Neidio i’r prif gynnwys

Chwythbrennau: Cyrsiau

Hyfforddwch dan arweiniad cerddorion proffesiynol nodedig o brif gerddorfeydd y DU – a'r cyfan mewn amgylchedd cefnogol sy’n meithrin eich creadigrwydd, eich arloesedd a’ch gallu o ran cydweithredu i’ch helpu i ddod y cerddor gorau y gallwch fod.

BMus (Anrh) Cerddoriaeth – Offerynnol a Lleisiol

Cyfle i hyfforddi ochr yn ochr â cherddorion gorau’r byd mewn awyrgylch ysbrydoledig a chydweithredol sy’n eich helpu i fodloni gofynion gyrfa gerddorol gyfoes.
Rhagor o wybodaeth

Diploma Ôl-raddedig mewn Ymarfer Proffesiynol Uwch

Mae’r rhaglen hon sydd wedi’i theilwra i’r unigolyn, ar gyfer myfyrwyr sy’n chwilio am hyfforddiant terfynol, ychwanegol cyn ymuno â’r proffesiwn o’u dewis.
Rhagor o wybodaeth

MA Rheolaeth yn y Celfyddydau

Ewch ati i ennill y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnoch i gael gyrfa lwyddiannus yn y sector creadigol, ynghyd â dau leoliad gwaith, yn ein cwrs dan arweiniad y diwydiant.
Rhagor o wybodaeth

MMus Cyfansoddwr-Perfformiwr

Astudiwch ddau arbenigedd ar y lefel uchaf, gan gyfansoddi gwaith creadigol arloesol ochr yn ochr â hyfforddiant perfformio gyda rhai o ymarferwyr gorau’r diwydiant.
Rhagor o wybodaeth

MMus Perfformio Cerddorfaol

Ymunwch â hyfforddiant arbenigol a thrylwyr gyda cherddorion cerddorfaol proffesiynol, ochr yn ochr â chynlluniau mentora a lleoliadau gyda cherddorfeydd cenedlaethol.
Rhagor o wybodaeth

MMus Perfformio Cerddoriaeth

Datblygwch yrfa rydych chi’n ei mwynhau gyda’n cwrs sy’n cynnig hyfforddiant arbenigol a nifer o gyfleoedd perfformio i gantorion ac offerynwyr.
Rhagor o wybodaeth

MMus Perfformio Chwythbrennau Aml-offeryn

Dysgwch berfformio’n hyderus gydag amrywiaeth o offerynnau chwyth mewn lleoliad theatr gerdd, gydag arbenigwyr yn y diwydiant a cherddorion arbenigol i’ch arwain.
Rhagor o wybodaeth

Archwilio’r adran hon