedd fel Helena yn Midsummer Night's Dream (English Touring Opera). Wedi hynny daeth yn Artist Cyswllt yn Opera Cenedlaethol Cymru, gan berfformio rhannau gan gynnwys yr Iarlles a Pamina yng ngwaith Mozart, ac ers hynny mae wedi perfformio'n rheolaidd yn Opera North, gan gael llawer o lwyddiant mewn rhannau'n cynnwys Fiordiligi Mozart a Governess Britten.
Mewn cyngherddau, mae Elizabeth wedi gweithio gydag arweinwyr adnabyddus fel Syr Mark Elder, Syr Andrew Davis, Syr Charles Mackerras, Vladimir Jurowski, Syr Neville Mariner, Pierre Boulez a Thierry Fischer. Mae ei huchafbwyntiau’n cynnwys perfformiadau gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, BBC Symphony, London Symphony Orchestra, Philharmonia, Royal Liverpool Philharmonic, Orchestra Sinfonica di Milano, Orchestre de Paris, Hong Kong Philharmonic a St. Paul Chamber Orchestra.
A hithau’n ddatgeiniad ymroddedig, mae Elizabeth wedi ymddangos gydag Iain Burnside, Malcolm Martineau a Roger Vignoles, gan gynnwys ymddangosiadau yng Ngŵyl Aldeburgh a Wigmore Hall. Mae'n darlledu'n rheolaidd ar BBC Radio 3, gan gynnwys Lieder Mahler a Strauss gyda BBC Symphony a Jiri Belohlàvek, ac mae ei chatalog recordiau’n cynnwys Via Crucis gan Liszt a Missa Choralis (Corydon Singers/Matthew Best), Classic Children's Songs gyda Roderick Williams ac Iain Burnside, Saul (The Sixteen/Harry Christophers) ac On this Island gan Britten gyda Malcolm Martineau.